Parcio i Staff

Gweler yr wybodaeth isod o ran parcio i staff:

Trwyddedau staff

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am drwydded byddwch yn derbyn e-bost o fewn 48 awr waith yn cadarnhau pryd y bydd eich trwydded ar gael i'w chasglu. Os nad ydych yn derbyn e-bost o fewn yr amser hwn cysylltwch ag efastaff@aber.ac.uk neu 01970 62 1660/1947 i wirio statws eich cais.

Bydd trwyddedau a roddir yn parhau i fod yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol. 

Staff Amser-llawn a Rhan-amser

I ofyn am drwydded newydd, mewngofnodwch i'ch cyfrif Pobl Aber , dewiswch eich cyflogaeth, ac yna eich gwybodaeth bersonol, yna dewiswch y tab 'Didyniadau'. 

Noder: Mae staff rhan-amser yn cael eu hystyried yn rhai sy'n gweithio 20 awr yr wythnos neu lai. Bydd gan aelod o staff gontract PA cyfredol ac mae'n gallu darparu rhif cyflogres. 

Staff achlysurol, neu'r rhai sy'n methu talu drwy eu cyflog

Os ydych chi’n aelod o staff achlysurol, neu'n methu talu drwy eich cyflog, prynwch eich trwydded drwy'r siop ar-lein.

Staff wedi ymddeol, er Anrhydedd neu Emeritws

Os ydych chi'n aelod staff wedi ymddeol, er anrhydedd a/neu emeritws, gallwch brynu trwydded drwy'r siop ar-lein.

Cost trwydded barcio

Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd aelodau o staff yn talu am eu trwyddedau trwy eu cyflog, a ddidynnir bob mis. 

Mae taliadau parcio'n cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol ac fe gânt eu hadolygu'n flynyddol. Costau parcio ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 - 2023 yw:

Trwydded Gradd 1 - 3 4 - 6

7+

Staff £5.20 £6.06 £6.93
Cyfyngedig £5.20 £6.06 £6.93
Rhan-amser (gweithio 20 awr neu lai yr wythnos) £2.62 £2.62 £2.62
Beiciau modur £2.60 £3.03 £3.46
Deiliaid Bathodyn Glas Anabl Am ddim Am ddim Am ddim

Lleoliadau meysydd parcio

Gallwch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig a ddangosir ar  Fap parcio Penglais a Llanbadarn a Map parcio Gogerddan- mae parcio staff wedi'i farcio'n felyn.

Parcio heb drwydded

Bydd unrhyw gerbydau sy'n parcio heb drwydded a thrwy hynny’n mynd yn groes i Reoliadau Parcio'r Brifysgol, yn cael rhybudd yn y lle cyntaf. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r rheolau am yr eildro, bydd Hysbysiad Tâl Parcio yn cael ei roi ar ffenestr flaen y cerbyd. Pris y tâl hwn yw £80 (gostyngir i £40 os telir y ddyled yn brydlon o fewn 14 diwrnod). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Reoliadau Traffig a Pharcio y Brifysgol.

Newid cerbyd

Wrth newid cerbydau, cadwch eich trwydded oherwydd gallwch ei throsglwyddo i'ch car newydd. Mae unrhyw drwydded(au) sydd gennych yn cael eu clustnodi i chi fel unigolyn a gellir ei symud rhwng eich cerbyd(au) cofrestredig yn ôl y gofyn.

Os yw eich trwydded yn wyn ac yn las, cysylltwch â ni ar efastaff@aber.ac.uk neu 01970 621947 gyda'ch manylion cofrestru newydd a byddwn yn gallu diweddaru hon ar eich rhan.

Cofrestru ail gerbyd

Gallwch gofrestru hyd at ddau gerbyd, cyhyd ag mai dim ond un o'r rhain sydd ar y campws ar unrhyw un adeg. Byddai angen arddangos trwyddedau ar y ddau gerbyd bob amser. Gallwch gofrestru eich ail gerbyd drwy e-bostio efastaff@aber.ac.uk neu ffoniwch (01970) 621947 i'n hysbysu o'r rhif cofrestru. Yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi.

Oriau parcio

Mae cyfyngiadau parcio mewn ardaloedd staff yn berthnasol rhwng 08.00 - 17.30. Y tu allan i'r oriau hyn, gall meysydd parcio staff gael eu defnyddio gan ymwelwyr yn gyffredinol. Mae parcio ar linellau melyn dwbl, croesfannau i gerddwyr ac ardaloedd dosbarthu wedi'i wahardd bob amser.