Ymchwil ac Arloesi Ymddiried

Mae UKRI yn esbonio Ymchwil Ymddiried fel term “ar gyfer diogelu eiddo deallusol, ymchwil sensitif, pobl a seilwaith y DU rhag lladrad, trin a chamfanteisio posibl, gan gynnwys o ganlyniad i ymyrraeth gan actorion gelyniaethus”.

Mae'r Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Cenedlaethol (NPSA) wedi rhoi arweiniad i Brifysgolion ar sut i ddiogelu eich ymchwil.

Bydd y rhestr wirio hon yn eich helpu i werthuso cynigion ymchwil newydd i benderfynu a oes angen cymryd camau pellach.

 

Ymchwil Ymddiried ym Mhrifysgol Aberystwyth

Rydym ar hyn o bryd yn asesu ein sefyllfa mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi y gellir ymddiried ynddynt ac rydym yn gweithio i ddatblygu canllawiau pellach i Ymchwilwyr a fydd ar gael ar y dudalen we hon.

Am ragor o wybodaeth neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch yn y maes hwn, cysylltwch â drbi@aber.ac.uk.