Dyfarniadau Syr David Hughes Parry
Sefydlwyd ym 1972 i hyrwyddo Astudiaethau Cymreig.
Nod y dyfarniadau yw annog astudiaethau sy'n cyfrannu at anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
Mae croeso arbennig i geisiadau i dalu am Deithio a Chynhaliaeth.
O fewn yr amcanion a grybwyllwyd, rhoddir dyfarniadau i helpu cyflawni unrhyw un o'r dibenion isod:
- Cyfrannu at gostau cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd gan aelodau o staff y Brifysgol neu gan fyfyrwyr cofrestredig ac ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil y Brifysgol.
- Gwneud grantiau tuag at gostau ymchwil aelodau staff y Brifysgol neu ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil y Brifysgol.
- I ddarparu grantiau o werth i'w benderfynu o bryd i'w gilydd i alluogi myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill gradd Bagloriaeth i ddarllen am ail radd gyntaf
Dylid gwneud ceisiadau i gefnogi prosiectau bach nad yw'n rheolaidd. Ni ddylai'r prosiect rhedeg dros 1 flwyddyn fel arfer.
Dyddiadau cau ymgeisio ar 1 Awst; 1 Hydref; 1 Rhagfyr; 1 Chwefror; 1 Ebrill; a 1af o Fehefin. (Disgwylir uchafswm o 8 wythnos i brosesu ceisiadau.)
Sut i wneud cais:
Lawrlwythwch y ffurflen a safio fel (eich-enw-URF-DHP-Application-Form-2016 cym)