Yr ymchwil y tu cefn i'n ceirch

 

Pan fyddwch chi’n mwynhau powlen o uwd, a wyddoch chi ei bod yn debygol iawn bod y ceirch wedi dod o fath a fridiwyd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Ers canrif a mwy, mae gwyddonwyr a bridwyr planhigion yn Aberystwyth wedi bod yn gwella ceirch, gan ddatblygu mathau sydd heddiw'n cyfrif am fwy na 95% o gnwd ceirch gaeaf y DU.

Mae eu hymchwil wedi agor y drws at y ddealltwriaeth enetig a biolegol sydd ei hangen i fridio ceirch sy'n uchel eu cynnyrch, yn gwrthsefyll afiechydon ac yn cwrdd â’r ansawdd a ddisgwylir gan gynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr fel ei gilydd.

Daw’r arloesi yma â manteision i ffermwyr, mae’n cefnogi dulliau mwy cynaliadwy o gynhyrchu cnydau ac yn helpu i ateb y galw cynyddol am un o gnydau grawnfwyd iachaf y byd.

Mae'r effaith wedi bod yn sylweddol. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cynhyrchiant ceirch yn y DU wedi dyblu, diolch yn rhannol i’r defnydd o fathau gwell a ddatblygwyd drwy ymchwil yn Aberystwyth.

Manteision iechyd ceirch

Un o'r prif resymau dros y cynnydd yn y galw am geirch yw eu manteision iechyd profedig a'r amryw ffyrdd y gellir eu defnyddio mewn prydau bwyd, diodydd a byrbrydau.

Caiff ceirch eu bwyta fel grawn cyflawn, ac maen nhw’n ffynhonnell ardderchog o brotein a ffibr yn ogystal ag yn naturiol ddi-glwten. Maen nhw hefyd yn ffynhonnell werthfawr o fwynau hanfodol, gan gynnwys manganîs, ffosfforws, magnesiwm, haearn a sinc.

Mae beta-glwcan yn ffibr dietegol allweddol mewn grawn ceirch, gyda buddiannau profedig o ran lleihau colesterol a hybu iechyd y galon.

Mae ceirch hefyd yn anarferol ymhlith cnydau grawnfwyd oherwydd eu lefelau cymharol uchel o olew, sy'n cynnwys asidau brasterog annirlawn buddiol sy'n cyfrannu at eu gwerth maethol a'u blas.

Ymhellach, mae ceirch yn gyfoethog mewn cyfansoddion bioactif, gan gynnwys avenanthramides, sef polyffenolau sy'n unigryw i geirch ac sydd â phriodweddau gwrthocsidiol a gwrthlidiol.

Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gall bwyta ceirch hefyd helpu i gefnogi'r system imiwnedd a hybu microbiom coluddol iach. O'u cyfuno â'r diddordeb cynyddol mewn bwydydd sy'n seiliedig ar blanhigion, mae ceirch yn cynnig ffynhonnell faethlon, gynaliadwy ac amlbwrpas o egni, protein a chyfansoddion sy'n hybu iechyd.

Buddiannau amgylcheddol

Y tu hwnt i'w gwerth maethol, mae ceirch fel cnwd yn cynnig manteision amgylcheddol ehangach.

Fel cnwd egwyl, maen nhw’n cyfrannu at wella systemau cylchdroi cnydau, gan leddfu pwysau afiechydon, cefnogi iechyd y pridd a chynyddu bioamrywiaeth mewn amaethyddiaeth ledled y DU.

Er mwyn i geirch chwarae fwy o ran mewn systemau ffermio cynaliadwy, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu ffrwd incwm cystadleuol i ffermwyr. O ganlyniad, mae ymchwilwyr a bridwyr IBERS wedi datblygu mathau gwell sy'n cyfuno cynnyrch uchel â mwy o wydnwch.

Mae mathau modern o geirch yn fyrrach ac yn llai tebygol o gwympo drosodd mewn tywydd gwlyb neu wyntog. Maen nhw hefyd yn defnyddio maetholion yn fwy effeithlon ac yn cynnig gwell ymwrthedd i afiechydon. Gyda'i gilydd, mae'r nodweddion hyn yn gwneud ceirch yn gnwd mwy cynhyrchiol, proffidiol a chynaliadwy ar gyfer amaethyddiaeth y DU.

Mathau o geirch

Mae angen mathau newydd o geirch yn barhaus er mwyn ateb y galw cynyddol am fwyd iach ac er mwyn cynnal amrywiaeth genetig cnydau.

Mae Rhestrau Argymelledig yr AHDB ar gyfer 2026-27 yn cynnwys pum math o geirch gaeaf ac un math o geirch gwanwyn a gafodd eu bridio yn IBERS, gydag eraill, megis Maunsell, yn mynd trwy dreialon profi.

Caiff y mathau hyn eu marchnata gan bartner masnachol hirdymor IBERS sef Senova, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd tyfwyr ledled y DU a thu hwnt.

Un o lwyddiannau mwyaf y rhaglen fridio yw Mascani, y math mwyaf poblogaidd o geirch gaeaf yn y DU.

Wedi'i ddatblygu yn IBERS a'i fasnacheiddio drwy Senova, daeth Mascani yn ffon fesur ar gyfer llawer o fathau eraill o geirch oherwydd ei ansawdd grawn eithriadol, ei ddibynadwyedd a'i berfformiad melino.

I gydnabod ei gyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth y DU, dyfarnwyd Cwpan Amrywiaeth mawreddog NIAB i Mascani yn 2025, ac fe’i ganmolwyd fel math "eithriadol" o geirch "o ansawdd a dibynadwyedd heb ei ail".

Mae llwyddiant Mascani wedi darparu llwyfan ar gyfer arloesi parhaus yn IBERS.

Mae mathau mwy diweddar fel Cromwell yn adeiladu ar yr etifeddiaeth hon drwy gyfuno'r ansawdd grawn sydd ei angen ar felinwyr â chynnyrch uwch a pherfformiad agronomegol cryf yn y maes.

Ychwanegwyd Cromwell at Restr Argymelledig AHDB yn 2022 ac mae’n enghraifft o sut mae ymchwil fridio barhaus yn Aberystwyth yn parhau i ddod â manteision i ffermwyr, proseswyr a defnyddwyr fel ei gilydd, gan ehangu'r ystod o fathau sydd ar gael i dyfwyr.

Ychwanegwyd Rannoch - sy'n cyfuno cynnyrch uchel, ansawdd grawn rhagorol ac ymwrthedd eithriadol i afiechydon - at Restr Argymelledig AHDB ar gyfer ceirch gaeaf 2026-27.

Mae math newydd arall, Maunsell, yn ei bedwaredd flwyddyn o dreialon yn 2026 ac mae'n dangos canlyniadau addawol iawn o ran cynnyrch, ymwrthedd i rwd y goron a chynnwys cnewyllyn, yn ogystal a’i allu i aeddfedu'n gynharach.

Ymateb i heriau hinsawdd y dyfodol

Mae gwaith i gynyddu cyflymder a manwl gywirdeb y cylch bridio ceirch yn rhan annatod o raglen ymchwil IBERS. Mae hyn yn cynnwys datblygu mathau sydd ag ansawdd grawn gwell ac sy'n fwy goddefgar o ran sychder, gwres a llifogydd. Yn y tymor hir, gallai mathau fel hyn helpu i gryfhau diogelwch bwyd y DU mewn cyfnod o newid hinsawdd.

Datblygiad ymchwil mawr arall oedd rhan IBERS yng nghonsortiwm rhyngwladol PanOat, a gynhyrchodd yn 2025 y catalog mwyaf cynhwysfawr erioed o amrywiaeth genetig ceirch, yn ogystal â chreu'r pangenom a'r pan-drawsgriptom ceirch cyntaf erioed.

Meddai Dr Catherine Howarth, Pennaeth y Rhaglen Fridio Ceirch a Chorbys yn IBERS:

"Mae mapio pangenom ceirch yn ehangu'n sylweddol yr adnoddau sydd ar gael i ymchwilwyr yn IBERS a’r tu hwnt, gan helpu i lywio strategaethau bridio wedi'u targedu a datblygu mathau o geirch sy'n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, gyda gwell sefydlogrwydd cynnyrch a manteision iechyd o dan amodau amgylcheddol sy'n newid.

"Fel tîm bridio yn IBERS, nid datblygu un math llwyddiannus yn unig yw ein nod, ond darparu llif parhaus o fathau gwell o geirch sy'n ymateb i anghenion newidiol ffermwyr, melinwyr, defnyddwyr a'r amgylchedd.

"Drwy gyfuno arbenigedd hirdymor mewn bridio planhigion â'r datblygiadau diweddaraf ym maes genomeg, rydym yn helpu i ddatblygu cnydau sy'n gynhyrchiol, yn wydn ac yn gallu mynd i'r afael â heriau allweddol diogelwch bwyd, newid hinsawdd ac iechyd dietegol."

Felly, y tro nesaf y byddwch yn mwynhau fflapjac, bar ceirch neu bowlen o uwd, cofiwch am yr ymchwilwyr yn IBERS sy'n gweithio'n galed i lunio dyfodol y cnwd rhyfeddol hwn.

Mae IBERS yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac yn un o wyth sefydliad ymchwil a ariennir yn strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) UKRI. Mae’n darparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddor bridio glaswelltir a phlanhigion, gan gefnogi amcanion cynaliadwyedd a thargedau sero net. 

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk