Cyllid Arall
Agorwch y tabiau isod i ddarllen am cyfleoedd cyllido posibl:
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o sefydliadau ym mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a'r dyniaethau. Gall myfyrwyr llwyddiannus elwa o gyfleoedd goruchwylio a hyfforddi posibl sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y DTP.
Sylwer mai dim ond i fyfyrwyr y DU y mae'r gwobrau hyn ar gael a'u bod ar gyfer myfyrwyr PhD newydd yn hytrach na myfyrwyr PhD cyfredol.
Ewch i wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru i gael rhagor o wybodaeth.
Ysgoloriaethau'r BBSRC
Cysylltwch â'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig [ibers@aber.ac.uk] am ragor o wybodaeth am y prosiectau ac ysgoloriaeth a ariennir gan y BBSRC ar wahannol adegau o'r flwyddyn.
Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
Mae Prifysgol Aberystwyth, a phrifysgolion eraill yng Nghymru, yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru.
Mae'r ESRC yn darparu ysgoloriaethau ymchwil i fyfyrwyr ymgymryd â Gradd Meistr Hyfforddiant Ymchwil blwyddyn a rhaglen ymchwil PhD 3 blynedd. Felly, gall ysgoloriaethau ymchwil gwmpasu cyfnod o 4 blynedd, yn amodol ar gynnydd academaidd boddhaol. Cynigir yr ysgoloriaethau ymchwil hyn ar sail gystadleuol. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ysgoloriaeth sy'n talu eu ffioedd dysgu ac yn darparu lwfans cynhaliaeth.
Efallai y bydd Ysgoloriaethau ESRC ar gael ar gyfer cyrsiau PhD yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Cysylltwch â'r adran academaidd berthnasol i gael rhagor o wybodaeth.
- Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP ESRC Cymru yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear Prifysgol Aberystwyth
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru.
Ysgoloriaethau EPSRC
Gall Cymrodoriaethau Ymchwil EPSRC fod ar gael yn yr adrannau canlynol:
- Adran Ffiseg (Gwyddor Deunyddiau yn unig)
Mae'r Adran Ffiseg yn rhan o'r Centre for Doctoral Training (CDT) in Diamond Science and Technology. Bydd myfyrwyr yn astudio ar gyfer MSc wedi'i ariannu ym Mhrifysgol Warwick cyn dechrau ar brosiect PhD penodol mewn un o'r prifysgolion partner.
Bydd y Ysgoloriaethau 4-blynedd ar gyfer MSc 1-flwyddyn wedi'i ddilyn gan PhD 3-blynedd yn talu ffioedd dysgu DU/UE ac yn darparu lwfans cynhaliaeth sy'n debyg i lefel Cynghorau Ymchwil y DU (gwobrau llawn ar gyfer myfyrwyr DU yn unig; gwobrau ffioedd yn unig ar gyfer myfyrwyr UE).
Cysylltwch â’r Adran Ffiseg [phys@aber.ac.uk] yn gyntaf ynghylch unrhyw brosiectau ymchwil penodol ac ewch i wefan y CDT hefyd.
Ysgoloriaethau DEFRA
O dro i dro ceir prosiectau ymchwil amaethyddol a ariennir gan DEFRA sydd hefyd yn darparu cyllid ar gyfer myfyrwyr PhD. Cysylltwch a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig [ibers@aber.ac.uk] am ragor o wybodaeth.
Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Grantiau yw’r Lwfansau Myfyrwyr Anabl i gynorthwyo â’r costau ychwanegol y gall myfyrwyr eu hwynebu oherwydd anabledd. Mae sawl cyflwr y gellir hawlio ar eu cyfer, yn cynnwys salwch tymor hir, cyflwr iechyd meddwl neu anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia.
- Sut i wneud cais: Rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs yn y lle cyntaf. Gweler ‘Sut i wneud cais’ ar gyfer gwybodaeth. Gellir gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar ôl gwneud cais ar gyfer y cwrs. Gweler gwefan Direct Gov am fwy o wybodaeth:
- Dyddiadau cau: Dylid gwneud cais cyn gynted â phosibl.
- Meini Prawf Dewis: Caiff myfyrwyr sy’n dioddef o gyflwr corfforol, myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol a myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl eu hystyried a’u hasesu.
- Corff dyfarnu: Llywodraeth y DU
- Gwybodaeth bellach: Cysylltwch â Swyddog Anableddau’r Brifysgol cyn gynted â phosibl. Gweler gwefan Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol.
Ysgoloriaethau NERC
Nid oes cwota o ysgoloriaethau NERC gan y Brifysgol ar hyn o bryd er bu rhai yn ddiweddar iawn yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Gellir cael mwy o wybodaeth am wneud cais am y gwobrau hyn gan yr adrannau a restrir uchod neu o (gwefan NERC).
Ysgoloriaethau'r STFC
Mae cwota o ysgoloriaethau STFC ganddom ar gyfer ariannu myfyrywr PhD sy'n ymchwilio i ffiseg y planedau a'r gofod. Cysylltwch â'r Adran Ffiseg [phys@aber.ac.uk] am ragor o wybodaeth.
Benthyciad Doethurol
O 1 Awst 2018, os yr ydych yn dechrau cwrs Doethurol ôl-Raddedig amser llawn neu ran-amser (fel PhD), gallwch wneud cais am Fenthyciad Doethurol Ôl-Raddedig hyd at £25,000. Bydd Benthyciad Doethurol Ôl-Raddedig ar gael os nad ydych eisoes yn dal gradd Doethurol neu gymhwyster uwch. Os oes gennych gymhwyster lefel is ac rydych yn ‘ychwanegu ato’ at radd Doethurol, yna ni fyddwch yn gymwys derbyn y benthyciad, gan eich bod ond yn gallu cael Benthyciad Doethurol Ôl-Raddedig am gwrs Doethurol Ôl-Raddedig llawn. Nid yw Benthyciadau Doethurol Ôl-Raddedig wedi eu seilio ar incwm eich cartref.
Sut i wneud cais:
Dylai myfyrwyr sy'n breswyl yng Nghymru neu wledydd eraill yr U.E. (ag eithrio'r D.U.) wneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru
Dylai myfyrwyr sy'n breswyl yn Lloegr wneud cais drwy Student Finance England
Dyddiadau cau: Cysylltwch ag unai Cyllid Myfyrwyr Cymru new Student Finance England fel yn briodol.
Meini Prawf:
Gwelwch unai gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu wefan Student Finance England fel yn briodol
Gwybodaeth bellach:
Ysgoloriaethau Systemau Bwyd-CDT y DU
Ysgoloriaethau Systemau Bwyd-CDT y DU
Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod yng Nghanolfan Systemau Bwyd y DU ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (UKFS-CDT). Bydd hyn yn hyfforddi dros 65 o fyfyrwyr doethurol o 2021-2027. Bydd UKFS-CDT yn creu carfanau o arweinwyr systemau bwyd ac arloeswyr yn y dyfodol a all arwain y DU tuag at ddyfodol bwyd gwydn, iach a chynhwysol.
Bydd ymchwil yn rhyngddisgyblaethol yn y bôn ac yn cyfuno dulliau gwyddorau naturiol a gwyddorau cymdeithasol. Bydd pob myfyriwr yn gweithio gyda rhanddeiliaid systemau bwyd yn eu hastudiaethau. Gall ymchwil gwmpasu (ond nid yw'n gyfyngedig i) y pynciau canlynol:
- Cynaliadwyedd amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd (Amgylchedd Iach)
- Cynhyrchu, dosbarthu, gweithgynhyrchu a gwastraff bwyd (Economi Iach)
- Yr Amgylchedd Bwyd, Ymddygiad Defnyddwyr, Dietau, Maeth ac Iechyd (Pobl Iach)
- Llywodraethu a Chydnerthedd y System Fwyd (Cymdeithas Iach)
- Iechyd a lles da byw (Anifeiliaid Iach)
Mae UKFS-CDT yn dwyn ynghyd Sefydliad Adnoddau Naturiol Prifysgol Greenwich (sefydliad arweiniol), Coleg Prifysgol Llundain, Coleg Milfeddygol Brenhinol, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, Canolfan Polisi Bwyd Prifysgol y Ddinas, Prifysgol Sussex, a Phrifysgol Brunel Llundain; a dau sefydliad ymchwil amaethyddol blaenllaw, EMR NIAB a Rothamsted Research, ynghyd â thros 50 o bartneriaid o fusnes, llywodraeth a chymdeithas sifil. Cynigiwn dros 350 o ddarpar oruchwylwyr i gefnogi hyfforddiant systemau bwyd rhyngddisgyblaethol mewn cydweithrediad ag Academi Systemau Bwyd y DU (mwy o fanylion am www.foodsystems-cdt.ac.uk).
Gan ddeall bod heriau'r system fwyd yn gymhleth, mae UKFS-CDT yn gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chyfiawnder. Mae UKFS-CDT yn annog unigolion sydd wedi cael seibiannau gyrfa oherwydd, er enghraifft, cyfifoldebau gofalu, gweithio mewn sectorau perthnasol, neu newid disgyblaethau neu lwybrau gyrfa i geisio.
Cyfleoedd Canolfan Hyfforddiant Doethurol Systemau Bwyd y DU (UKFS-CDT) 2021
Bydd UKFS-CDT yn darparu ysgoloriaethau doethuriaethol 4 blynedd UKRI, a ariennir yn llawn gan UKRI, a hyfforddiant systemau bwyd rhyngddisgyblaethol, i ymgeiswyr sy'n ceisio cychwyn astudiaeth PhD ym mis Medi 2021.
Rhagor o Wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am UKFS-CDT, a'r cyfleoedd sydd ar gael, yn www.foodsystems-cdt.ac.uk.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais am ysgoloriaeth UKFS-CDT, ewch I www.foodsystems-cdt.ac.uk a dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â info@foodsystems-cdt.ac.uk.
Dyddiad cau
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer 2021 drwy www.foodsystems-cdt.ac.uk, ac yn cau am 11.59 ar 15 Chwefror 2021.
Grantiau Sefydliad James Pantyfedwen
Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i fyfyrwyr ôl-raddedig o Gymru sy’n astudio am radd Meistr neu PhD. Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig hyd at uchafswm o £5,000.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26 yw diwedd Mai 2025. Gellir gweld y canllawiau a'r ffurflenni cais ar wefan James Pantyfedwen ar www.jamespantyfedwen.cymru.
