Cwestiynau cyffredin

  • Faint yw’r ffioedd dysgu newydd?

£9,790 fydd uchafswm ffi reoledig newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

  • Ar bwy fydd y newid a wnaed gan Lywodraeth Cymru i'r cap ffioedd dysgu yn effeithio?

Bydd y newid arfaethedig yn effeithio ar fyfyrwyr Cartref/myfyrwyr sy'n byw yn y DU, dinasyddion yr Iwerddon, a’r rhai o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sydd ym mhob blwyddyn astudio israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.   

  • Pryd fydd y ffioedd dysgu newydd yn dod i rym?

Bydd y myfyrwyr perthnasol yn dechrau talu'r ffioedd dysgu newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

  • Pam mae’r ffioedd dysgu yn cynyddu?

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan ei bwriad i gynyddu'r cap i £9,790 ym mis Tachwedd 2025, dywedodd y byddai’n darparu incwm i sefydliadau Cymru ac yn helpu i ddiogelu darpariaeth a buddsoddiad ym mhrofiad y myfyrwyr.

  • Rwy'n dod o Weriniaeth Iwerddon. Sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio arnaf fi?

Bydd dinasyddion yr Iwerddon yn dal i fod ar dir i gael statws ffioedd Cartref a chymorth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin. Byddant yn ddarostyngedig i'r ffi ddysgu newydd lle bo'n berthnasol.

  • Myfyrwyr Rhyngwladol ydw i. Sut mae'r newidiadau yn effeithio arnaf i?

Ni fydd penderfyniad arfaethedig Llywodraeth Cymru i gynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr israddedig Cartref yn effeithio ar yr hyn y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei dalu o gwbl.

  • Rydw i ar flwyddyn gyfnewid neu flwyddyn integredig dramor. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?

Byddwn yn dal i ofyn am 15% o'r ffi uchaf a reoleiddir.

  • Rydw i ar leoliad gwaith am flwyddyn. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?

Byddwn yn dal i ofyn am 20% o'r ffi uchaf a reoleiddir. 

  • Myfyriwr rhan-amser ydw i, sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ffioedd i?

Byddwn yn parhau i godi'r ffi uchaf a reoleiddir pro-rata priodol yn seiliedig ar nifer y credydau rydych chi'n eu hastudio.

  • Myfyrwyr uwchraddedig ydw i. Sut mae'r newidiadau yn effeithio arnaf i?

Dim ond israddedigion sydd yn astudio amser-llawn ac sy'n byw yn y DU a dinasyddion yr Iwerddon y mae’r ffioedd uwch arfaethedig hyn yn berthnasol iddynt.

  • Rydw i ar gwrs dysgu o bell. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am gyrsiau dysgu o bell yma.

  • Rwyf wedi gohirio dechrau yn y brifysgol. Pa ffi y byddaf i yn ei thalu?

Byddwn yn cyhoeddi’r ffioedd ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28 yng ngwanwyn 2027. Codir y ffi ddysgu a gyhoeddwyd ar gyfer eich blwyddyn mynediad a allai newid yn unol â newidiadau y DU a Llywodraeth Cymru i ffioedd rheoledig.

  • A fyddaf yn gallu cymryd lefel uwch o fenthyciad i fyfyrwyr er mwyn talu am y newid mewn ffioedd?

Ym mis Tachwedd 2025 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cynyddu'r uchafswm benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr cymwys i £9,790.  Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Os ydych chi’n dod o ran arall o’r DU, ceir rhagor o wybodaeth yma.

  • Sut y defnyddir yr arian ychwanegol hwn?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen gofrestredig. Bydd unrhyw weddill a gynhyrchir gan y sefydliad yn cael ei fuddsoddi’n ôl iddo. Mae cyfran yn cael ei buddsoddi bob blwyddyn mewn gweithgareddau sydd wedi'u targedu at sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl yn gallu dod i’r brifysgol, at wella’r gefnogaeth a ddarparwn i'n myfyrwyr, ac at wella profiad y myfyrwyr. Bydd y refeniw ychwanegol a godir gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cap ar ffioedd dysgu yn cael ei drin yn yr un modd. Gallwch ddarllen mwy ynghylch sut y caiff eich ffioedd eu buddsoddi yn y Brifysgol yma.

  • Pa wasanaethau cyngor ariannol mae'r Brifysgol yn eu cynnig?

Rydym yn ymwybodol iawn o'r amgylchiadau economaidd sydd ohoni ac yn sylweddoli y gall rhai o'n myfyrwyr ganfod eu bod mewn caledi ariannol. Os teimlwch eich bod o dan bwysau ariannol, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Cymorth i Fyfyrwyr trwy ebostio cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk neu trwy fynd i’r wefan.  Gall y tîm gynnig cyngor a chefnogaeth, yn ogystal â chymorth ariannol i'r rhai mwyaf anghenus.

  • Â phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i fwy o gwestiynau?

Os ydych chi'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi, anfonwch e-bost at derbyniadau@aber.ac.uk . Os ydych chi'n fyfyriwr presennol, anfonwch e-bost  at ffioedd@aber.ac.uk.