Eisteddfod Genedlaethol 2026
Dewch i ymuno â ni am sgwrs ar faes Eisteddfod y Garreg Las.
Galwch heibio i ddarganfod mwy am fyw ac astudio yn Aberystwyth, lle bydd ein staff cyfeillgar ar gael drwy gydol yr wythnos i ateb unrhyw gwestiynau. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin rhwng 01 a 08 Awst (Dewch o hyd i ni yn ymyl Cylch yr Orsedd a phabell Ymarfer 2).
I gyd-fynd â thema ‘Protest’ Eisteddfod y Garreg Las, bydd arddangosfa yn olrhain hanes rhai o brotestiadau amlycaf myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth dros y blynyddoedd o’r 1960au i’r 2010au i'w gweld ar y stondin drwy gydol yr wythnos.
Gweler isod gybodaeth am y digwyddiadau sy'n digwydd trwy gydol yr wythnos.
Dydd Sadwrn 1 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 15:00 | Canfod ac Ymateb i’r Angen: Adnoddau Addysgol (Am Ddim) i Gefnogi Athrawon, Rhieni a Disgyblion Ymchwilwyr o'r Ysgol Addysg yn cyflwyno ystod o adnoddau addysgol a ddatblygwyd yn sgil eu hymchwil ddiweddar. Dewch i ddarganfod sut gall ein hadnoddau gefnogi athrawon yn yr ystafell ddosbarth a meithrin hyder wrth gynnal ymchwil ac ymholi ysgol, gefnogi ymgysylltiad ysgolion â rhieni di-Gymraeg, darparu gweithgareddau hwyliog sy'n annog disgyblion i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg, a mwy! Manteisiwch ar y cyfle i gwrdd â'n hymchwilwyr, trafod eu gwaith, a chael mynediad at gasgliad o adnoddau dwyieithog am ddim y gallwch eu defnyddio yn eich ymarfer proffesiynol, eich ysgol neu'ch cartref. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Sul 2 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 13:00 | Tywydd, tirwedd a natur ym marddoniaeth teulu'r Cilie a Niclas y Glais Mae amgylchedd naturiol godre Ceredigion a gogledd Sir Benfro wedi ysbrydoli beirdd ers canrifoedd. Mae dau o ucheldiroedd yr ardal yn arbennig - y Preseli a Foel Gilie - yn amlwg iawn ym marddoniaeth beirdd teulu'r Cilie a Niclas y Glais. Roedd teulu'r Cilie'n cofnodi digwyddiadau tywydd penodol fel eira neu hafau gwlyb, ac arwyddion tywydd lleol, ac roedd atgofion am dirwedd a natur y Preseli yn gysur i Niclas yn ei gell yn y carchar. Dewch i glywed y bardd a'r daearyddwr Hywel Griffiths yn darllen ac yn trafod rhai o'r cerddi arbennig hyn. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 15:00 | Dangosiad Ffim - Ffermwyr lleol yn lansio rhaglen ddogfen am yr heriau sy'n wynebu'r byd amaethyddol a'r problemau iechyd meddwl all ddod yn sgil hynny Mae'r rhaglen ddogfen 20 munud yn dilyn Richard ‘Oernant’ Jones, y bu ei deulu'n ffermio eu buches laeth organig ger Aberteifi am genedlaethau, ond am 10 mlynedd bu'n byw gyda thrafferthion ei fuches yn profi'n bositif am dwbercwlosis buchol (bTB). Ar ôl y dangosiad, bydd grŵp o ffermwyr yn ffurfio trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Llun 3 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 10:00 | Tirlun Etholiadol Newydd: Esbonio Canlyniad Etholiad Senedd Cymru 2026 Wedi etholiad hanesyddol Senedd Cymru eleni, bydd Dr Anwen Elias, un o arweinwyr ‘Astudiaeth Etholiad Cymru 2026’ yn trafod prif ganlyniadau’r astudiaeth gydag ymateb gan banelwyr arbenigol. |
Pabell y Cymdeithasau 1 |
| 12:00 | Breuddwyd gyffrous neu fenter ffôl? Hanes cwmni Teledu Cymru Tafliad carreg o faes yr Eisteddfod mae trosglwyddydd darlledu'r Preseli. Mae i'r mast anferth arwyddocâd pwysig yn hanes darlledu Cymru, oherwydd ar 14 Medi 1962 darlledwyd rhaglenni cyntaf cwmni ITV Teledu Cymru. Fe fydd y ddarlith hon yn olrhain hanes Teledu Cymru o'r dechrau cyffrous, llawn gobaith i dranc y cwmni ym mis Mai 1963. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 14:00 | Yr Haul a Thywydd y Gofod: Deall ein seren agosaf a’r ymdrech i amddiffyn cymdeithas o dywydd y gofod Mae’r haul yn seren digon cyffredin o rhan maint a phriodweddau eraill, a rydym felly yma ar y Ddaear yn byw yn agos i dardd egni pwerus iawn. Byddaf yn dangos yn y cyflwyniad hwn sut mae’r Ddaear yn cylchdroi trwy llif o blasma magnetic poeth sy’n llifo o’r haul, sef ‘gwynt yr haul’. Atmosffer yr haul yw hwn (neu’r ‘corona’), sy’n ehangu’n gyson i lenwi, a diffinio, cysawd yr haul. Gall digwyddiadau, tebyg i ffrwydriadau, ddigwydd yn y corona, gan achosi newidiadau cyflym yng ngwynt yr haul. Gall rhain yn eu tro achosi aflonyddwch i faes magnetic y Ddaear, a gelwir hyn yn ‘dywydd y gofod’. Yn ogystal ag achosi yr awrora prydferth, mae tywydd y gofod a’r potensial i achosi niwed i’n systemau technolegol megys lloerennau, cyfathrebu, tranfidiaeth, GPS ayyb. Byddaf yn dangos fel mae modd rhoi rhagolygon o dywydd y gofod, gan leddfu y perygl i ryw raddau, ac yn esbonio rhan Prifysgol Aberystwyth yn helpu’r Swyddfa Dywydd yn yr ymdrech yma. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 16:00 | Wyt ti’n Cofio? Protest a’r Gymraeg yn Aberystwyth Trefechan, yr Ymgyrch Sianel Gymraeg, a Phantycelyn. Trafodaeth o brotestiadau nodedig Aberystwyth yn cydfynd gydag arddangosfa ‘Protest Aber’ ar stondin Prifysgol Aberystwyth. |
Pabell y Cymdeithasau 1 |
| Amser | Sesiynau rhyngweithiol |
Lleoliad |
| 10-4 | Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth Dewch i roi cynnig ar berfformio CPR ar ein model Ci CPR, dysgu sut i fandagio a sblintio coes ci, fel y byddai gweithwyr milfeddygol proffesiynol yn ei wneud pob dydd. Cewch hefyd weld rhai o’r modelau anatomegol a chlinigol diddorol rydym yn eu defnyddio yma yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyrsiau Gwyddor Filfeddygol neu Nyrsio Milfeddygol rydym yn eu cynnig, dewch i siarad ag Alwenna Jenkins, Tiwtor Sgiliau Clinigol mewn Nyrsio Milfeddygol, a fydd ar gael drwy gydol y dydd ar y stondin ac yn hapus iawn i ateb eich cwestiynau. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Mawrth 4 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 10:30 | Seremoni Gwobrwyo Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys Sir Gâr a’r Fro 2025-26 Seremoni Gwobrau Dysgu Cymraeg a gynhelir yn flynyddol lle mae adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth (sy'n cwmpasu Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Bro Morganwg) yn cydnabod cyflawniadau dysgwyr a thiwtoriaid dros y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cynnwys Tiwtor a Dysgwr y Flwyddyn; Cyflogwr y Flwyddyn; gwobrau Cymraeg yn y Teulu a Phobl Ifanc. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 12:30 | Oes gennych chi'r hawl i wneud hynny? Bydd y ddarlith ryngweithiol hon yn rhoi cyflwyniad i chi i hanfodion beth yw cyfraith, sut mae'n cael ei hastudio a sut mae'n berthnasol mewn achosion ymarferol sy'n ymwneud â bywyd beunyddiol yng Nghymru. Gydag enghreifftiau cyfraith achos go iawn, bydd yn dangos sut mae'r gyfraith yn rhesymu trwy broblemau cymhleth a godir mewn bywyd bob dydd er mwyn penderfynu beth yw hawliau a rhwymedigaethau pobl yn gyffredinol. Byddaf yn defnyddio gwaith yr artist enwog Meinir Mathias i ddarlunio'r pwyntiau hyn. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 14:00 | Cyfarfod dathlu Y Traethodydd Am ganrif a thri chwarter a mwy mae’r Traethodydd wedi gwasanaethu diwylliant Cymru a’i llên. Wrth ddathlu ei hirhoedledd, bydd Eryn White yn sôn am hanes cyhoeddi cylchgronau yn y Gymraeg a Dylan Iorwerth yn trafod yr heriau i gylchgronau print yn yr oes ddigidol. Trafodaeth fer a derbyniad i ddilyn. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 15:00 | Sgwrs yr Archdderwyddon Tri Archdderwydd Aber – sgwrs gyda Myrddin ap Dafydd, Mererid Hopwood a Christine James. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| Amser | Sesiynau rhyngweithiol | Lleoliad |
| 10-4 | Canolfan Addysg Gofal Iechyd Dewch i sgwrsio gyda darlithwyr a myfyrwyr nyrsio o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd. Os ydych yn ystyried gyrfa fel nyrs, dewch i ddysgu mwy am ein rhaglen unigryw. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Mercher 5 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 11:30 | Barddoniaeth Cymraesau America y bedwaredd ganrif ar bymtheg: lansiad a sgwrs gyda Melinda Gray, golygydd Dros Frigau’r Don (Honno, 2026) Bydd Melinda Gray, golygydd Dros Frigau’r Don: cerddi Cymraesau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn America, yn sgwrsio gydag un o gyd-olygyddion cyfres Clasuron Cymraeg Honno Gwasg Menywod Cymru, Cathryn Charnell-White. Mae'r flodeugerdd hon yn rhoi llwyfan i gyfoeth ac ehangder barddoniaeth a diwylliant dwyieithog Cymraesau America yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol. Dan olygyddiaeth Melinda Gray, mae’r flodeugerdd yn cyflwyno nifer o’r cerddi hyn am y tro cyntaf erioed, gan gynnig cipolwg prin ar leisiau a hanesion anghofiedig. Dyma gyfle i glywed am gefndir y flodeugerdd a’r gwaith o’i llunio, ac i gael blas ar y cerddi. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 14:00 | Derbyniad i Gyn-fyfyrwyr Ymunwch gyda ni yn y prynhawn am gyfle i ddal i fyny gyda cyn-fyfyrwyr eraill o Aber am sgwrs dros baned a chacen. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Iau 6 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 11:30 | Y ‘Wledd Arbennig yn Aberteifi’: yr Arglwydd Rhys, Eisteddfod 1176 a Hunaniaeth Cymru Cynhelir yr Eisteddfod eleni 850 o flynyddoedd wedi i’r Arglwydd Rhys gynnal beth ystyrir yr Eisteddfod gyntaf yng nghastell Aberteifi. Bydd y ddarlith hon yn ystyried pwysigrwydd yr Arglwydd Rhys a’r hyn ydym yn ei wybod am Eisteddfod 1176. Beth oedd mor arbennig am y ‘wledd’ hon yn Aberteifi? Beth mae’r digwyddiad yn ein dysgu am hunaniaeth a diwylliant Cymru yn y ddeuddegfed ganrif? Pa wersi sydd i’n hunaniaeth a’n diwylliant heddiw? |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 13:00 | Trafod Iechyd Meddwl Sgwrs drafodaeth am iechyd meddwl gyda darlithwyr a myfyrwyr nyrsio o’r Ganolfan Addysgu Gofal Iechyd |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 14:00 |
Dathlu’r Grefft o Gyfieithu Ceir cystadleuaeth Taclo’r Termau gan Brifysgol Aberystwyth a sesiwn Cynnig ar Gyfieithu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle bydd plant a phobl ifanc yn cael cyfle i roi cynnig ar offer cyfieithu ar y pryd. I gloi’r prynhawn, bydd Megan Hughes Tomos yn edrych yn ôl ar hanes Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf yn Narlith Goffa Hedley Gibbard. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| Amser | Sesiynau rhyngweithiol | Lleoliad |
| 10-4 | Canolfan Addysg Gofal Iechyd Dewch i sgwrsio gyda darlithwyr a myfyrwyr nyrsio o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd. Os ydych yn ystyried gyrfa fel nyrs, dewch i ddysgu mwy am ein rhaglen unigryw. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 10-4 | Dewch draw i gwrdd a Milo y ci therapi. | Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 10-4 | Adran Seicoleg A oes gan siaradwyr Cymraeg synnwyr digrifwch gwahanol? Mae hiwmor yn rhan gyffredinol o fywyd bob dydd, ond a all siarad Cymraeg ddylanwadu ar yr hyn rydym yn ei weld yn ddoniol? Dyna’r cwestiwn mae’r astudiaeth newydd hon yn ei archwilio. P’un a ydych yn chwilfrydig ynghylch pam mae pobl yn ymddwyn fel y maent neu eisiau gweld sut mae ymchwil seicolegol yn cael ei defnyddio i ateb cwestiynau am iaith a diwylliant, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am seicoleg ac ymchwil gyfoes. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Gwener 7 Awst
| Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
|---|---|---|
| 11:00 |
Dic Yr Hendre a Bridio Porfeydd |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 13:00 |
Sgwrs banel i ddathlu 20 mlynedd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i Amaethwyr Aberystwyth |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
| 14:00 | Sesiwn UMCA Dewch draw i wrando ar griw o Aelwyd Pantycelyn yn canu ac yn clocsio ar y stondin. Yn dilyn eu perfformiadau, bydd cyfle i chi ymuno, gan gymryd rhan mewn twmpath! |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Sadwrn 8 Awst
Dewch draw i ddysgu mwy am fyw ac astudio yn Aberystwyth, lle bydd ein staff cyfeillgar ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
