Ymgeiswyr Ymchwil

 

Os dymunwch wneud cais am radd ymchwil, fel rhaglen MPhil, PhD neu DProf, dylech:

 

  • Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â'r adran academaidd berthnasol i drafod eu prosiect arfaethedig cyn gwneud eu cais. Efallai y bydd adrannau academaidd hefyd yn gallu rhoi cyngor ar argaeledd efrydiaethau perthnasol.
  • Paratoi cynnig ymchwil (1000 - 1500 o eiriau) i amlinellu'r prosiect ymchwil yr hoffech ei wneud. Dylai eich cynnig ymchwil gael ei lanlwytho ar y pwynt ymgeisio, oni bai eich bod yn gwneud cais am brosiect sydd wedi'i hysbysebu ymlaen llaw. Yn yr achos hwn bydd angen i chi ddarparu manylion y prosiect a hysbysebwyd ymlaen llaw a ble y cafodd ei hysbysebu (dolen gwe berthnasol).
  • Cyflwyno cais rhaglen lawn trwy Borth Ceisiadau Derbyn Graddedigion ar-lein Aberystwyth. I wneud hyn, lleolwch dudalen y cwrs perthnasol yng Nghyfeirlyfr Cyrsiau canolog y brifysgol ( https://cyrsiau.aber.ac.uk/ ) a dewiswch "Apply Now". Dylai eich cais gynnwys yr holl ddogfennaeth ategol, eich cynnig ymchwil, ac arwydd o sut yr ydych yn bwriadu ariannu eich gradd ymchwil.
  • Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau ymchwil ddarparu tystlythyrau academaidd fel rhan o'r broses dderbyn. Gellir nodi manylion eich canolwyr ar eich cais a bydd ein Porth Ceisiadau Derbyn Graddedigion yn cysylltu’n awtomatig â nhw i ofyn am eirda ar eich rhan. Fel arall, gellir lanlwytho geirda sydd gennych mewn llaw i'ch cais cyn ei gyflwyno. Os nad ydych mewn sefyllfa i ddarparu tystlythyrau ar adeg gwneud cais yna bydd gwneud hynny yn amod o unrhyw gynnig astudio y gall y brifysgol ei wneud i chi.

 

·