A ddylwn i ddewis rhaglen a ddysgir neu raglen ymchwil?
Mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gael o'ch rhaglen uwchraddedig a'r rheswm pam yr ydych yn dychwelyd i/parhau â'ch astudiaethau. Argymhellir eich bod yn trafod y cwestiwn hwn gyda staff yn yr adran academaidd o'ch dewis. Os ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi wneud apwyntiad gyda'ch Tiwtor Personol neu'ch Detholwr Derbyn Graddedigion yn yr adran.
Gall y penderfyniad hefyd ddibynnu ar eich nodau gyrfa hirdymor. Byddem yn awgrymu eich bod yn ymweld â Gwasanaeth Gyrfaoedd eich prifysgol i drafod eich gofynion, diddordebau a nodau.