Rhan-Amser

Mae llawer o'n cyrsiau uwchraddedig ar gael yn rhan-amser, er mwyn i chi allu parhau â'ch gyrfa a'ch astudiaethau ar yr un pryd. Nid oes rhaid i fyfyrwyr ymchwil rhan-amser (LLM trwy Ymchwil, MPhil, a PhD) fod yn byw yn Aberystwyth fel arfer. Pennir gofynion presenoldeb gan y Pennaeth Adran perthnasol. Lle bo’n ymarferol, anogir myfyrwyr ymchwil rhan-amser i fynychu Modiwlau Hyfforddiant Ymchwil y Brifysgol.