Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy nghais?

Dylid gwneud ceisiadau am gyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy'r Porth Cais Derbyn Ôl-raddedig.  Lleolwch y dudalen cwrs berthnasol yn https://cyrsiau.aber.ac.uk/  dewiswch y botwm "Ymgeisio Nawr" ar dudalen y cwrs i ddechrau eich cais.

Bydd y Porth Cais Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis(au) cwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais.  Sicrhewch fod eich dogfennau ategol wedi'u cadw ar ffurf PDF ac yn barod i'w huwchlwytho i'ch cais ar-lein.  Lanlwythwch gymaint o'r canlynol ag y gallwch, neu fel sy'n berthnasol i'ch cais:

  • Copïau o dystysgrifau gradd o astudiaeth Baglor neu Radd Meistr flaenorol (mae angen copïau ardystiedig wedi'u cyfieithu os nad yw'r ddogfen wreiddiol yn Gymraeg nac yn Saesneg)
  • Copïau o drawsgrifiadau'r Brifysgol o astudiaeth Baglor neu Radd Meistr flaenorol (mae angen copïau ardystiedig wedi'u cyfieithu os nad yw'r ddogfen wreiddiol yn Gymraeg nac yn Saesneg).

Mae croeso i chi wneud cais am astudiaeth ôl-raddedig cyn i chi gwblhau unrhyw astudiaethau cyfredol, neu os ydych eisoes wedi cwblhau eich cymhwyster(au).  Os byddwch yn gwneud cais cyn i chi gwblhau eich astudiaethau, a bod y Brifysgol yn penderfynu gwneud cynnig i chi am le i astudio gyda ni, yna bydd cyflwyno dogfennau ychwanegol perthnasol i ddangos eich bod wedi cwblhau a dyfarnu'r cymhwyster yn llwyddiannus ar y lefel ofynnol i fodloni'r gofyniad mynediad academaidd, yn un o amodau'r cynnig a wnaed i chi.

  • Datganiad personol (tua un ochr i A4), yn dweud wrthym pam eich bod am astudio'r cwrs o'ch dewis ym Mhrifysgol Aberystwyth a sut mae eich cefndir yn eich gwneud yn addas i'w dderbyn.
  • Rydym yn annog pob ymgeisydd i gyflwyno CV cyfredol gyda'i gais.  Mae'n ofynnol ar gyfer ceisiadau am raglenni MBA a chyrsiau yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth.
  • Gall ymgeiswyr lanlwytho unrhyw gyfeiriadau sydd ganddynt wrth law ar adeg y cais.  Fel arall, gall ymgeiswyr roi manylion eu canolwr/canolwyr pan fyddant yn gwneud eu cais, a bydd ein Porth Cais Derbyn Ôl-raddedig ar-lein wedyn yn cysylltu'n awtomatig â'r canolwr/canolwyr i ofyn am y geirda(wyr) ar ran yr ymgeisydd.  Dyma'r ffordd hawsaf o sicrhau tystlythyrau mewn perthynas â chais am astudiaeth ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae angen o leiaf un geirda boddhaol arnom ar gyfer rhaglenni Meistr a addysgir a dau eirda boddhaol ar gyfer rhaglenni ymchwil. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/pg-studies/apply/essential-refs/ am wybodaeth am ofynion cyfeirio'r Brifysgol. Gallwn ystyried ceisiadau lle nad oes tystlythyrau wedi dod i law eto. Mewn achosion o'r fath, byddai eich derbyniad yn amodol ar dderbyn y tystlythyrau boddhaol angenrheidiol.
  • (ar gyfer ymgeiswyr Rhyngwladol yn unig) Tystiolaeth o unrhyw gymwysterau a/neu ganlyniadau profion Iaith Saesneg sy'n dangos eich bod wedi bodloni'r gofynion mynediad Saesneg ar gyfer eich dewis gwrs.  Mae rhagor o fanylion am y cymwysterau a'r prawf a dderbyniwn i'w gweld yn https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/pg-studies/apply/english-language/.  Unwaith eto, mae croeso i chi wneud cais am astudiaeth ôl-raddedig cyn i chi gwblhau'r cymhwyster perthnasol neu brofion iaith Saesneg.  Os gwnewch hyn, a bod y Brifysgol yn penderfynu gwneud cynnig i chi am le i astudio gyda ni, yna bydd cyflwyno tystiolaeth berthnasol i ddangos eich bod wedi cyflawni'r gofyniad mynediad Saesneg lefel gofynnol ar gyfer eich dewis gwrs, yn un o amodau'r cynnig a wnaed i chi.
  • (ar gyfer ymgeiswyr MPhil/PhD/DProf yn unig) Lanlwythwch eich Cynnig Ymchwil llawn.  Os ydych yn gwneud cais am brosiect a hysbysebwyd ymlaen llaw, bydd angen i chi ddarparu manylion perthnasol y prosiect yn unig, a'r ddolen wefan i ble y gellir dod o hyd i'r hysbyseb.
  • (ar gyfer ceisiadau am gyrsiau yn yr Adran Saesneg & Ysgrifennu Creadigol a'r Ysgol Gelf yn unig) Lanlwythwch bortffolio o waith blaenorol i ddangos eich sgiliau a'ch diddordebau.