Cwestiynau Cyffredin - Ffair Astudio Ôl-raddedig

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n Ffair Astudio Ôl-raddedig.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost ymholidau@aber.ac.uk a bydd ein tîm yn barod i helpu.

Diweddarwyd diwethaf: 12/12/24

Archebu a chofrestru

Oes rhaid i mi archebu ymlaen llaw?

Archebwch eich lle drwy’r Ffurflen Gofrestru Ffair Astudio Ôl-raddedig. Gallwch hefyd gofrestru ar y diwrnod yng nghyntedd y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth o 16:30 ymlaen.

Nid wyf bellach yn medru mynychu’r Ffair Astudio Ôl-raddedig, ydw i’n medru canslo?

Rydym yn sylweddoli fod cynlluniau yn gallu newid. Os na allwch ddod i’r digwyddiad, cysylltwch â ni dros e-bost (ymholiadau@aber.ac.uk). Bydd ein tîm yn gallu rhoi cyngor ar ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am gyfleoedd ôl-raddedig yn Aberystwyth.

Rhaglen, Gwybodaeth a Chofrestru

A fyddaf yn derbyn rhaglen cyn fy ymweliad?

Bydd rhaglen y digwyddiad yn cael ei gynnwys yn yr e-bost cyn y digwyddiad. Bydd y rhaglen yn cynnwys amserau'r sgyrsiau a chyngor defnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. 

Pan fyddwch yn cyrraedd Canolfan y Celfyddydau, bydd ein tîm o staff a llysgenhadon yn eich croesawu i ddarparu cyngor a chyfarwyddiadau. 

Ble ydw i’n cofrestru a phryd bydd angen i mi gyrraedd?

Gallwch gofrestru o 16:30 ymlaen yng nghyntedd Canolfan y Celfyddydau ar Gampws Penglais.

Bydd Ffair wybodaeth yn cael ei chynnal rhwng 16:30 - 19:00 yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau. Bydd cyfres o sgyrsiau byr hefyd yn cael eu cynnal yn ystod y noson.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw.

A fydd cyfle i fynd ar daith o amgylch y campws yn ystod y Ffair?

Bydd. Bydd teithiau o amgylch y campws yn digwydd yn ystod y Ffair. Maen nhw'n cael eu harwain gan lysgenhadon y Brifysgol a fyddant yn dangos i chi lleoliad ein gwahanol adrannau, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau a dewisiadau llety.

Os oes well gennych ymweld â ni ar adeg arall, rydym yn cynnig teithiau campws drwy gydol y flwyddyn. Gallwch weld pa ddyddiadau sydd ar gael a chofrestru yma, neu drwy e-bostio teithiaucampws@aber.ac.uk.

Ble mae'r mannau gwerthu bwyd a diod ar y campws?

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fannau gwerthu sy'n cynnig popeth o ddiodydd i brydau poeth. Cewch ragor o wybodaeth ar y gwe-dudalennau isod:

Sylwch nad oes yr un o'r mannau gwerthu ar y campws yn derbyn arian parod - rydym yn derbyn pob cerdyn debyd a chredyd, ac Apple Pay

Cefnogi eich Ymweliad

Pa gymorth sydd ar gael os oes yna aelod gennyf ar y daith gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud addasiadau ar gyfer ein hymweliad?

Os ydych eisioes wedi nodi unrhyw ofynion ychwanegol ar y ffurflen gofrestru, bydd ein tîm mewn cysylltiad i drafod eich ymweliad a nodi unrhyw fesurau ychwanegol y medrwn eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.

Os hoffech ddiweddaru eich ffurflen gofrestru gan fod un o’ch ymwelwyr gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud unrhyw addasiadau i gefnogi eich ymweliad, cysylltwch â’n tîm Ffair Astudio Ôl-raddedig a fydd yn hapus i’ch helpu (ymholiadau@aber.ac.uk).

A fydd modd siarad ag aelod o dîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn ystod fy ymweliad?

Bydd aelodau o'r tîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod y digwyddiad. Byddant wedi eu lleoli yn y Neuadd Fawr rhwng 16:30 - 19:00.

Teithio a Thrafnidiaeth

Byddaf yn teithio mewn car, ble fydd modd parcio ar y campws?

Wrth i chi gyrraedd Campws Penglais, dilynwch yr arwyddion a'r canllawiau ar gyfer parcio am ddim. Os oes angen parcio hygyrch ar unrhyw un yn eich parti (ac nad ydych wedi nodi hyn wrth gofrestru) rhowch wybod i'n tim Ffair Astudio Ôl-raddedig fel y gallwn sicrhau fod trefniadau priodol yn eu lle.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr sy'n teithio mewn car ar gael ar ein tudalennau gwe mapiau a theithio. 

Oes yna bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar y campws?

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod pwyntiau gwefru ar draws campws y Brifysgol i gyfateb â’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan. Mae arwyddion manwl yn cyd-fynd â phob gwefrydd. Mwy o wybodaeth am godi tâl cerbydau trydan.