Bioleg Ddynol ac Iechyd

Mae Gwyddonwyr Biofeddygol yn astudio swyddogaeth y corff dynol ac yn cymhwyso eu gwybodaeth wyddonol i atal a thrin cyflyrau meddygol.

Yn Aberystwyth, gallwch astudio cwricwlwm eang o ddisgyblaethau biolegol i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o'r prif amodau sy'n dylanwadu ar iechyd dynol yn yr 21ain ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys ffisioleg, biomecaneg, microbioleg, imiwnoleg, geneteg a gwyddor ymarfer corff, a bydd pob un o’r rhain yn rhoi gwerthfawrogiad i chi o sut mae diet, ynghyd â gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff rheolaidd, yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cynnal iechyd a lles. 

  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Bioleg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Adborth ym maes Bioleg (Tabl Cynghrair y Guardian 2024)

Pam astudio Bioleg Ddynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bydd ein cyfuniad unigryw o bynciau yn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth amlddisgyblaethol o iechyd dynol, gan gynnwys newid ymddygiad a ffordd o fyw.
  • Rydym yn rhoi ffocws arbennig ar sgiliau labordy a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y gwyddorau biofeddygol.
  • Bydd gennych fynediad i labordai ymchwil ac addysgu helaeth gyda'r offer diweddaraf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel, proteomeg, metabolomeg a llwyfannau sbectrosgopig.
  • Byddwch yn cael defnydd o'r offer a'r labordai ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol diweddaraf.

Cyflogadwyedd

Gall astudio gwyddoniaeth fiofeddygol arwain at yrfaoedd mewn nifer o broffesiynau biofeddygaeth, iechyd a chysylltiedig, labordai geneteg glinigol, treialon clinigol a’r sector rheoleiddio, gwerthu a marchnata sy’n ymwneud â gofal iechyd a chynhyrchion diagnostig, patholeg ddiagnostig a labordai clinigol, addysg, ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant fferyllol.

Mae myfyrwyr hefyd yn dilyn astudiaethau graddedig yn y proffesiynau iechyd i ddod yn feddyg meddygol, deintydd a phodiatrydd ymhlith eraill.

 






Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau'n cynnwys labordy Microsgopeg a Bioddelweddu Uwch, Labordy Dadansoddi Symudiadau ar gyfer Iechyd a Pherfformiad, Labordy Ffisioleg ar gyfer Iechyd a Pherfformiad, Labordy Perfformiad ac Iechyd Dynol, ac Uned Ymchwil Lles ac Asesu Iechyd (WARU). Rydym hefyd yn cynnig portffolio o wasanaethau cymorth i athletwyr sy'n cyfuno arbenigedd gwyddonol â chyfleusterau blaengar er mwyn sicrhau’r perfformiad athletaidd gorau posibl. 

Gall myfyrwyr fanteisio ar labordai ymchwil a dysgu sy’n llawn cyfarpar modern, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel a llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a sbectrosgopeg. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

 

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer corff ac iechyd ar gyfer atal diabetes, fel rhan o'r rhaglen adsefydlu ar gyfer cleifion strôc ac i atal neu wrthdroi eiddilwch a sarcopenia. Mae'r ymchwil hwn yn cynnwys datblygu, gwerthuso a gweithredu technoleg gwisgadwy. Mae ymchwil metabolomeg yn cynnwys cymhwyso technoleg metabolomeg mewn ymchwil bwyd a maeth. Yn ogystal, mae ymchwil genomeg yn cynnwys canfod biofarcwyr metabolion ar gyfer canser yr ysgyfaint a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac ymchwilio i gysylltiadau posibl â microbiome yr ysgyfaint.

Mae’r Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) wedi’i dylunio i drosi ymchwil sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant a wneir ym Mhrifysgol Aberystwyth i’r boblogaeth gyffredinol a chwarae rhan yn y gwaith o lunio canllawiau deietegol a gweithgarwch corfforol y llywodraeth. Mae WARU yn cyflawni hyn trwy feithrin perthynas â'r gymuned leol i alluogi aelodau'r cyhoedd i gyfrannu'n weithredol at y broses ymchwil trwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.