Nyrsio

Mae nyrsio yn fwy na dim ond gyrfa wych a gwerthfawr. Mae'n daith broffesiynol, yn llawn o brofiadau gwerth chweil, o gyffwrdd â bywydau pobl o bob cefndir pan fyddant mewn angen, i ddarparu gofal cyfannol, caredigrwydd a thosturi pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Bydd nyrsio yn dod yn rhan o’r hyn ydych chi, bydd yn frith o emosiynau a phrofiadau, ond bydd yn gwbl werth chweil.  

NMC
  • Caiff ein myfyrwyr eu dysgu gan nyrsys cofrestredig a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig.  
  • Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd yng Nghymru sy’n agor cyfleoedd am leoliadau clinigol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd mewn ardaloedd trefol a gwledig. 
  • Gallwch astudio hyd at 50% o'n cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg 

Pam astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig rhaglenni gradd BSc Nyrsio sy’n canolbwyntio ar Iechyd Oedolion ac Iechyd Meddwl.   
  • Mae'r ddwy raglen, Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl, wedi'u hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a byddant yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ar gyfer anghenion iechyd datblygol cymdeithas yn y proffesiwn amrywiol a gwerth chweil hwn.   
  • Mae ein rhaglenni Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl yn datblygu nyrsys sy'n darparu arfer rhagorol yn seiliedig ar dystiolaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gofal ac yn rhoi'r claf wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau trwy hyrwyddo urddas, gofal a thosturi.   
  • Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r gallu i asesu, cynllunio, gweithredu, gwerthuso a monitro gofal yn ddiogel ac yn effeithiol.   

Cyflogadwyedd

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i gofrestru yn nyrs i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £25,655 sy’n cynyddu i £53,219 i nyrs gofrestredig brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr meddygfeydd ennill £45,000.  

Os ydych yn derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru bydd yn rhaid i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso a chofrestru’n nyrs gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Caiff y broses hon ei rheoli'n ganolog gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr yn sicrhau y byddwch yn cael eich gosod mewn swydd addas yn eich dewis ardal.  





Cyfleusterau

Cyfoethogir y dysgu yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn Aberystwyth gan ein Huned Sgiliau Clinigol newydd, lle ceir cyfres o ystafelloedd efelychu lle gallwch ddysgu ac ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd ein hadnoddau yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchiad mor agos â phosibl o’r union amodau y byddwch yn eu profi pan fyddwch yn mynd ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.  

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.