Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn canolbwyntio ar y ffactorau gwyddonol sy'n dylanwadu ar chwaraeon ac ymarfer corff gyda'r bwriad o sicrhau'r perfformiad a'r dygnwch gorau bosib a'r lleihau'r perygl o anaf.  

Trwy gyfuno disgyblaethau fel ffisioleg, seicoleg a biomecaneg, byddwch yn dysgu sut i gefnogi athletwyr, hyrwyddo gweithgaredd corfforol ac iechyd a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff. Ar yr un pryd byddwch yn dysgu sgiliau ymchwil, dadansoddi data, yn ogystal â sgiliau personol a chyflogadwyedd gwerthfawr. 

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym maes Gwyddor Chwaraeon (Canllaw Prifysgolion Da 2021, The Times and Sunday Times)
  • Roedd 100% o’n myfyrwyr C600 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn meddwl bod staff yn dda am esbonio pethau (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Roedd 100% o’n myfyrwyr C600 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn fodlon ag ansawdd y cwrs (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)

Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn ymchwilio i sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn perfformio chwaraeon. 
  • Byddwch yn archwilio gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg mewn modd integredig gan ddefnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn. 
  • Byddwch yn dysgu sut i sicrhau'r perfformiad gorau gan athletwr unigol neu dîm. 
  • Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gellir gwella iechyd a lles cyffredinol trwy wneud ymarfer corff. 
  • Mae amrywiaeth eang o chwaraeon yn cael eu cynnig yn y brifysgol, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau cefnogi athletwyr. 
“Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gwrs difyr a heriol iawn. Aelodau gwych o staff sy'n hawdd mynd atyn nhw bob amser, ac aseiniadau sy'n benodol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym mhob modiwl. Mae'r offer a'r labordai yn fodern a chyfyd llawer o gyfleoedd ychwanegol yn deillio o wneud y cwrs yma nad ydynt ar gael ar gynlluniau gradd eraill, fel cyrsiau cymorth cyntaf am ddim.”
Aaron James Francis Cross Aaron James Francis Cross BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
“Mae'r cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn un diddorol iawn, ac rydych chi'n cael eich profi'n gyson mewn ffyrdd difyr. Mae'r staff yn anhygoel ac maen nhw bob amser yn barod i rannu eu harbenigedd a'ch helpu mewn unrhyw ffordd bosib. Mae'r cwrs yn cynnwys ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae hyn yn fantais enfawr gan fod rhywbeth at ddant pawb ac mae'n cadw'r cwrs yn ffres a diddorol. ”
Ryan Edward Roscoe Ryan Edward Roscoe BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Cyflogadwyedd

Mae astudio Gwyddor Chwaraeon yn sicrhau’r sgiliau cymhwysol, y wybodaeth a'r cymwyseddau a fydd yn sylfaen i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae llwybrau gyrfa yn cynnwys: 

  • chwaraeon proffesiynol 
  • hyfforddi personol 
  • cyrff llywodraethu chwaraeon 
  • gofal iechyd 
  • addysg gorfforol.

Cyfleusterau

Byddwch yn defnyddio cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys Labordy Dadansoddi Symudiadau Iechyd a Pherfformiad, Labordy Ffisioleg Iechyd a Pherfformiad, Labordy Iechyd a Pherfformiad Dynol, ac Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU). Rydym hefyd yn cynnig portffolio o wasanaethau cymorth i athletwyr sy'n cyfuno arbenigedd gwyddonol a chyfleusterau blaengar i optimeiddio perfformiad athletaidd.                                                  

Bydd cyfleusterau chwaraeon rhagorol y campws ar gael i chi, gan gynnwys: 

  • campfa gyda chyfarpar cardio o'r radd flaenaf, a chyfarpar cryfder a chyflyru 
  • stiwdio sbin 
  • pwll nofio a sawnariwm 
  • pwysau rhydd 
  • wal ddringo 
  • trac rhedeg 
  • cae 3G.  

Ymchwil

Ochr yn ochr â chymorth i athletwyr, mae'r diddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer corff ac iechyd er mwyn atal diabetes, fel rhan o'r rhaglen adsefydlu cleifion strôc ac er mwyn atal neu wrthdroi eiddilwch a sarcopenia. Mae'r ymchwil hwn yn cynnwys datblygu, gwerthuso a defnyddio technoleg y gellir ei gwisgo. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.