Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Os ydych chi wrth eich bodd yn byw mewn byd llawn dychymyg a chreadigrwydd, bydd astudio am radd ym maes Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gweddu i chi i'r dim. Os mai Llenyddiaeth yw’ch hoff beth, ymunwch â ni i archwilio’r amrywiaeth ehangaf posibl o destunau llenyddol a diwylliannau, gyda dewisiadau rhagorol o gyfnod yr oesoedd canol hyd heddiw. Os mai Ysgrifennu Creadigol sy’n mynd â’ch bryd chi, dewch i ddysgu’r grefft o ysgrifennu: barddoniaeth, ysgrifennu ffuglennol, ysgrifennu ffeithiol, sgriptio a mwy. Gallwch gyfuno’r ddau beth hyd yn oed. 

Efallai mai defnydd iaith sydd yn eich diddori yn fwy na dim, ac os felly gallwch ddewis Astudiaethau Saesneg gydag un o’r cyfuniadau sydd ar gael – Newid Hinsawdd neu TESOL. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr a beirniadol o’r dadleuon sy’n ymwneud â delfrydeg ac sy’n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu, yn herio ein canfyddiadau o’r llefydd yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu amdanynt, ac yn cwestiynu pwy ydym. 

Pa lwybr bynnag a ddewisir gennych, cewch  ddatblygu eich grym mynegiant, mireinio eich meddwl beirniadol, a sefydlu gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymchwil - hyn oll o fewn dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddol a dealltwriaeth gymhwysol am ddamcaniaeth lenyddol. 

  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym mhwnc Ysgrifennu Creadigol (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym mhwnc Saesneg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd gyda’r addysgu ym mhwnc Ysgrifennu Creadigol (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)

Pam astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr y diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes. 
  • Mae ein staff yn ysgrifenwyr ac yn awduron cyhoeddedig adnabyddus sy’n cwmpasu pob math o genres llenyddol. Maent hefyd yn arwain yn eu meysydd arbenigedd ledled y byd. 
  • Cewch gyfleoedd i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o lenyddiaeth a hanes diwylliannol, ac i gyfuno meddwl yn feirniadol ag ysgoloriaeth. 
  • Byddwch yn archwilio damcaniaeth llenyddol – syniadau athronyddol a chysyniadol sy’n hysbysu, herio ac yn cymhlethu'r ffordd yr ydym yn darllen. 
  • Cewch eich annog i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol ac i ehangu eich cwmpawd a’ch galluoedd fel ysgrifenwyr, i'ch galluogi i weithio’n hyderus ar draws amrywiaeth o ffurfiau a genres. 
  • Byddwch yn ymuno â chymuned glòs o fyfyrwyr a staff mewn lle sy’n llawn egni a syniadau newydd, ac fe gewch gyfle i weithio â phobl eraill sydd yr un mor frwdfrydig â chi am Saesneg, ar ei holl ffurfiau. 
  • Byddwch wedi eich amgylchynu gan dirlun godidog. Byddwch yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan yr harddwch naturiol a fydd o’ch cwmpas ym mhobman yn ystod eich taith academaidd. 
  • Os byddwch yn astudio Ysgrifennu Creadigol, fe gewch chi’r cyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd. 

Cyflogadwyedd

Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol yw’r ‘safon aur’ yn unrhyw fan gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Wrth astudio gwahanol genres ac arddulliau, ffurfiau ysgrifennu a thechnegau, byddwch yn datblygu ystod o gymwyseddau a galluoedd, sgiliau a nodweddion y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Bydd hynny’n eich gosod mewn sefyllfa dda i ganfod gwaith ar ôl i chi raddio.

Mae ein cynlluniau gradd cyffrous yn berthnasol i’r gweithle ac mae cyflogwyr yn eu parchu’n fawr. Bydd yr addysg yn rhoi’r sgiliau allweddol i chi allu creu CV cynhwysfawr sy’n disgrifio eich cymwyseddau amrywiol – y cyfan gyda chefnogaeth ac arbenigedd ein Gwasanaethau Gyrfa.

Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn pob math o feysydd sydd â galw mawr amdanynt.  Yn ddiweddar aeth graddedigion yn eu blaen i gael eu cynrychioli gan rai o brif asiantau llenyddol Prydain a chafodd eu gwaith ei gyhoeddi gan rai o’r cyhoeddwyr uchaf eu bri yn y byd, gan gynnwys Faber & Faber a Penguin. Nid bod yn awdur clodfawr yw eich unig opsiwn gyda gradd yn un o’n pynciau. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i bron bob sector, o lywodraeth leol i gyllid, o addysg i newyddiaduriaeth ar gyfer y cyfryngau newydd – does dim terfyn i ble gall gradd mewn Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol fynd â chi. 
 





Ymchwil

Pan fyddwch yn astudio gyda ni, byddwch yn rhan o amgylchedd addysgu a dysgu a ysgogir gan ymchwil o safon fyd-eang. Mae pob un o’n haelodau staff yn ymchwilwyr gweithredol yn eu meysydd a thrwy gydol eich astudiaethau byddwch yn cael eich dysgu gan rai o ysgolheigion ysgrifennu creadigol ac astudiaethau llenyddol blaenllaw y Deyrnas Unedig. 

Ein hymchwil yw sail ein haddysg ac mae ein diddordebau ymchwil mor eang a dynamig â’n cwricwlwm. Byddwch yn cael eich dysgu gan y bobl sy’n ysgrifennu’r llyfrau am y pynciau y byddwch yn dysgu amdanynt, y bobl a ysgrifennodd y farddoniaeth, y nofelau, y straeon byrion, gwaith ffeithiol, sgriptiau a nofelau graffig rydych chi’n eu darllen, a chan yr ysgolheigion sy’n dadansoddi ac yn cwestiynu gweithiau o’r fath. 

Rydym yn manteisio ar rwydwaith eang o gysylltiadau a chydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan weithio gydag academyddion ac ymarferwyr creadigol o bob cwr o’r byd ar brosiectau cyffrous ac arloesol. 

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.