Ieithoedd Modern

Fu hi erioed yn gyfnod mwy cyffrous i astudio ieithoedd. Wrth i ieithoedd eraill gystadlu â'r Saesneg i fod yn brif iaith ar gyfer cyfathrebu byd-eang, mae mwy o resymau nag erioed i fod yn ddwyieithog neu hyd yn oed yn amlieithog. Yma yn Aberystwyth, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer astudio Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg, naill ai’n rhaglenni anrhydedd sengl, yn achos Sbaeneg a Ffrangeg, neu’n rhan o raglenni anrhydedd gyfun yn achos Almaeneg ac Eidaleg. 

Mae astudio ieithoedd yn gyfle i feithrin yr wybodaeth a'r medrau sydd eu hangen i fanteisio'n llwyr ar gyfleoedd yn yr 21ain ganrif. Ar ben hyn, mae'n meithrin dawn i gyfathrebu’n well a hyblygrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ddyfnach, ac mae'r rhain yn nodweddion mae cyflogwyr gartref a thramor yn chwilio amdanynt.  

Mae treulio blwyddyn dramor yn rhan gyffrous o unrhyw raglen radd ieithoedd modern. Mae hefyd yn gyfle gwych i fireinio eich doniau a'ch cryfderau. Yn aml, mae myfyrwyr yn dod nôl i Aber ar ôl eu cyfnod dramor yn fwy hyderus ac yn fwy hyblyg eu hagwedd. Bydd y cyfnod hwn yn eich paratoi'n dda am eich gyrfa yn y dyfodol. 

  • 3ydd yn y Deyrnas Unedig ym mhwnc Ieithoedd ac Ieithyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)
  • 2il yn y DU am Ffrangeg a 5ed yn y DU am Foddhad Myfyrwyr am Almaeneg (Complete University Guide 2024)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Ieithoedd Iberaidd (Canllaw Prifysgolion Da 2024)

Pam astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Aberystwyth yn un o lond llaw o brifysgolion yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio cyfuniad o dair iaith, a gellir astudio dwy ohonynt o lefel dechreuwyr. Hefyd, gallwch gyfuno eich astudiaeth iaith ag ystod eang o bynciau eraill, gan gynnwys Hanes, Cysylltiadau Rhyngwladol, Saesneg, Addysg, a Drama. 
  • Mae myfyrwyr yn ein hadran yn cael eu dysgu gan siaradwyr brodorol ac arbenigwyr yn yr ieithoedd perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael y cyswllt mwyaf posibl â’ch dewis iaith yn eich cyfnod yn Aberystwyth. 
  • Mae’r cynlluniau astudio yn hyblyg: mewn llawer o achosion, cewch ychwanegu iaith arall, neu ollwng iaith nad ydych eisiau ei hastudio ymhellach. 
  • Mae ein hadran yn gymuned fach a chyfeillgar sy'n golygu ein bod yn dod i adnabod ein gilydd yn dda. Gallwn gynnig cymorth academaidd a bugeiliol wedi'i bersonoli er mwyn ichi ffynnu, datblygu a rhagori yn y pynciau o'ch dewis. 
  • Yn ein gwaith, rydym yn defnyddio llawer ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, sy'n golygu bod gwybodaeth a deunyddiau ar flaenau eich bysedd, gartref ac ar eich ffôn symudol. 
  • Tref fach a chanddi galon fawr ac agwedd gosmopolitaidd yw Aberystwyth. Rydyn ni’n Brifysgol fywiog a chyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, ac oherwydd yr awyrgylch glos mae’n lle gwych i ddod i nabod pobl. Bydd yr ardal odidog o’n cwmpas yn sicr o’ch ysbrydoli hefyd. 

Cyflogadwyedd

Gall gradd yn un neu fwy o ieithoedd modern roi mantais i chi yn y farchnad swyddi. Dywed cyflogwyr wrthym eu bod yn gweld gwerth y galluoedd a'r nodweddion y gall graddedigion iaith eu cynnig. Mae gallu siarad dwy iaith neu fwy hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio neu weithio dramor yn y dyfodol. 

Gall astudio ieithoedd arwain at amrywiaeth helaeth o yrfaoedd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â chyfieithu neu gyfathrebu â phobl o wledydd lle na siaredir Saesneg. Gall hyn gynnwys gyrfaoedd mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, cyhoeddi, a thwristiaeth. Gallech hefyd weithio ym maes addysg, ffasiwn neu'r gyfraith. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd! 





Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau a'n hadnoddau'n cynnwys:

  • cyfleusterau soffistigedig ar gyfer dysgu rhithwir 
  • papurau newydd a chylchgronau ieithoedd tramor 
  • adran bwrpasol o lyfrau darllen graddedig yn llyfrgell y brifysgol  
  • cymdeithasau myfyrwyr bywiog i bob iaith 
  • mannau astudio pwrpasol 
  • dysgu a gynorthwyir gan gyfrifiadur.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - un o'r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru - sydd wedi'i lleoli ar y campws yn dangos ffilmiau tramor yn rheolaidd. 

Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell Hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, yn agos iawn i'r adran. 

Ymchwil

Mae staff addysgu yn yr Adran Ieithoedd Modern yn ymchwilwyr sy'n gweithio ar lefel fyd-eang. Cafodd eu gwaith ei ariannu gan yr Academi Brydeinig, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Ymddiriedolaeth Wellcome ymhlith noddwyr eraill, ac fe gyhoeddir canlyniadau’r ymchwil gan gyhoeddwyr mawr ac mewn cylchgronau ysgolheigaidd blaenllaw. 

Mae'r ymchwil yn sail i'n haddysgu ac mae ein diddordebau ymchwil yn eang a deinamig. Rydym yn defnyddio rhwydwaith helaeth o gysylltiadau a chydweithrediadau cenedlaethol a byd-eang, gan weithio gydag academyddion ac ymarferwyr creadigol o bob cwr o'r byd ar brosiectau cyffrous ac arloesol. Mae hyn yn golygu eich bod chi, ein myfyrwyr, yn gallu manteisio ar yr wybodaeth ddiweddaraf yn eich astudiaethau.  

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.