Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Dewch i astudio’r Gymraeg gyda ni, ac fe gewch eich cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau hynod ddiddorol ac unigryw sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil cyfredol ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.

Yn ogystal ag astudio'r Gymraeg, rydym hefyd yn cynnig ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg. Yn Aberystwyth, fe gewch astudio llenyddiaeth yr ieithoedd hyn, o'r oesoedd canol i'r cyfnod cyfoes; cewch ddarllen testunau yn ieithoedd yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar; a chewch wella eich sgiliau llafar ac ysgrifennu yn yr ieithoedd modern. Cewch hefyd ddysgu am ieithoedd a diwylliannau'r hen Geltiaid, a sut y bu iddynt gyfrannu at greu Ewrop fodern. Mae astudio diwylliant mewn modd rhyngddisgyblaethol yn ein hannog i ddeall ein hunain, eraill, a'r byd o'n cwmpas yn well.  

O ddewis astudio cwrs gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, byddwch yn magu hyder i siarad a defnyddio'r Gymraeg mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol a chymdeithasol. Byddwch hefyd yn ystyried lle'r Gymraeg yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau eraill, gan wella'ch gallu i siarad a dysgu ieithoedd eraill. Y cyfuniad hwn sy’n creu’r cefndir a’r ddeinameg arbennig ar gyfer ein bywyd academaidd a chymdeithasol ac sy’n gwneud yr Adran, ac Aberystwyth, yn fan delfrydol i astudio rhai o ieithoedd hynaf Ewrop. 

  • Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddwch yn byw ac yn astudio yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. 
  • Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. 
  • Ar y brig yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd (Complete University Guide 2024).

Pam astudio y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu. Mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.
  • Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).
  • Arbenigwyr - Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Dewis eang o fodiwlau - Byddwch yn astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil cyfredol ein darlithwyr: o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes;  o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg; o ysgrifennu creadigol a sgriptio i olygu a phrawfddarllen.
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad gwych o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Byddwch yn ymuno â chymuned lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol, ac fe gewch y cyfle i fyw ac astudio yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
  • Enw da - Mae safon yr ymchwil a'r addysgu yn yr adran hon ymhlith y gorau sydd ar gael.
  • Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
  • Cewch ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn Neuadd Pantycelyn neu Fferm Penglais, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.

Cyflogadwyedd

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'r  cwricwlwm Astudiaethau Celtaidd sydd ar gael i'n myfyrwyr. Gyda'n dewis eang o fodiwlau, ein nod yw meithrin y sgiliau canlynol:

  • sgiliau beirniadol 
  • sgiliau dadansoddol 
  • sgiliau creadigol 
  • medusrwydd ieithyddol. 

Bydd ein modiwlau yn:

  • atgyfnerthu'ch Cymraeg neu un arall o'r ieithoedd Celtaidd, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • eich paratoi ar gyfer y farchnad swyddi gystadleuol 
  • hogi'ch gallu i gyfathrebu'n effeithiol 
  • hogi'ch gallu i weithio gydag eraill. 

Bydd gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn profi eich bod yn gallu eich mynegi eich hun yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar a thrwy hynny yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi. 

Mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog, ac mae cyflogau gyrfaoedd dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd 

Ar ôl graddio, mae ein myfyrwyr wedi mynd i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd mor amrywiol â’r diwydiant cyhoeddi, twristiaeth, masnach, y gyfraith, addysgu, a gweinyddiaeth. Mae’r rhestr yn ddi-ben-draw!

Cyfleusterau

Mynediad am ddim i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliadau rhagorol o adnoddau llenyddol a chlyweledol. 

Rhaglen o ddigwyddiadau Cymreig  bywiog, gan gynnwys Cicio'r Bar (noson o rannu llenyddiaeth a cherddoriaeth Gymreig a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth); Noson Llên a Chân a gynhelir bob blwyddyn o gwmpas y Nadolig; cystadlaethau ysgrifennu a chyfieithu a mwy.

Ymchwil

Ymchwil sy'n llywio holl waith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill. Rydym yn cynnal seminarau ymchwil agored bob tymor sy’n gyfle i wrando ar arbenigwyr yn y maes a thrafod â phobl sy’n gwirioni’r un fath.  

Mae ein hymchwil yn rhychwantu’r canrifoedd, ac yn cwmpasu’r meysydd arbenigol canlynol: 

  • llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol 
  • ymarfer (golygu, cyfieithu, ysgrifennu creadigol ayb)
  • astudiaethau iaith.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021) cadwodd yr Adran ei henw da am gyhoeddi ymchwil o safon flaengar drwy’r byd, yn ogystal â rhagoriaeth ryngwladol. Barnwyd bod 42% o gyhoeddiadau’r adran yn flaengar drwy’r byd (4*) a 30% yn ‘rhyngwladol ragorol’ (3*). 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.