Marchnata a Thwristiaeth

Mae gyrfa ym maes Marchnata yn ddewis dynamig ac egnïol, a'r maes ei hun yn llawn arloesi, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau "greddfol" ar sail data. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes marchnata yn tueddu i fynd i faes marchnata digidol, ac, yn Aberystwyth, rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi ichi'r sgiliau digidol a thraddodiadol hanfodol sydd eu hangen er mwyn gallu cynnig gwerth i gwmnïau o'ch diwrnod cyntaf fel gweithiwr proffesiynol.  

Twristiaeth yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf ac un o’r mwyaf cyffrous drwy’r byd. O atyniadau twristaidd a chyrchfannau i ddarparwyr gweithgareddau a threfnwyr teithiau, mae twristiaeth yn golygu mwy na mynd ar wyliau’n unig. Nod ein graddau twristiaeth yw sicrhau eich bod yn cael y sgiliau academaidd a phroffesiynol sydd eu hangen i ymgymryd ag amrywiol rolau rheoli yn y sector. 

 

CIM
accreditation
  • Achredir y cwrs gan CIM  
  • 3ydd yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Marchnata (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Graddau achrededig sy'n diwallu anghenion y diwydiant twristiaeth
  • Dysgu trwy ddefnyddio astudiaethau achos a sefyllfaoedd bywyd go iawn 
  • Addysgir gan ymarferwyr diwydiant ac ymchwilwyr sy’n weithgar ym maes ymchwil ar hyn o bryd 

Pam astudio Marchnata a Thwristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn Ganolfan Porth Graddedigion y CIM, sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol.   
  • Cewch eich dysgu gan ymarferwyr o'r diwydiant ac academyddion profiadol sy'n ymwybodol o'r union alw - a'r galw mawr - am raddedigion yn y pwnc hwn, sy'n fedrus o ran yr agweddau technegol a'u dealltwriaeth o'r farchnad.   
  • Byddwch hefyd yn cael eich dysgu gan unigolion sy'n ymchwilio ar hyn o bryd, gan sicrhau eich bod yn cael eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes.
  • Mae ein graddau wedi’u hachredu, sy’n golygu eu bod yn  diwallu anghenion y diwydiant twristiaeth. 
  • Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol ac ymarferwyr arbenigol yn eu dewis feysydd.
  • Byddwch hefyd yn derbyn cyngor arbenigol gan siaradwyr gwadd sy’n flaenllaw yn y diwydiant ac sy’n dod â’u profiad proffesiynol i’r ystafell ddosbarth.
  • A hithau’n gyrchfan i dwristiaid, mae Aberystwyth, a Chymru’n fwy cyffredinol, yn cynnig cyfle amhrisiadwy i astudio twristiaeth glan môr a gwledig yn ymarferol ac o fewn y cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.
  • Rydym ni’n cynnig teithiau maes i gyrchfannau twristaidd yn y DU er mwyn i chi gael dysgu am dwristiaeth ar waith.
“Dysgais lawer am gyfryngau cymdeithasol, delwedd brand a chyfathrebu. Canfûm fod y modiwlau cyfathrebu marchnata, brandio a marchnata digidol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer fy llwybr gyrfa ac roedd y manylion a'r gefnogaeth fanwl gan y darlithwyr yn wych. Roedd y gweithdai, y gwaith ymarferol a'r ffyrdd o gael ein haddysgu oll yn cyfrannu at brofiad gwych ac maent wir wedi llunio fy ngyrfa.”
Caryl Angharad Jones Caryl Angharad Jones BSc Marchnata
“Mae rheoli pobl yn rhywbeth rwy'n teimlo i mi ragori arno yn Aberystwyth. Mae dysgu sut i arwain grŵp nad ydynt o reidrwydd yn ffitio gyda'i gilydd yn rhywbeth yr wyf wedi'i ddatblygu, oherwydd mae ymdrin â chleientiaid o lawer o wahanol sectorau o ddiwydiant, ar lefelau amrywiol yn eu cwmnïau priodol, ymdrin â chymysgedd o bobl bob dydd yn rhan bwysig o’m swydd ac yn sgil a ddysgais ac a ymarferais yn Aberystwyth. ”
Andrew Hepworth  Andrew Hepworth  BSc Marchnata
“Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes ac yn wirioneddol angerddol a rhagweithiol dros yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydych chi’n dysgu cyfrinachau’r diwydiant teithio fel marchnata a strwythur busnes gydag astudiaethau achos a gwahanol fathau o dwristiaeth ac rydych chi hefyd yn dysgu beth mae’r cwsmer yn ei ddymuno, oedd yn fanteisiol i mi wrth ddechrau yn fy rôl. ”
Wilson Tsui Wilson Tsui BSc Twristiaeth
“Fel cyrchfan poblogaidd i dwristiaid, Aberystwyth yw’r lle perffaith i astudio twristiaeth. Rwy’n hoffi maint y cwrs yn arbennig: yn ein blwyddyn ni mae grŵp o tua 25 o fyfyrwyr sy’n ein galluogi i fynd ar lawer o deithiau maes a theithiau astudio. Mae’r darlithwyr yn brofiadol ac yn barod i helpu a thros y tair blynedd ddiwethaf rydyn ni wedi dod i’w hadnabod yn dda iawn. Mae strwythur y cwrs yn hyblyg felly gallwch ganolbwyntio ar feysydd rydych chi’n eu mwynhau! ”
Katja Christiane Poguntke Katja Christiane Poguntke BSc Twrisitiaeth

Cyflogadwyedd

Mae'r cyfleoedd ar ddechrau gyrfa i raddedigion Marchnata i'w canfod i raddau helaeth yn y maes digidol. Mae Marchnatwyr Digidol yn arloesi ac yn dylanwadu ar fyd busnes mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac mae proffesiwn marchnata yn parhau i fod yn ddewis gyrfa gwahanol ac yn un y cewch eich gwobrwyo'n ariannol amdano. Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi cael swyddi gydag Acorn Digital (Shanghai), TravelPerk (Barcelona), Next, The Drum (Llundain), McGregor Boyall (Manceinion), Reckitt Benckiser, EE, ac Aegis Network (Llundain).  

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa fel: 

  • swyddog gweithredol marchnata  
  • ymchwilydd marchnad  
  • ysgrifennwr copi hysbysebu  
  • cynllunydd cyfrif hysbysebu  
  • cynllunydd cyfryngau  
  • prynwr cyfryngau  
  • swyddog cysylltiadau cyhoeddus. 





Cyfleusterau

Mae Refinitiv Workspace wedi'i ymgorffori’n rhan o nifer o fodiwlau craidd ar draws yr Ysgol Fusnes. Mae'n darparu gwybodaeth am gyfrifon cwmnïau, newyddion a dadansoddi ac yn efelychu'r amgylchedd masnachu. Darperir hyfforddiant hefyd ar feddalwedd cyfrifeg Sage a sut i ddefnyddio Excel. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.