Y Gyfraith

Trwy astudio am radd yn y Gyfraith byddwch yn meithrin galluoedd beirniadol ac ymarferol a fydd yn gymorth ac yn gefn ichi trwy gydol eich gyrfa.  

Os ydych yn awyddus i wneud gwahaniaeth, fe wnewch fwynhau astudio'r gyfraith a dysgu am bynciau sy'n bwysig a chanolog i nifer o sectorau. Mae'r Gyfraith yn bwnc hynod ddiddorol sy'n cwmpasu sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, pynciau o ddiddordeb byd-eang, a'r materion mwyaf dadleuol a chyfoes, ac yn rhoi cyfle i chi am lwybrau gyrfa o bob math. Fe ddatblygwch ddoniau meddwl, dadansoddi a datrys problemau, mewn adran sydd â thraddodiad balch o ysgolheictod ac ymchwil, yn dyddio'n ôl i 1901.

Mae'r Gyfraith yn bwnc sydd â bri iddo, ac mae galw am raddedigion y gyfraith mewn sawl sector. Bydd llawer yn mynd ymlaen i broffesiwn y gyfraith, ond os nad hwnnw yw'r llwybr gyrfa yr hoffech ei gymryd, bydd llawer o ddewisiadau eraill ar gael. 

  • Yn y 10 uchaf ym Mhrydain am Brofiad Myfyrwyr ym maes y Gyfraith (Canllaw Prifysgolion Da 2021, The Times and Sunday Times)

Pam astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r Gyfraith wedi cael ei dysgu yn Aberystwyth ers 1901 ac mae wedi paratoi cenedlaethau o bobl o bob cwr o'r byd am yrfaoedd proffesiynol. Mae ein hanes hir yn tystio i dreiddgarwch ein haddysgu.
  • Mae gennym amgylchfyd gwerth chweil o ysgogol a chefnogol i’w gynnig mewn adran ddeinamig, flaengar sydd â chyfoeth o brofiad, addysgu rhagorol, gweithgaredd ymchwil, ac adnoddau. Bydd y cwbl yn talu ar ei ganfed.
  • Ers cenedlaethau, mae pobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys rhai o’r cyfreithwyr, gwleidyddion ac academyddion amlycaf, wedi astudio yma.
  • Mae ein modiwlau wedi'u cynllunio i gyd-daro ag anghenion presennol cyflogwyr a'r proffesiynau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol, ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu eich doniau proffesiynol.
  • Yn ogystal â lleoliadau gwaith, gallwch fanteisio ar gyfleoedd eraill i ddatblygu eich dawn ymarferol a chael profiad o waith yn ystod eich astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Clinig Cyfraith Teulu, trwy wirfoddoli yn ein prosiect ymchwil arloesol - Dewis/Choice - sy'n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl oedrannus sy’n cael eu cam-drin, neu wirfoddoli gyda'n Prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr. 
  • Gallwch ymuno â'n cymdeithas ymrysona fywiog iawn ac ymarfer eich doniau cyfreithiol ac eirioli, wrth ddatblygu galluoedd mwy cyffredinol o ddadlau, trafod, a siarad yn gyhoeddus.
“Ar hyn o bryd rwy'n astudio modiwl profiad gwaith, sy’n cyfrannu 20 credyd tuag at fy ngradd derfynol. Mae hwn yn fodiwl galwedigaethol sy’n fy rhoi mewn sefyllfa i ennill gwybodaeth a chyfrannu at fy ngradd ar yr un pryd. Yn gyffredinol, mae ansawdd y darlithio yn dda iawn, mae rhai o’r Athrawon a'r darlithwyr gorau ym maes y gyfraith yng Nghymru yn dysgu yn Aberystwyth”
Kobi Kobi Cyfraith Droseddol
“Roedd adran y Gyfraith a'i darlithwyr yn hynod ddiddorol ac atyniadol, fe deimlais groeso a chefnogaeth, yn enwedig pan oedd gen i unrhyw gwestiynau. Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cymryd rhan mewn gweithgareddau academaidd megis ymrysona yn ogystal â’u digwyddiadau cymdeithasu eu hunain yn ystod yr wythnos. Mae yno ymdeimlad cryf o gymuned yn gyffredinol ar draws y campws cyfan.”
Ritchie Ritchie Y Gyfraith

Cyflogadwyedd

Cyflogadwyedd sydd wrth wraidd maes llafur ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan roi'r hanfodion i’r myfyrwyr i’w paratoi am yrfa.

Gan weithio ochr yn ochr ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig Adran y Gyfraith a Throseddeg, byddwch yn datblygu sgiliau i fod yn barod am y gweithle. Os yw myfyrwyr yn dymuno cael profiad uniongyrchol gallant elwa o un o'n modiwlau lleoliad gwaith sy'n rhoi credydau, gan gynnwys y modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd i Weithwyr Proffesiynol, a'r Lleoliad Cyfiawnder Troseddol.

Mae ein cynlluniau gradd yn y Gyfraith yn llwyfan i lu o yrfaoedd ac mae myfyrwyr yn cael eu tywys a'u cefnogi trwy gydol eu cyfnod gyda ni er mwyn eu cynorthwyo i sefydlu eu llwybr gyrfa eu hunain.

  • Cyngor ar Bopeth
  • Cyllid
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC)
  • Mewnfudo
  • Llywodraeth Leol
  • Gwaith para-gyfreithiol
  • Ymchwil gwleidyddol
  • Cyfreithiwr
  • Bargyfreithiwr
  • Y Gwasanaeth Sifil.

Ymchwil

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o ymgymryd ag ymchwil arloesol ar draws ystod o ddisgyblaethau. Mae strategaeth ymchwil yn greiddiol i hyn ac mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn chwarae rhan weithredol i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol.

Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am y gyfraith.

Mae'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys:

  • Pobl sydd wedi eu gwthio i’r cyrion am eu bod yn ifanc neu oherwydd henaint,
  • Hawliau Dynol
  • Mudo
  • Y Gyfraith a Rhywedd
  • Cyfraith Ryngwladol
  • Damcaniaeth Gyfreithiol
  • Cyfraith Fasnachol
  • Cyfraith Gorfforaethol
  • Cyfraith Gyfansoddiadol
  • Datganoli
  • Newid cyfansoddiad y Deyrnas Unedig
  • Cyfiawnder i Gyn-filwyr a'u teuluoedd

Y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o ymgymryd ag ymchwil arloesol ar draws ystod o ddisgyblaethau. Mae strategaeth ymchwil yn greiddiol i hyn ac mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn chwarae rhan weithredol i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol.

Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am y gyfraith.

Mae'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys:

  • Pobl sydd wedi eu gwthio i’r cyrion am eu bod yn ifanc neu oherwydd henaint,
  • Hawliau Dynol
  • Mudo
  • Y Gyfraith a Rhywedd
  • Cyfraith Ryngwladol
  • Damcaniaeth Gyfreithiol
  • Cyfraith Fasnachol
  • Cyfraith Gorfforaethol
  • Cyfraith Gyfansoddiadol
  • Datganoli
  • Newid cyfansoddiad y Deyrnas Unedig
  • Cyfiawnder i Gyn-filwyr a'u teuluoed.

Staff Adran y Gyfraith

Yn ein hadran mae gennym gyfreithwyr o nifer o wledydd a chefndiroedd, sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac yn cyfrannu'n sylweddol at y sylfaen ymchwil yn y gyfraith.. Mae cyfraniadau o’r fath yn darparu arbenigedd yn y pwnc yn ogystal â darparu gwaith sydd yn ei dro yn bwydo i ddatblygiad seilwaith academaidd a phroffesiynol, rhwydweithio a gweithgareddau effaith sylweddol. Gwnaed cyfraniadau eraill ar y lefel genedlaethol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol trwy ddyfarnu ac adolygu, darlithoedd gwadd, arholi allanol, datblygu prosiectau cydweithrediadol, cynghori ar bolisi ymchwil, yn ogystal â threfnu a chymryd rhan mewn cynadleddau a chyfarfodydd ymchwil. O'r herwydd, byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr o fri rhyngwladol sy'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.