Troseddeg

Pam mae pobl yn troseddu? A ellir gwneud unrhyw beth i atal troseddu neu, os oes trosedd wedi’i chyflawni, i atal aildroseddu neu leihau lefelau aildroseddu?

Pa gamau ddylid eu cymryd i adsefydlu troseddwyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn rhan o’r gymdeithas eto?

Os yw’r atebion i unrhyw un o'r cwestiynau hyn o ddiddordeb i chi, neu os oes cwestiynau gennych chi’ch hun, efallai mai Troseddeg yw'r pwnc i chi. Bydd gradd mewn Troseddeg yn rhoi cysyniadau a damcaniaethau allweddol ichi ar gyfer diffinio, ymchwilio, adnabod ac ymateb i droseddau a'r rhai sy'n cael eu cyhuddo neu sy’n euog o’u cyflawni. 

Mae troseddegwyr yn rhoi sylw i gwestiynau megis beth yw trosedd, a sut mae troseddu wedi newid dros amser? Beth yw effeithiau'r labeli 'troseddwr' a 'dioddefwr'? Sut allwn ni leihau troseddu a mynd i'r afael yn iawn ag erledigaeth? A yw ein carchardai'n addas i'r diben? Yn Aberystwyth, rydyn ni'n rhoi cyfle i chi ehangu eich dychymyg troseddegol, dysgu sut mae ymchwil troseddegol yn cael ei gyflawni, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud eich gwaith ymchwil eich hun. Hoffem eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial a bod yn Droseddegwr yn yr 21ain ganrif!  

  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Troseddeg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Troseddeg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)

Pam astudio Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn cynnig amgylchfyd gwerth chweil o ysgogol a chefnogol mewn adran ddeinamig, flaengar sy'n deall trosedd, effaith trosedd, a'r gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol.
  • Mae gan droseddegwyr yn Aberystwyth ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau grwpiau penodol o fewn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol neu grwpiau cysylltiedig, megis pobl ifanc, carcharorion dieuog, y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, dioddefwyr, troseddwyr, llunwyr polisi, gweithwyr ym maes cyfiawnder troseddol ac ymarferwyr eraill.
  • Mae ein modiwlau yn ymdrin â meysydd sy’n gynnwys seicoleg droseddol a fforensig, cyfiawnder ieuenctid, euogfarnau anghywir, plismona, seiberddiogelwch, terfysgaeth, cyffuriau a charcharu.
  • Byddwch yn defnyddio damcaniaethau cymdeithasegol, seicolegol a throseddegol ac enghreifftiau o'r byd go iawn i edrych ar ganlyniadau cael eich labelu yn 'droseddwr', effaith trosedd ar ddioddefwyr a chymdeithas, ac i ddatgelu cymhellion y rhai sy'n troseddu, a’u rhoi yng nghyd-destun polisi ac atal troseddu.
  • Gallwch astudio Troseddeg ochr yn ochr â'r Gyfraith, gan roi cipolwg i chi ar y fframwaith cyfreithiol sy'n effeithio ar y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
  • Byddwch yn cael cyfle o bob math i ddatblygu doniau ymarferol a chael profiad uniongyrchol, a’r cwbl wrth ennill credydau tuag at eich gradd.
  • Dysgwyd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ers bron i ddau ddegawd ac mae gan yr Adran enw gwirioneddol dda am ansawdd y dysgu wedi’i gyfuno â throsglwyddo galluoedd craidd i wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy.
  • Trwy astudio Troseddeg rydych yn gallu datblygu pob math o sgiliau trosglwyddadwy, yn barod am eich gyrfa yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol a thu hwnt.
“Mae Aberystwyth wedi dod yn lle arbennig iaw i mi. Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes yma o bedwar ban y byd. Rydw i wedi ymuno a chymdeithasau gwych ac ro'n i'n un o'r rhai a gynorthwyodd i sefydlu's clwb futsal cyntaf. Mae'r darlithwyr yma mor gymwynasgar wrth eich cefnogi gyda'ch gwaith academaidd”
Alex Alex BSc Troeseddeg
“Mae'r adran Droseddeg mor groesawgar! Mae'r staff a'r myfyrwyr yn gwybod eich enw, felly mae pob darlith, seminar a chysylltiad arall yn bersonol. Mae hyn yn teimlo fel bod yr staff eisiau'r gorau i chi. Mae'r staff yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir. Ni ellid gofyn mwy ohonynt. ”
Sam Sam BSc Troseddeg

Cyflogadwyedd

Cyflogadwyedd sydd wrth wraidd maes llafur Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae hyn yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch yn y gweithle.

Trwy weithio ochr yn ochr â'n Gwasanaeth Gyrfaoedd, a chyda mantais y digwyddiadau penodol a gynhelir ganddynt ar gyfer rhwydweithio a gyrfaoedd, gallwn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau sy’n eich paratoi am ddewis eang o yrfaoedd proffesiynol, a pharhau ar yr un pryd i gydnabod eich diddordebau a gwneud y mwyaf o'ch potensial. Gall myfyrwyr sy'n dymuno ennill profiad uniongyrchol elwa o un o'n modiwlau lleoliad gwaith, sef modiwlau sy’n rhoi credydau.

Gyda gradd Troseddeg, bydd llawer o lwybrau ar agor i chi mewn meysydd megis:

  • Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Plismona (e.e. yr Heddlu, Dadansoddi Trosedd, Swyddfa Ymchwiliadau Sifil, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol) 
  • Y Gwasanaeth Carchardai (e.e. Swyddog Carchar, Llywodraethwr Carchar)
  • Gwasanaethau diogelwch (e.e. MI5, MI6, G4S)
  • Asiantaethau camddefnyddio sylweddau 
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
  • Gwaith cymdeithasol 
  • Cymorth i Ddioddefwyr (e.e. Gweithiwr Trin effeithiau Cyffuriau ac Alcohol)
  • Ymchwil cymdeithasol, troseddegol, gwleidyddol ac ymchwil mewn meysydd eraill 
  • Cyngor ar Bopeth  
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC)  
  • Arolygiaeth Ei Fawrhydi
  • Mewnfudo 
  • Llywodraeth Leol  
  • Sefydliadau elusennol
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • Y byd academaidd/ymchwil gan gynnwys astudiaeth ôl-raddedig pellach.

⁠Ymchwil

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o waith ymchwil arloesol ymhob math o ddisgyblaethau. Mae strategaeth ymchwil yn greiddiol i hyn ac mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn chwarae rhan weithredol i gyflawni ei chenhadaeth i addysgu, hysbysu ac ysbrydoli arweinwyr a llunwyr barn y dyfodol. 

Mae'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys: 

  • Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Plismona 
  • Camweinyddu Cyfiawnder 
  • Y gwasanaeth carchardai, gan gynnwys prosiect Darllen a Thyfu
  • Troseddau Celf, Hynafiaethau a Threftadaeth 
  • Ymyriadau i leihau troseddu 
  • Asesu Risg 
  • Cyfraddau troseddu 
  • Ffactorau troseddegol 
  • Pobl a wthiwyd i’r cyrion am eu bod yn ifanc neu oherwydd henaint
  • Rheoli a rhwystro troseddu
  • Troseddeg werdd 
  • Ymchwil y Lluoedd Arfog
  • Cam-drin domestig

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Staff Troseddeg

Mae ein staff arbenigol yn cyfrannu'n sylweddol at sylfaen ymchwil lewyrchus ein hadran ac ym maes ehangach Troseddeg. Oherwydd y cysylltiadau cryf sydd gennym ym meysydd plismona, carchardai a chyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â llywodraeth leol a sefydliadau anllywodraethol, byddwch yn elwa o'n rhwydwaith helaeth ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae staff ymchwil yn defnyddio’r harbenigedd sydd ganddynt fel aelodau o nifer fawr o gyrff ymgynghorol sector cyhoeddus a rhyngwladol, gan gynnwys Prosiect Rhannu Data Cymru Gyfan, Pwyllgor Cynghori Cymru Comisiwn y Gyfraith, Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl (GRETA), a Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru. Yn sgil y cynnydd ym mhoblogrwydd 'troseddeg gyhoeddus' gwelwyd cyfraniadau i bartneriaid allanol megis y BBC, gan gynnwys podlediad ar lofruddiaeth yng Nghymru, sydd i’w gael yn https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001j4d6. Mae staff hefyd yn aelodau gweithgar o Banel Cynghori Academaidd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a'r Grŵp Datblygu Prawf (Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru), y ddau yn cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â datganoli posibl y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, a grŵp Cenedlaethol Hwb Doeth sy'n hyfforddi ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid ac yn ymchwilio a chynghori yng nghyswllt datblygu cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.  

Mae gan nifer o droseddegwyr yn yr adran brofiad uniongyrchol o weithio ym maes cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf, a'r heddlu. Maent yn cynnal cysylltiadau â'r gwasanaethau hynny, ac mae hyn yn rhoi cyfleoedd am leoliadau gwaith myfyrwyr ac ymchwil gydweithrediadol gyda'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, ymhlith eraill. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog, ac mae Troseddeg yn Aberystwyth yn cynnig mwy o gredydau cyfrwng Cymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg.