Cyngor gan yr Adran – Datganiadau Personol

darlithydd; darlith

Yma mae ein adrannau academaidd yn trafod Datganiadau Personol.

Yn y ddewislen isod, gallwch weld beth mae pob un o’n adrannau academaidd am weld, pan byddant yn darllen datganiadau personol.

Gwnewch nodyn o’r hyn maent am wybod, beth sydd angen i chi gynnwys ac yna dechreuwch gynllunio, fel byddwch yn rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hunan.

Pob lwc!

 

Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Wrth wneud penderfyniad, rydym yn chwilio am fynegiant clir – myfyrwyr sy’n dweud yr hyn maen nhw’n ei olygu heb ddefnyddio jargon neu fratiaith. Rydym hefyd yn chwilio am fyfyrwyr sy’n gwybod llawer ac yn frwd iawn am eu dewis pwnc/pynciau. Rhaid gweld peth tystiolaeth eu bod wedi darllen am y cyrsiau, er mwyn iddynt allu dweud wrthym pam eu bod yn dymuno astudio gyda ni.

Awgrymiadau i helpu:

  • Ar ôl i chi orffen, gadewch eich datganiad am ddiwrnod. Yna, ewch yn ôl ato a gwirio eich gramadeg a’ch sillafu
  • Darllenwch ddisgrifiadau’r cwrs ar lein wrth baratoi
  • Cofiwch fod addysg yn ymwneud â dysgu yn ogystal ag addysgu, a bod llawer o wahanol agweddau wrth astudio plentyndod
  • Cyn i chi siarad â rhywun arall am eich datganiad, gwnewch restr o’r pethau sydd o ddiddordeb i chi ym maes addysg neu blentyndod. Bydd hyn o gymorth i chi gynllunio eich datganiad er mwyn i chi drafod mwy nag un maes
  • Dangoswch ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n briodol ar gyfer y cynllun/cynlluniau rydych yn gwneud cais ar ei gyfer/eu cyfer. Er enghraifft, efallai bod gennych ddiddordeb mewn technoleg neu’n mwynhau rhyw hobi – cysylltwch y rhain â phlentyndod neu addysg yn hytrach na’u disgrifio yn gyffredinol
  • Os ydych yn gwneud cais am gynllun sy’n cyfuno pwnc arall ag Addysg, ceisiwch gysylltu’r ddau. Er enghraifft, sut gwnaethoch chi ddysgu’r pwnc hwnnw orau
  • Gallwch fynegi barn, ond rhowch reswm dros y farn honno bob amser. Er enghraifft, efallai eich bod chi o’r farn fod chwarae yn dda i blant ifanc – rhowch un neu ddau reswm
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn pwnc oherwydd eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedwch hynny wrthym, ond rhowch ambell reswm yn hytrach na nodi hynny yn unig
  • Soniwch am brofiad perthnasol bob amser – disgrifiwch y profiad, a chynnwys hefyd rywbeth rydych wedi’i ddysgu ohono
  • Cadwch olwg ar y newyddion am faterion addysgiadol cyfoes sydd o ddiddordeb i chi. Chwiliwch amdanynt mewn mwy nag un man: e.e. ar lein, y teledu, papurau newydd, er mwyn bod gennych wahanol safbwyntiau i ysgrifennu amdanynt
  • Os oes gennych ddiddordeb yn yr hyn sy’n cael ei ddysgu mewn ysgolion, ymchwiliwch i gwricwlwm cenedlaethol eich gwlad
  • Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y mae plant ifanc yn cael eu dysgu, ymchwiliwch i gwricwlwm Blynyddoedd Cynnar eich gwlad

Busnes

Wrth ysgrifennu eich datganiad personol, byddwch yn onest a defnyddiwch iaith y byddech yn ei defnyddio wrth siarad bob dydd. Dangoswch eich brwdfrydedd tuag at y cwrs rydych yn gwneud cais amdano a dangoswch eich bod wedi edrych ar gynnwys y cwrs. Dangoswch ymwybyddiaeth o fusnes, cyllid neu economeg drwy fynegi barn ar rywbeth rydych wedi’i ddarllen neu wedi’i weld ar y newyddion a cheisiwch gysylltu hynny â’ch cwrs.

Os oes gennych brofiad o waith, ystyriwch beth rydych wedi’i ddysgu a sut y gellir defnyddio’r gwersi hynny mewn gyrfa broffesiynol mewn busnes yn y dyfodol. Os nad oes gennych brofiad o waith, canolbwyntiwch ar weithgaredd arall roeddech yn rhan ohono yn yr ysgol neu’r coleg, neu yn rhywle arall. Efallai eich bod yn helpu i redeg clwb neu gymdeithas; efallai y cymeroch ran mewn cynllun menter neu gystadleuaeth; neu efallai y gwnaethoch gymryd rhan mewn rhywbeth fel Gwobr Dug Caeredin? Beth bynnag ydyw, ysgrifennwch am rywbeth diddorol y gwnaethoch ei ddysgu am y profiad, a fydd yn berthnasol i’ch astudiaethau yn y dyfodol neu i’ch gwaith proffesiynol yn y dyfodol. Gall gweithgareddau aflwyddiannus o’r gorffennol fod yr un mor werthfawr â rhai llwyddiannus, cyn belled â’ch bod yn gallu dangos i chi ddysgu rhywbeth o’r profiad.

Dyma rai pethau NA ddylech eu gwneud yn eich Datganiad Personol:

  • Peidiwch â gorliwio eich disgleirdeb na chyfeirio ato’n ddi-sail. Cyflwynwch dystiolaeth trwy roi enghreifftiau penodol i gefnogi honiadau a wnewch amdanoch eich hun
  • Cofiwch osgoi ystrydebau, er enghraifft ‘Ers pan oeddwn yn blentyn rwy’n awchu am wybodaeth… neu’n angerddol dros gyfrifeg’
  • Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol amherthnasol. Efallai na fydd y ffaith eich bod yn chwarae pêl-droed, neu’n mwynhau cerdded mynyddoedd, yn berthnasol i ba mor addas yr ydych ar gyfer y cwrs. Os byddwch yn cynnwys gwybodaeth am eich diddordebau, dylech hefyd ddangos pam ei bod yn berthnasol i’ch cais
  • Peidiwch â dweud celwyddau. Mae’n bosib y cewch eich dal yn gwneud hynny
  • Peidiwch â chopïo’r hyn fydd eich ffrindiau neu’ch cyd-ddisgyblion yn ei ysgrifennu, a pheidiwch â thorri a gludo testun y gallwch ddod o hyd iddo ar lein. Gall meddalwedd soffistigedig sy’n canfod llên-ladrad ac sy’n cael ei ddefnyddio gan brifysgolion eich dal wrthi
  • Peidiwch â gwneud cam â chi’ch hun drwy gyflwyno rhywbeth sydd wedi ei strwythuro’n wael, wedi ei ysgrifennu’n wael, neu sy’n cynnwys camgymeriadau gramadeg, sillafu neu atalnodi. Holwch i riant neu athro/athrawes wirio’r datganiad os nad ydych yn sicr

Celf

Croeso i’r Ysgol Gelf. Yr Athro Robert Meyrick ydw i, Pennaeth yr Ysgol Gelf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ein Hysgol yn cynnig amryw o gyrsiau i’ch ysgogi a’ch herio’n greadigol mewn Celfyddyd Gain, Hanes Celf a/neu’r Celfyddydau Creadigol. Maent yn cynnig cyfle prin i gyfuno’r ymarferol, yr hanesyddol a’r curadurol wrth astudio celf drwy gyrsiau arbenigol neu gyfunol mewn arlunio a phaentio, arlunio llyfrau, ffotograffiaeth, argraffwaith, amlgyfryngau a’r cyfryngau newydd yn ogystal ag addysg ymarferol, alwedigaethol mewn hanes celf.

A chithau’n fyfyriwr yn yr Ysgol Gelf, cewch eich dysgu a’ch mentora gan dîm ymroddedig o artistiaid, haneswyr celf a churaduriaid. Mae ein darlithoedd, ein seminarau, ein gweithdai a’n dosbarthiadau ymarferol yn creu amgylchedd a fydd yn eich ysgogi ac yn rhoi profiad ymarferol i chi i ddatblygu eich sgiliau.

Mae’r Ysgol yn un o ddim ond dwy ysgol gelf yn y DU sydd wedi ennill statws amgueddfa wedi’i achredu gan y llywodraeth.  Ceir yn ein hadeilad rhestredig hanesyddol gasgliad cyfoethog a chynhwysfawr o gelfyddyd gain a diwylliant materol, ac mae enghreifftiau i’w gweld mewn arddangosfeydd cyhoeddus yn ein horielau ochr yn ochr â gwaith celf ein myfyrwyr.

Mae llu o gyfleusterau, canolfannau ac atyniadau i gynnig ysgogiad creadigol i fyfyrwyr Celfyddyd Gain, Hanes Celf a/neu’r Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Bydd stiwdios, gweithdai argraffu, ystafelloedd tywyll, ‘Mac Suite’ a chasgliadau ein horielau a’n hamgueddfa ar gael i chi. Dyw’r Ysgol fawr o dro o brif gampws Penglais y Brifysgol, llety’r myfyrwyr a chanol y dref. Rydym hefyd yn agos at Ganolfan y Celfyddydau sydd yng nghanol y campws. Ceir yng Nghanolfan y Celfyddydau orielau celf a serameg sy’n cynnal arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn ac yma hefyd y cynhelir yr Ŵyl Serameg Ryngwladol bob dwy flynedd. Dafliad carreg i ffwrdd mae’r Llyfrgell Genedlaethol a’i harchifau a’i chasgliadau celf helaeth.

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd yn y celfyddydau creadigol fel arlunwyr portreadau, arlunwyr llyfrau plant, dylunwyr graffig, addysgwyr a churaduriaid.  Mae rhai o’n graddedigion wedi dangos eu gwaith yn y National Gallery a’r National Portrait Gallery.  Yn 2017, enillodd un o’n graddedigion diweddar wobr Sky Arts i Baentiwr Tirluniau’r Flwyddyn.

Porwch drwy ein gwefan i gael gwybod mwy am ein cyrsiau. Awgrymwn hefyd eich bod yn archebu lle yn un o’n Diwrnodau Agored er mwyn cael cwrdd â’n staff a gweld yr Ysgol Gelf a’r brifysgol drosoch eich hun.

Cyfrifiadureg

Mewn datganiad personol, rwy’n chwilio am ymgeiswyr sydd â diddordeb gwirioneddol yn y pwnc. Gall hyn fod drwy drafod deunydd darllen yn y maes (e.e. erthyglau ynghylch deallusrwydd artiffisial ar gyfer cyrsiau yn y maes hwnnw), neu gymryd rhan mewn clybiau cyfrifiadureg, neu efallai drafod rhai o’r rhaglenni mae’r ymgeisydd eisoes wedi’u hysgrifennu. Mae bob amser yn dda gweld bod pobl wedi’u dysgu eu hunain sut i raglennu, oherwydd mae hynny’n dangos ymroddiad a chymhelliad.

Dro arall, pan nad yw ymgeiswyr wedi rhaglennu cyn dechrau’r cwrs, mae’n bwysig cael clywed am eu hawydd i ddysgu ac am eu hangerdd tuag at y pwnc. Unwaith eto, rwy’n chwilio am dystiolaeth i ategu’r hyn sy’n cael ei ddweud: gall pobl ddweud bod ganddynt ddiddordeb brwd mewn pwnc, ond bydd rhoi un neu ddwy o enghreifftiau penodol i ategu hynny’n helpu i argyhoeddi. Gall gweithgareddau allgyrsiol helpu yn hyn o beth, er enghraifft astudio ar gyfer cyrsiau am ddim ar-lein, cymryd rhan mewn ysgolion haf neu gymdeithasau a chlybiau perthnasol, ac yn y blaen.

Er nad ydw i’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn deall materion allanol sy’n berthnasol i’r pwnc, mae’n dda gweld hynny. Yn sicr ddigon, mae deallusrwydd artiffisial/roboteg/diogelwch yn y newyddion yn aml ac mae ymwybyddiaeth o’r pethau hyn yn dangos bod yr ymgeisydd yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Mae’r datganiad personol o gymorth i mi i ddeall yr ymgeisydd yn well, yn hytrach na dibynnu ar eirdaon a phynciau/graddau yn unig. Os gwelaf fod ymgeiswyr yn frwd ac yn ymddiddori yn y pwnc, mae hynny’n beth cadarnhaol iawn. Yn enwedig mewn achosion cael a chael, gall olygu’r gwahaniaeth rhwng cael eu derbyn neu eu gwrthod!

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Mae datganiadau personol yn hynod bwysig i diwtoriaid derbyn. Rydym yn eu defnyddio i gael gwybod am eich diddordebau a’r hyn sydd wedi gwneud i chi benderfynu astudio yma yn Aberystwyth. Ydyn, rydyn ni’n hoffi gwybod ffeithiau amdanoch, ond peidiwch â bod ofn dweud rhywbeth am eich personoliaeth a’r hyn sy’n mynd â’ch bryd. Efallai fod gennych hoff ddyfyniad, llyfr sydd wedi’ch ysbrydoli, rhywun (enwog neu ddim) rydych yn ei edmygu, diddordeb, digwyddiad yn eich bywyd sydd wedi lliwio’r ffordd rydych yn gweld y byd. Efallai fod gennych uchelgais. Y datganiad personol yw’r lle delfrydol i sôn am hyn.

Cyn ysgrifennu eich datganiad, ewch ati i geisio cael gwybod am yr hyn mae Aberystwyth yn ei wneud. Ffordd dda o wneud hyn yw rhoi ein henw yn Google ac yna 'prosbectws' a dilyn y dolenni. Cewch wybod am yr hyn rydym yn ei wneud y tu hwnt i’r dysgu. Ydyn ni’n cynnig unrhyw adnoddau yr hoffech eu defnyddio? Oes yna gymdeithasau yr hoffech ymaelodi â nhw? Ydych chi’n hoffi chwaraeon? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth? Ydych chi’n hoffi treulio amser yn yr awyr agored? Byddai’n ddefnyddiol hefyd i ni gael gwybod sut y clywsoch amdanom, a beth wnaeth i chi ymgeisio. Chwiliwch i gael gwybod beth yw barn pobl eraill hefyd. Chwiliwch am 'Aberystwyth' ar Twitter ac fe gewch wybod rhywbeth nad oeddech yn ei wybod o’r blaen. Heb os nac oni bai. A phan ddewch o hyd iddo, cofiwch ei rannu â ni.

Mae’r pwnc a ddewiswch yn bwysig hefyd, wrth gwrs – ac yn ffordd wych o’ch cyflwyno’ch hun. Os ydych yn bwriadu astudio rhywbeth am y tro cyntaf, beth wnaeth i chi ddewis y pwnc? Mae’n rhaid bod stori y tu ôl i hynny. Os ydych wedi dilyn cwrs Safon Uwch yn y pwnc, pam ydych chi eisiau dal ati?  Bydd llawer o ymgeiswyr yn sôn am destun maen nhw wedi’i ddarllen neu weithgaredd maen nhw wedi cymryd rhan ynddo sydd wedi apelio atynt. Mae hynny’n iawn, ond mae bob amser yn dda o beth cael clywed am agweddau ar y pwnc nad ydych wedi’u hastudio yn y dosbarth. Peidiwch â meddwl bod rhaid i bopeth a ddywedwch fod yn gadarnhaol. Os oes rhywbeth na allwch ei ddioddef, dywedwch pam.

Yn anad dim, byddwch yn onest. Os ydych yn meddwl bod gennych dalent, rhannwch hynny. Os oes rhywbeth yn peri pryder i chi, rhannwch hynny hefyd.

Rydym yn darllen pob gair ym mhob datganiad oherwydd mae hynny’n gwneud ein gwaith yn haws. Fe synnech chi pa mor ddefnyddiol ydyn nhw, yn enwedig os dewch chi i Ddiwrnod Agored yn nes ymlaen. Mae’n torri’r garw os gallwn ni gofio mai chi yw’r ymgeisydd sy’n rasio colomennod neu sy’n byw ar gwch. Pwy a ŵyr, efallai y byddem gennym lawer yn gyffredin!

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Yn aml iawn, eich datganiad personol yw’r rhan gyntaf o’ch cais y bydd tiwtor derbyn y brifysgol yn ei darllen, ac o’r herwydd, mae’n bwysig treulio digonedd o amser yn drafftio rhywbeth sy’n rhoi darlun cywir ohonoch chi, eich diddordebau a’ch doniau.

Ymhlith ymgeiswyr i astudio Daearyddiaeth, Gwyddorau’r Ddaear neu’r Amgylchedd rwy’n chwilio am dystiolaeth eich bod yn mwynhau’r pwnc, a pham rydych eisiau astudio yn y brifysgol. Mae’n ddiddorol cael gweld ymhle y dechreuodd eich hoffter o’r pwnc; efallai i chi ddarllen llyfr neu gylchgrawn pan oeddech yn iau, neu gallai fod yn lle arbennig y buoch yn ymweld ag ef, neu’n athro neu athrawes a’ch ysbrydolodd yn yr ysgol. Gallech fod yn ymwneud â’r pwnc y tu hwnt i’ch astudiaethau ffurfiol hefyd, er enghraifft mynd ar deithiau maes allgyrsiol, tanysgrifio i gylchgronau, bod yn aelod o gymdeithas (e.e. y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol), neu gymryd rhan mewn cyrsiau dewisol neu ddarlithoedd cyhoeddus.

Rwy’n yn awyddus hefyd i glywed am y pynciau eraill rydych yn eu hastudio ar hyn o bryd, a pha sgiliau y mae’r pynciau hyn wedi’u datblygu. Er enghraifft, efallai y bydd mathemateg wedi gwella eich sgiliau rhifedd, neu lenyddiaeth Saesneg wedi datblygu eich sgiliau ysgrifennu. Yn yr un modd, efallai eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol eraill (e.e. chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli, Gwobr Dug Caeredin) sy’n dangos set sgiliau ehangach. Mae’n hollbwysig eich bod yn pwysleisio’r sgiliau hyn yn eich datganiad personol. Er enghraifft, os ydych yn aelod o dîm chwaraeon neu gymdeithas, dywedwch wrthym pam mae hyn wedi bod yn bwysig i chi, a pha sgiliau mae wedi eich helpu i’w datblygu. Hefyd, ydych chi wedi cyflawni rhywbeth arall y tu allan i’r ysgol/coleg y gallech sôn amdano, neu oes gennych chi swydd ran amser sydd wedi eich helpu i ddatblygu fel person? Gall fod yn fanteisiol hefyd sôn am eich diddordebau a sut rydych yn hoffi ymlacio; mae’n helpu i greu darlun o sut un ydych chi.

Nid pawb sy’n gwybod pa yrfa y mae eisiau ei dilyn, ond os ydych yn un o’r ychydig ffodus sy’n gwybod yn barod, dywedwch hynny, gan esbonio pam y byddai gradd mewn Daearyddiaeth, Gwyddorau’r Ddaear neu’r Amgylchedd yn eich helpu i ddilyn y trywydd hwnnw. Os nad ydych yn gwybod yn union beth hoffech chi ei wneud, dyw hynny ddim yn ddrwg o beth; mae astudio’r pynciau hyn yn y brifysgol yn agor cymaint o ddrysau i’n graddedigion.

Yn olaf, cofiwch brawfddarllen eich datganiad personol (ei ddarllen yn uchel sy’n gweithio orau i mi yn aml), a gofynnwch i aelod o’r teulu neu ffrind agos rydych yn ymddiried ynddynt fwrw golwg drosto.
Pob hwyl i chi gyda’ch cais!

Ffiseg

1. Wrh ddarllen Datganiad Personol (DP), rydym am ddysgu am eich cyraeddiadau, eich profiadau, eich diddordebau hamdden a’ch cymhellion sy’n gysylltiedig â ffiseg neu fathemateg. Mae graddau perthnasol Safon Uwch, neu gyfatebol, hefyd yn hanfodol ar gyfer asesu’r DP. Ein nod yw canfod y rhesymau am apêl y cwrs/cyrsiau rydych yn gobeithio eu hastudio. Rhaid i ni allu gwerthfawrogi’r hyn sy’n eich gosod ar wahân i ymgeiswyr eraill a pham eich bod yn addas ar gyfer eich cwrs dewisiedig.

2. Er nad oes yn rhaid gwneud gwaith darllen ychwanegol, yn aml y ffordd orau o baratoi yw troi at y datblygiadau diweddaraf mewn Ffiseg, a chysylltu’r rhain â’ch maes astudio dewisiedig.

3. Ar gyfer eich datganiad personol, byddai o fudd i ni pe gallech ddangos dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â’r maes pwnc. Efallai eich bod wedi cwblhau profiad gwaith perthnasol ac wedi cael profiad ymarferol o bwnc arbennig, neu efallai eich bod wedi astudio pwnc yn yr Ysgol/Coleg, neu wedi gweld rhywbeth ar y newyddion, neu hyd yn oed wedi darllen papur neu wylio rhaglen ddogfen, sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio dewisiedig, sydd wedi ennyn eich diddordeb. Efallai bod rhywbeth neu rhywun yn eich bywyd wedi eich ysbrydoli i astudio Ffiseg. Mae ystyried pwnc perthnasol yn ffordd o ddangos lefel eich brwdfrydedd tuag at eich maes astudio dewisiedig.

4. Fel y soniwyd uchod, mae graddau a chymwysterau perthnasol yn elfen hanfodol o’ch DP. Mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol i ni ddod i’ch adnabod chi, a chloriannu eich cyfraniad posib yn y dyfodol at weithgareddau ac astudiaethau’r adran, ac yn sail i’n penderfyniad. Gallai’r rhain gynnwys swyddi cyfrifol rydych wedi’u cyflawni; unrhyw ddoniau chwaraeon, cerddorol, neu gelfyddydol a allai fod gennych; unrhyw wobrau rydych wedi’u hennill; unrhyw sgiliau perthnasol megis cyfathrebu, rheoli amser, gwaith grŵp rydych wedi’u datblygu; a’ch rhesymau am wneud cais i astudio Ffiseg.

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

1. Wrth ddarllen datganiad personol, ein nod yw canfod y rhesymau dros apêl y cwrs/cyrsiau rydych yn gobeithio eu hastudio i chi. Rydym am ddysgu am eich diddordebau hamdden, eich cyraeddiadau, eich profiadau a’ch cymhellion. Bydd datganiad personol cryf yn yn dweud llawer wrthym am eich cymeriad, gweithgareddau allgyrsiol, a gallu academaidd. Ceir llawer o wahanol resymau dros astudio gwleidyddiaeth ryngwladol, ac rydym am glywed eich rhesymau chi.

2. O ran deunyddiau darllen, yn aml y paratoadau gorau yw darllen am faterion cyfoes yn y cyfryngau, a’u cysylltu â’r maes astudio rydych wedi’i ddewis. Wrth ddarllen stori yn y newyddion, holwch eich hun am y cysylltiad rhyngddi â gwleidyddiaeth/gwleidyddiaeth ryngwladol, neu beth yw arwyddocâd gwleidyddol rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd. Efallai eich bod wedi darllen ambell lyfr oherwydd bod gennych ddiddordeb arbennig mewn pwnc – dywedwch wrthym amdanynt a beth gwnaethoch chi fwynhau amdanynt hefyd; bydd hyn yn helpu i ddangos eich brwdfrydedd am y pwnc. Nid ydym yn disgwyl ichi ddarllen unrhyw destunau academaidd er mwyn ysgrifennu eich datganiad personol; byddwch yn derbyn rhestr o awgrymiadau a chyfarwyddyd ar ôl ichi ddechrau’r cwrs.

3. Ar gyfer eich datganiad personol, byddai o fudd i ni pe gallech ddangos dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â’r maes pwnc, ond nid yw’n gwbl angenrheidiol. Efallai eich bod wedi cwblhau profiad gwaith perthnasol ac felly wedi cael profiad ymarferol o bwnc arbennig. Neu efallai eich bod wedi astudio pwnc yn yr Ysgol/Coleg, neu wedi gweld rhywbeth ar y newyddion, neu hyd yn oed wedi darllen nofel neu wylio ffilm, sy’n gysylltiedig â’r cwrs astudio rydych wedi’i ddewis, ac sydd wedi ennyn eich diddordeb. Efallai bod rhywbeth neu rywun yn eich bywyd wedi eich ysbrydoli i astudio gwleidyddiaeth neu wleidyddiaeth ryngwladol. Mae ystyried pam mae gennych ddiddordeb mewn pwnc yn ffordd o ddangos eich brwdfrydedd tuag at eich maes astudio dewisiedig.

4. Mae datganiadau personol yn gyfle i chi ein hargyhoeddi ni eich bod yn addas ar gyfer ein cwrs/cyrsiau, ac y dylem gynnig lle i chi astudio gyda ni. Mae’n ffordd ddefnyddiol i ni ddysgu am swyddi cyfrifol rydych wedi’u cyflawni; unrhyw ddoniau chwaraeon, cerddorol, neu gelfyddydol a allai fod gennych; unrhyw wobrau rydych wedi’u hennill; unrhyw sgiliau perthnasol megis cyfathrebu, rheoli amser, gwaith grŵp rydych wedi’i ddatblygu; a’ch rhesymau dros wneud cais i astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.  Mae datganiadau personol yn gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi, ac i’n galluogi ni i gloriannu eich cyfraniad posib yn y dyfodol at weithgareddau ac astudiaethau’r adran.

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Yn aml iawn, eich datganiad personol yw’r rhan gyntaf o’ch cais y bydd tiwtor derbyn y brifysgol yn ei darllen, ac o’r herwydd, mae’n bwysig treulio digonedd o amser yn drafftio rhywbeth sy’n rhoi darlun cywir ohonoch chi, eich diddordebau a’ch doniau.

Ymhlith ymgeiswyr i wneud gradd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) rydym yn chwilio am dystiolaeth eu bod yn mwynhau’r pwnc, a pham y maen nhw eisiau astudio yn y brifysgol. Mae’n ddiddorol cael gweld ymhle y dechreuodd eich hoffter o’r pwnc; efallai i chi ddarllen llyfr neu gylchgrawn pan oeddech yn iau, neu gallai fod yn lle arbennig y buoch yn ymweld ag ef, neu’n athro neu athrawes a’ch ysbrydolodd yn yr ysgol. Gallech fod yn ymwneud â’r pwnc y tu hwnt i’ch astudiaethau ffurfiol hefyd, er enghraifft mynd ar deithiau maes allgyrsiol, tanysgrifio i gylchgronau, bod yn aelod o gymdeithas (e.e. y Gymdeithas Bioleg Frenhinol, y Gymdeithas Biocemeg neu’r Gymdeithas Geneteg), neu gymryd rhan mewn cyrsiau dewisol, prifysgol haf neu ddarlithoedd cyhoeddus.

Rydym hefyd yn awyddus i glywed am y pynciau eraill rydych yn eu hastudio ar hyn o bryd, a pha sgiliau y mae’r pynciau hyn wedi’u datblygu. Er enghraifft, efallai y bydd mathemateg wedi gwella eich sgiliau rhifedd, neu lenyddiaeth Saesneg wedi datblygu eich sgiliau ysgrifennu. Yn yr un modd, efallai eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol eraill (e.e. chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli, Gwobr Dug Caeredin) sy’n dangos set sgiliau ehangach. Mae’n hollbwysig eich bod yn pwysleisio’r sgiliau hyn yn eich datganiad personol. Er enghraifft, os ydych yn aelod o dîm chwaraeon neu gymdeithas, dywedwch wrthym pam mae hyn wedi bod yn bwysig i chi, a pha sgiliau mae wedi eich helpu i’w datblygu. Hefyd, ydych chi wedi cyflawni rhywbeth arall y tu allan i’r ysgol/coleg y gallech sôn amdano, neu oes gennych chi swydd ran amser sydd wedi eich helpu i ddatblygu fel person? Gall fod yn fanteisiol hefyd sôn am eich diddordebau a sut rydych yn hoffi ymlacio; mae’n helpu i greu darlun o sut un ydych chi.

Nid pawb sy’n gwybod pa yrfa y mae eisiau ei dilyn, ond os ydych yn un o’r ychydig ffodus sy’n gwybod yn barod, dywedwch hynny, gan esbonio pam y byddai gradd yn IBERS yn eich helpu i ddilyn y trywydd hwnnw. Os nad ydych yn gwybod yn union beth hoffech chi ei wneud, dyw hynny ddim yn ddrwg o beth; mae astudio’r pynciau hyn yn y brifysgol yn agor cymaint o ddrysau i’n graddedigion.

Yn olaf, cofiwch brawfddarllen eich datganiad personol (ei ddarllen yn uchel sy’n gweithio orau i mi yn aml), a gofynnwch i aelod o’r teulu neu ffrind agos rydych yn ymddiried ynddynt fwrw golwg drosto.
Pob hwyl i chi gyda’ch cais!

Gyfraith a Throseddeg

1. Wrth ddarllen datganiad personol, ein nod yw canfod y rhesymau dros apêl y cwrs/cyrsiau rydych yn gobeithio eu hastudio atoch. Rydym am ddysgu am eich diddordebau hamdden, eich cyraeddiadau, eich profiadau a’ch cymhellion. Rhaid i ni allu gwerthfawrogi’r hyn sy’n eich gosod ar wahân i ymgeiswyr eraill a pham eich bod yn addas ar gyfer eich cwrs dewisiedig. Bydd datganiad personol cryf yn dweud llawer wrthym am eich cymeriad, gweithgareddau allgyrsiol, a gallu academaidd. Ceir llawer o resymau amrywiol dros astudio’r gyfraith a/neu droseddeg, felly byddwch yn driw i’ch hun!

2. O ran deunyddiau darllen, yn aml y paratoadau gorau yw darllen am faterion cyfoes yn y cyfryngau, a’u cysylltu â’r maes astudio rydych wedi’i ddewis. Wrth ddarllen stori yn y newyddion, holwch eich hun am y cysylltiad â’r gyfraith, neu beth yw arwyddocâd troseddegol posib rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd. Byddwch yn derbyn rhestr yn awgrymu beth i’w ddarllen a chyfarwyddyd ar ôl i chi ddechrau’r cwrs.

3. Ar gyfer eich datganiad personol, byddai o fudd i ni pe gallech ddangos dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â’r maes pwnc, ond nid yw’n gwbl angenrheidiol. Efallai eich bod wedi cwblhau profiad gwaith perthnasol ac wedi cael profiad ymarferol o bwnc arbennig, neu efallai eich bod wedi astudio pwnc yn yr Ysgol/Coleg, neu wedi gweld rhywbeth ar y newyddion, neu hyd yn oed wedi darllen nofel neu wylio ffilm, sy’n gysylltiedig â’r cwrs astudio rydych wedi’i ddewis, sydd wedi ennyn eich diddordeb. Efallai bod rhywbeth yn eich bywyd wedi eich ysbrydoli, neu efallai bod rhywun wedi eich ysbrydoli i astudio’r gyfraith a/neu droseddeg. Mae ystyried pwnc perthnasol yn ffordd o ddangos lefel eich brwdfrydedd tuag at eich maes astudio dewisiedig.

4. Mae datganiadau personol yn gyfle i chi ein hargyhoeddi ni eich bod yn addas ar gyfer ein cwrs/cyrsiau, ac y dylem ni gynnig lle i chi astudio gyda ni. Mae’n ffordd ddefnyddiol i ni ddysgu am swyddi cyfrifol rydych wedi’u gwneud; unrhyw ddoniau chwaraeon, cerddorol, neu gelfyddydol a allai fod gennych; unrhyw wobrau rydych wedi’u hennill; unrhyw sgiliau perthnasol megis cyfathrebu, rheoli amser, gwaith grŵp rydych wedi’u datblygu; a’ch rhesymau dros wneud cais i astudio’r gyfraith a/neu droseddeg. Mae datganiadau personol yn gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi, ac i’n galluogi ni i gloriannu eich cyfraniad posib yn y dyfodol at weithgareddau ac astudiaethau’r adran, ac yn sail i’n penderfyniad.

Hanes a Hanes Cymru

1. Wrth ddarllen datganiad personol, ein nod yw canfod y rhesymau pam y byddech yn dymuno astudio am radd mewn hanes. Yn fwy na dim, mae brwdfrydedd am y pwnc yn sefyll allan mewn datganiadau personol. Gallwch sôn am y mathau o hanes rydych yn ymddiddori ynddynt a/neu beth hoffech chi ei astudio yn y brifysgol. Os ydych wedi ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, rhannwch eich profiadau gan ddweud sut maen nhw wedi dylanwadu ar eich dealltwriaeth o’r gorffennol. Rhaid i ni allu gwerthfawrogi’r hyn sy’n eich gosod ar wahân i ymgeiswyr eraill a pham eich bod yn addas am radd mewn hanes. Bydd datganiad personol cryf yn dweud llawer wrthym am eich cymeriad, gweithgareddau allgyrsiol, a gallu academaidd. Ceir llawer o resymau amrywiol dros astudio hanes, felly byddwch yn driw i chi’ch hun!

2. O ran deunyddiau darllen, yn aml y ffordd orau o baratoi yw troi at y gwaith ymchwil diweddaraf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y Croesgadau, y Tuduriaid neu unrhyw gyfnod neu ddigwyddiad hanesyddol arall, cadwch ar war y dehongliadau diweddaraf trwy ddarllen llyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion. Nid yw’n rhan orfodol o’r datganiad ond mae dangos eich gwybodaeth o’r maes yn ffordd wych o gyfathrebu eich brwdfrydedd.

3. Ar gyfer eich datganiad personol, byddai o fudd i ni pe gallech ddangos dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â’r maes pwnc, ond nid yw’n gwbl angenrheidiol. Efallai eich bod wedi astudio pwnc yn yr Ysgol/Coleg, neu wedi gweld rhywbeth ar y newyddion, neu hyd yn oed wedi darllen nofel neu wylio ffilm, sydd wedi tanio eich diddordeb mewn hanes. Mae ystyried pwnc perthnasol yn ffordd arall o ddangos lefel eich brwdfrydedd tuag at eich maes astudio dewisiedig.

4. Mae datganiadau personol yn gyfle i chi ein hargyhoeddi ni eich bod yn addas ar gyfer ein cwrs/cyrsiau, ac y dylem gynnig lle i chi astudio gyda ni. Mae’n ffordd ddefnyddiol i ni ddysgu am swyddi cyfrifol rydych wedi’u cyflawni; unrhyw ddoniau chwaraeon, cerddorol, neu gelfyddydol a allai fod gennych; unrhyw wobrau rydych wedi’u hennill; unrhyw sgiliau perthnasol megis cyfathrebu, rheoli amser, gwaith grŵp rydych wedi’i ddatblygu; a’ch rhesymau dros wneud cais i astudio hanes. Mae datganiadau personol yn gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi, ac i’n rhoi ni mewn sefyllfa i gloriannu eich cyfraniad posib yn y dyfodol at weithgareddau ac astudiaethau’r adran, ac yn sail i’n penderfyniad.

Ieithoedd Modern

Mae datganiad personol UCAS yn gyfle i chi i werthu eich hun ac i sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw ymgeiswyr eraill. Mae’n gyfle i chi i ddangos i diwtoriaid derbyn beth yw eich diddordebau, eich doniau a’ch llwyddiannau.

Bydd tiwtoriaid derbyn yn darllen eich datganiad personol yn ofalus ac yn drylwyr: byddant yn dibynnu ar y wybodaeth a roddwch yn y datganiad wrth wneud eu penderfyniad. Cofiwch eich bod yn cystadlu yn erbyn llawer o ymgeiswyr eraill, ac y bydd tiwtoriaid derbyn yn darllen nifer fawr o geisiadau. Felly, mae’n bwysig pwyllo a meddwl yn ofalus am yr hyn rydych eisiau ei ddweud a sut rydych eisiau ei ddweud.

Mae tiwtoriaid derbyn yn chwilio am gymhelliad a photensial. Rydym am roi cynigion i ymgeiswyr sy’n dangos brwdfrydedd mawr dros yr iaith neu’r ieithoedd maen nhw wedi dewis eu hastudio, a thros ddiwylliant y wlad neu’r gwledydd lle mae’r iaith yn cael ei siarad. Os ydych yn ymddiddori yn sinema Sbaen / coginio bwyd Ffrengig / ffuglen ditectif yr Almaen – rydyn ni eisiau clywed am hynny!

Rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth fod gennych ddiddordeb brwd yn y cwrs rydych wedi gwneud cais ar ei gyfer. Cyn i chi ddechrau ysgrifennu eich datganiad personol, ewch yn ôl at y prosbectws a’r wybodaeth am y cwrs a’u hailddarllen. Fydd eich datganiad personol UCAS ddim wedi’i ysgrifennu’n dda os nad ydych yn siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud a pham. Mae angen i hynny fod yn glir yn eich meddwl os ydych am argyhoeddi eraill. Darllenwch fanylion y cwrs a chael gwybod yn iawn beth fydd astudio’r pwnc yn ei olygu. Cofiwch, gallwch bob amser ddod i Ddiwrnod Agored (lle y cewch gyfle i siarad â thiwtoriaid y brifysgol) er mwyn cael gwybod mwy am hynny.

Rhowch dystiolaeth eich bod yn ddigon trefnus i ymdopi ag astudio ar lefel prifysgol. Mewn geiriau eraill, dangoswch eich bod yn gwybod beth sydd o’ch blaen. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau iaith yn rhai 4 blynedd a byddwch yn astudio sawl agwedd ar yr iaith a’r diwylliannau sy’n gysylltiedig â hi. Yn ogystal â dosbarthiadau iaith, gramadeg a siarad, byddwch hefyd yn astudio popeth o lenyddiaeth a ffilm i gyfieithu, hanes a materion cymdeithasol-wleidyddol cyfoes. Cewch gyfle i dreulio blwyddyn dramor. Mae hyn i gyd yn dipyn o fenter. Byddwch yn barod i reoli’r llwyth gwaith ychydig yn wahanol i’r ffordd y mae hynny’n digwydd ar gwrs Safon Uwch. Dangoswch eich bod yn ymwybodol o hyn ac yn awyddus i ymroi i bob agwedd ar y radd.

Byddwch hefyd eisiau dangos eich bod yn unigolyn crwn, a bod gennych ddiddordebau y tu hwnt i’r pwnc ei hun. Ydych chi’n chwarae offeryn? Ydych chi wedi cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin? Ydych chi’n hoffi mynydda/bale/gemau cyfrifiadurol/datblygu gwefannau? Bydd datganiad personol da, yn ogystal â dweud eich bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, hefyd yn dweud pa sgiliau rydych chi wedi’u datblygu drwy’r gweithgareddau hynny a fydd yn eich helpu yn ystod eich astudiaethau. Efallai eich bod wedi datblygu annibyniaeth neu hyder, gallu i ehangu eich gwybodaeth mewn amryw helaeth o feysydd, gallu i ymwneud ag eraill, sgiliau cyfathrebu, sgiliau cyflwyno, gallu i weithio mewn tîm, hoffter o deithio/darganfod, natur chwilfrydig – mae’r rhain i gyd yn sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn hynod ddefnyddiol drwy gydol gradd Ieithoedd Modern. Felly, peidiwch â phetruso cysylltu eich diddordebau anacademaidd â’ch amcanion yn y dyfodol o ran Ieithoedd Modern.

Yn yr un modd, cofiwch gynnwys gwybodaeth am unrhyw swyddi, lleoliadau gwaith neu brofiadau gwirfoddol perthnasol a gawsoch. Bydd y rhain hefyd wedi helpu i feithrin sgiliau na fyddech yn eu cael fel arfer yn yr ysgol neu’r coleg. Os ydych wedi bod i ysgolion haf neu ddarlithoedd cysylltiedig, dywedwch hynny: mae’n dangos eich bod yn ymgeisydd brwd, trefnus a blaengar sy’n ymddiddori yn y pwnc.

Does dim angen mynd dros ben llestri o ran darllen eilaidd yn y maes dan sylw. Os ydych am astudio Ffrangeg, er enghraifft, does dim rhaid i chi fod wedi darllen pob darn enwog o lenyddiaeth Ffrainc a ysgrifennwyd erioed na bod wedi gweld pob ffilm Ffrangeg. Yn hytrach, rydym yn chwilio am ryw arwydd o ddiddordeb a chymhelliad. Dangoswch eich bod wedi ceisio ymroi i’r deunydd rydych eisoes wedi dod ar ei draws. Gallai hyn gynnwys y testunau rydych wedi’u hastudio yn yr ysgol: oedden nhw’n eich ysgogi/yn anarferol/yn ddifyr? Pam? Ym mha ffordd? Neu efallai fod artist cerddorol o Ffrainc rydych yn hoffi gwrando arno neu arni’n rheolaidd. Os felly, soniwch am hynny. Yn aml iawn, y ffordd orau o ddarganfod a dangos angerdd dros ieithoedd yw dangos sut rydych yn cysylltu hynny â rhywbeth rydych eisoes yn mwynhau ei wneud. Efallai eich bod yn hoffi darllen ffuglen wyddonol – os felly, darllenwch rywfaint yn eich dewis iaith a dywedwch wrthym am hynny. Efallai mai coginio neu bobi sy’n mynd â’ch bryd. Prynwch lyfr ryseitiau yn eich dewis iaith a rhowch gynnig ar rai prydau traddodiadol drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr iaith darged. Dywedwch wrthym am hynny. Dyma’r math o beth sy’n dangos i ni eich bod yn llawn angerdd a’ch bod yn hoffi ymwneud â’r iaith y tu hwnt i’ch astudiaethau gorfodol.

Rhowch dystiolaeth fod gennych ddiddordeb deallus yn y byd a’r hyn sy’n digwydd ynddo. Nodwch unrhyw swyddi cyfrifol a thystiolaeth o fod yn rhagweithiol. Efallai y byddwch am sôn am unrhyw feini tramgwydd rydych wedi eu goresgyn a defnyddio’r rhain i ddangos eich cymeriad a’ch cryfderau. Os ydych yn bwriadu cymryd blwyddyn allan, esboniwch pam.

Os allwch chi ddangos ymwybyddiaeth o’r diwylliant neu’r diwylliannau sy’n gysylltiedig â’ch dewis iaith darged, bydd hynny’n dda iawn o beth hefyd. Dyw hynny ddim yn golygu bod angen i chi fod wedi darllen pob erthygl newyddion/ffordd o fyw/cymdeithasol sydd wedi’i hysgrifennu yng ngwlad yr iaith darged am fisoedd ymlaen llaw. Y cwbl mae’n ei olygu yw bod angen i chi ddangos awydd i ymwneud â’r iaith. Efallai i chi fynd i Sbaen/yr Almaen/Ffrainc/yr Eidal/ac yn y blaen ar eich gwyliau a mwynhau amgueddfa/achlysur diwylliannol/gŵyl. Efallai hefyd i chi ddarllen rhywbeth yn y newyddion yn ddiweddar a dynnodd eich sylw at agwedd ar fywyd yn Sbaen/yr Almaen/ac yn y blaen nad oeddech yn gwybod amdani o’r blaen. Yn y bôn, dangoswch eich bod yn barod i ymroi. Nid profi eich gwybodaeth yw diben y datganiad personol – mae gennym ddiddordeb mewn cael gwybod am eich brwdfrydedd, eich awydd i ddysgu, yr hyn rydych yn teimlo’n angerddol yn ei gylch, a’r sgiliau rydych wedi’u meithrin wrth ddarganfod yr holl bethau hyn.
Cofiwch, os ydych yn ymgeisio am wahanol bynciau ar yr un ffurflen, bydd angen i chi esbonio eich penderfyniadau’n glir neu bydd y sefydliadau’n meddwl nad ydych wedi penderfynu eto.

Defnyddiwch iaith glir. Does dim angen i chi ddefnyddio iaith flodeuog. Er hynny, mae angen i chi wneud yn siŵr ei fod wedi’i ysgrifennu’n glir, wedi’i strwythuro’n ofalus ac mewn cywair ffurfiol. Dyw tiwtoriaid derbyn ddim eisiau gweld dolur rhydd geiriol, bratiaith, geirfa amhriodol, cywair anffurfiol neu iaith ‘sgwrsio’. Mae’n iawn defnyddio hiwmor o bryd i’w gilydd i dynnu eu sylw at frawddeg benodol. Ond peidiwch â defnyddio gormod arno neu bydd yn colli ei effaith.

Eich rheswm dros fod eisiau astudio eich dewis gwrs yw’r peth cyntaf y mae tiwtoriaid yn chwilio amdano. Felly, dyna sut y bydd eich datganiad yn dechrau fel arfer. OND, peidiwch â dechrau drwy ddweud “Rwy bob amser wedi bod eisiau astudio …” – mae bron pob datganiad personol yn dechrau fel hyn! Ceisiwch ennyn sylw eich darllenydd.

Bydd angen strwythur trefnus arnoch. Bydd angen i chi fod yn gryno hefyd. Peidiwch â malu awyr na thraethu’n ddiamcan. Ewch drwy bob pwynt yn ei dro – peidiwch â neidio yn ôl ac ymlaen.

Rhowch:

  • Esboniad manwl a chlir o pam rydych eisiau astudio’r cwrs dan sylw – a pham rydych yn gymwys i wneud hynny.
  • Disgrifiad manwl o’ch doniau, eich diddordebau a’ch llwyddiannau.
  • Rhyddiaith gelfydd, wedi’i hysgrifennu’n ofalus, heb wallau sillafu, gramadeg na fformatio.

Yn olaf, gofynnwch i un o’ch athrawon/cynghorwyr gyrfaoedd ei brawfddarllen. Bydd ganddyn nhw brofiad o weld ac ysgrifennu datganiadau personol, a byddant yn gallu dweud wrthych a ydych wedi gwerthu eich hun yn dda ac a yw eich strwythur yn drefnus.

Mathemateg

1. Beth ydych chi (y darllenydd academaidd) yn chwilio amdano mewn datganiad personol?
Yn anad dim, tystiolaeth sy’n amlygu eich diddordeb mewn mathemateg a’ch brwdfrydedd dros ddysgu mwy am y pwnc. Gallech wneud hyn drwy nodi pa rannau o’ch cwrs mathemateg rydych wedi’u mwynhau hyd yma neu sôn am unrhyw weithgareddau mathemategol rydych wedi penderfynu eu gwneud y tu allan i’ch cwrs (e.e. astudiaethau pellach gwirfoddol, gweithdai mathemateg/dosbarthiadau meistr, mynd i ddarlithoedd mathemateg, cymryd rhan mewn cystadlaethau mathemateg, defnyddio mathemateg mewn profiad gwaith neu yn eich bywyd bob dydd). Yn ail, unrhyw reswm arall dros ddewis y cwrs neu’r cyrsiau, e.e. o ran eich cynlluniau gyrfa. Bydd hyn yn helpu i’n sicrhau eich bod wedi dewis cwrs addas a’i bod yn dra thebygol y byddwn yn ymroi dros y 3 neu 4 blynedd nesaf i astudio’r pwnc hyd eithaf eich gallu. Gallech hefyd gynnwys unrhyw amgylchiadau eithriadol rydych yn meddwl y dylem eu hystyried nad ydynt wedi’u trafod eisoes yn eich ffurflen gais.

2. Pa ffynonellau eilaidd y dylai’r darpar fyfyriwr eu darllen?
Nid oes rheidrwydd arnoch i ddarllen ffynonellau eilaidd.

3. Ydych chi’n disgwyl i’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn deall materion allanol sy’n berthnasol i’r pwnc/cwrs? (E.e. rhywbeth sydd wedi bod yn y newyddion.)
Nid o reidrwydd.

4. Sut mae’r datganiad personol yn eich helpu yn yr adran wrth wneud cynigion?
Mae’r datganiad personol yn arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried ymgeiswyr sydd â chefndiroedd academaidd anarferol, neu sydd â record academaidd nad yw’n adlewyrchu potensial yr ymgeisydd yn ddigonol, efallai oherwydd amgylchiadau eithriadol. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a chanddynt awydd brwd i ddysgu am fathemateg ac sy’n benderfynol o wneud yn fawr o’r cymorth a’r cyfleoedd y gallwn eu cynnig er mwyn gwireddu eu potensial..

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yn yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, rydym yn darllen pob datganiad personol ac yn chwilio am y rhai sy’n gwneud i ni feddwl "ry’n ni eisiau dysgu’r myfyriwr yma". Y datganiadau personol hyn sy’n dangos sut mae’r ymgeiswyr yn ymwneud â’u pwnc yn eu hysgol neu goleg.

Mae llawer o ymgeiswyr yn mynegi eu hangerdd a’u hoffter o’r pwnc, ond heb ddangos dim tystiolaeth i ategu hynny. Rydym yn chwilio am frwdfrydedd tuag at y pwnc a’r ffordd orau o gyfleu hynny i ni yw dangos yr hyn rydych wedi’i ddarllen a’i wneud y tu hwnt i faes llafur y pwnc yn yr ysgol a’r coleg.

Ym maes Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, gallech drafod llenyddiaeth rydych wedi’i darllen y tu hwnt i faes llafur eich cwrs, neu waith ysgrifennu rydych wedi’i greu y tu allan i’ch cwrs.

Seicoleg

Cewch gyfle yn eich datganiad personol i ddisgleirio. Dyma’r unig le y cewch rwydd hynt i siarad amdanoch eich hun, felly cofiwch wneud yn fawr o’r cyfle.

Mae’n bosib y bydd eich datganiad yn cael ei ddarllen sawl tro – pan wnewch eich cais am y tro cyntaf, pan ddewch i ymweld â ni i siarad â’r staff neu efallai os na fydd eich arholiadau’n mynd cystal â’r disgwyl a bod raid i ni ailedrych ar eich cais.

Wrth wneud cais i astudio seicoleg gwnewch eich gorau glas i sicrhau bod eich datganiad yn llawn geiriau allweddol sy’n wirioneddol berthnasol i’r pwnc. Dywedwch wrthym sut y dechreuodd eich diddordeb, beth sydd wedi bod o ddiddordeb penodol i chi os ydych eisoes yn astudio’r pwnc a beth yw eich uchelgais. Y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod yn gwneud i bopeth gyfrif, a chysylltu hynny â seicoleg lle bynnag y bo modd. Er enghraifft, os dywedwch wrthym eich bod yn gapten ar y tîm hoci, mae hynny’n ddatganiad o lwyddiant, ond mae’n amherthnasol i raddau helaeth iawn nes i chi wneud iddo gyfrif. Efallai eich bod wedi dysgu am bwysigrwydd gweithio mewn tîm drwy fod yn gapten, neu ffyrdd o ysgogi eraill, o annog perfformiad a newid ymddygiad cadarnhaol – sydd i gyd yn bethau y mae lle iddynt mewn gradd seicoleg. Gall pethau nad ydych yn meddwl eu bod yn uniongyrchol berthnasol fod yn ddefnyddiol iawn.

Os oes gennych swydd ran amser, efallai’n gweithio yn y sector manwerthu, dangoswch sut mae seicoleg i’w gweld yno – yn yr hysbysebu, arwyddion, marchnata cynigion arbennig a’r ffordd y mae’ch gweithle’n eich annog i ymdrin â chwsmeriaid. Mae cymaint o ffyrdd o ddangos bod eich profiadau wedi cyfrannu at eich dealltwriaeth o seicoleg.  Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu gweld seicoleg o’u cwmpas ym mhobman, yn y cartref, yn y byd ehangach ac yn eu dyfodol. Er mwyn gwneud hynny gallech siarad am eich profiad eich hun, neu sut rydych wedi sylwi ar y ffordd y mae adroddiadau’r cyfryngau rydych wedi’u gweld yn berthnasol i seicoleg.

Efallai y byddwch yn gallu dangos eich bod wedi edrych ymhellach, y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – ac wedi darllen yn ehangach. Dywedwch wrthym pam rydych yn hoffi awdur neu lyfr penodol, sut rydych yn hoffi ymlacio a threulio eich amser hamdden, a sut y mae hynny’n berthnasol i seicoleg. Dangoswch eich bod yn gwybod beth yw seicoleg mewn gwirionedd, a’r hyn y bydd gradd yn ei roi i chi. Gwnewch i bopeth gyfrif a gwnewch bopeth yn berthnasol – os gallwch wneud hynny byddwn yn fwy na pharod i’ch croesawu i astudio yma gyda ni yn Aberystwyth.