Y Gronfa Caledi Myfyrwyr

Cronfa ddewisol yw Cronfa Caledi Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnig cymorth i fyfyrwyr a allai fod mewn perygl o adael y Brifysgol oherwydd anawsterau ariannol. 

Mae’r Gronfa ar agor i’r holl fyfyrwyr cartref a rhyngwladol sy’n gwneud cynnydd llwyddiannus ar isafswm o 50% (60 credyd) o gwrs gradd llawn-amser yn Aberystwyth. Os ydych chi’n fyfyriwr Uwchraddedig rydych chi’n gymwys i ymgeisio am hyd at 12 mis ar ôl eich cyfnod cofrestru. Nid yw’r Gronfa ar agor i chi os ydych chi’n astudio ar gwrs dysgu o bell neu leoliad ar y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith.

Gyda beth y gall y gronfa eich helpu

  • Caledi’n deillio o amgylchiadau gwirioneddol na ragwelwyd neu sy’n annisgwyl ac nad ydych chi wedi gallu cynllunio ar eu cyfer
  • Anawsterau ariannol yn deillio o ddiffyg incwm gwirioneddol a gwariant hanfodol
  • Caledi ariannol tymor byr. Er enghraifft, oedi o ran Cyllid Myfyrwyr.
  • Cymorth i dalu am gost eich adroddiad anghenion astudio

Beth na all y gronfa eich helpu ag ef

  • Os yw eich trefniadau i gyllido eich astudiaethau yn annigonol wrth ichi ddechrau ar y cwrs.
  • Os ydych wedi tynnu’n ôl dros dro neu ddim wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd
  • Os oes arnoch angen cymorth ariannol gyda'ch ymchwil a/neu waith maes. Nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn annisgwyl.
  • Cymorth gydag unrhyw ddyledion sydd gennych

Gwneud cais

  • Gallwch lenwi ffurflen gais ar-lein drwy MS Forms.
  • Efallai y bydd gofyn i chi gyfarfod ag Ymgynghorydd Myfyrwyr i drafod eich cais. Bydd y cyfarfod hwn yn anffurfiol a bydd yn rhoi cyfle i chi drafod eich amgylchiadau unigol yn fanwl.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich manylion banc yn gyfredol ar eich cofnod myfyriwr neu ni fydd modd i ni drosglwyddo’r dyfarniad ariannol i chi.
  • Sicrhewch fod yr holl dystiolaeth ategol berthnasol wedi'i huwchlwytho gyda'ch cais. Bydd Ymgynghorydd Myfyrwyr mewn cysylltiad os oes unrhyw beth ar goll ond gall hyn oedi'r broses

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith a thelir unrhyw ddyfarniad o fewn 5 diwrnod gwaith arall.
  • Os nad oes gennych arian am fwyd yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch ag aelod o'r tîm Cyngor ac Arian i roi gwybod iddynt oherwydd mae’n bosibl y gallwn gynnig cymorth brys.

A gaf i ymgeisio fwy nag unwaith mewn blwyddyn academaidd?

  • Dim ond unwaith y tymor y cewch wneud cais i'r gronfa (Oni bai bod eich cais blaenorol wedi cael ei wrthod)
  • Os oes angen i chi ailymgeisio i'r gronfa bydd angen i chi gyfarfod ag Ymgynghorydd i drafod eich amgylchiadau ariannol.
  • Dim ond os oes newid sylweddol wedi bod yn eich amgylchiadau y caiff eich cais ei ystyried os ydych chi’n ailymgeisio.
  • Cofiwch ei bod hi’n bosibl y cewch eich cyfeirio at fanc bwyd i gael rhagor o gymorth

Tystiolaeth Atodol

  • 3 mis o drafodion banc

    • Amlygwch unrhyw drafodion dros £100 a nodwch beth oedd eu pwrpas.
    • Mae angen i'r dystiolaeth ddangos yn glir pa gyfleuster gorddrafft sydd gennych.
    • Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth ar gyfer pob cyfrif, gan gynnwys cyfrifon cynilo, cyfrifon rhyngwladol ac unrhyw gelloedd neu gronfeydd arian o fewn i’r cyfrifon hynny.
    • Wrth lawrlwytho eich trafodion o'ch cyfrif ar-lein bydd angen i chi ddewis y dyddiadau 'o' ac 'i' - yna eu lawrlwytho fel dogfen PDF.
  • Cytundeb Tenantiaeth
    • Mae angen i'r cytundeb tenantiaeth neu'r 'Contract' fod ar gyfer lle rydych chi'n byw ar hyn o bryd.
    • Bydd angen i’ch enw ymddangos yn glir, a dyddiadau eich tenantiaeth.
    • Os nad yw swm y rhent ar eich contract yna bydd angen i chi ddarparu prawf o hyn ar wahân.
    • Os ydych chi’n byw mewn llety Prifysgol, nid oes angen i chi uwchlwytho unrhyw dystiolaeth o hyn.
  • Cyllid Myfyrwyr
    • Os ydych chi’n derbyn cyllid gan Cyllid Myfyrwyr yna bydd angen i chi uwchlwytho eich 'Llythyr hawl' yn cadarnhau eich cyllid.
    • Mae angen iddo fod yn gadarnhad ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol.
    • Os ydych chi’n cael eich cyllid o unrhyw le arall bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth o hyn.
    • Os nad ydych wedi derbyn cyfanswm y cyllid y mae gennych hawl iddo’n llawn nodwch hyn ar eich cais
  • Datganiad personol
    • Gofynnir i chi ddarparu datganiad personol yn y cais.
    • Bydd angen i hwn egluro pam eich bod mewn trafferthion ariannol a'r camau rydych chi eisoes wedi eu cymryd i fynd i'r afael â nhw.
    • Byddwch mor onest â phosibl yn eich datganiad personol
  • Tystiolaeth arall
    • Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth ychwanegol gan ddibynnu ar eich sefyllfa.
    • Gallai hyn gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i):
      • Tystiolaeth o'ch EPA
      • Tystiolaeth o ad-daliadau dyledion sydd gennych
      • Tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau rydych chi’n eu derbyn

Asesu a dyfarniadau

  • Byddwn yn cyfrifo eich incwm a'ch gwariant hanfodol i weld a oes diffyg
  • Byddwn yn cymryd yn ganiataol bod myfyrwyr wedi gwneud darpariaeth ddigonol i ddod i'r Brifysgol
  • Byddwn yn defnyddio ffigur ar gyfer cyfrifo alldaliadau hanfodol
  • Os oes gennych ddiffyg ariannol byddwn yn dyfarnu 50% o'r diffyg hwn
  • Os nad oes diffyg dros y flwyddyn, byddwn yn rhoi dyfarniad 'Tymor byr'
  • Mae'r dyfarniad hwn ar gyfer byw yn sylfaenol am 4 wythnos a’r cyfanswm fydd £260
  • Mae’r dyfarniad ‘byw yn sylfaenol’ hwn i’ch helpu chi gyda bwyd wrth i chi ddod o hyd i incwm arall
  • Byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw ddyfarniad drwy eich e-bost Prifysgol
  • Bydd y taliadau’n cael eu gwneud i’ch cyfrif banc yn y DU sydd wedi’i nodi ar eich cofnod myfyriwr
  • Os nad ydych yn hapus â'r dyfarniad, gallwch drafod hyn ag aelod o'r tîm

Apeliadau

  • Os nad ydych chi’n hapus â’r dyfarniad y penderfynwyd ei roi i chi, yna dylid gwneud apwyntiad cychwynnol gydag Ymgynghorydd Myfyrwyr i drafod y canlyniad. Gallwch ofyn am gynrychiolaeth a chyngor gan Undeb y Myfyrwyr os oes angen.
  • Yn y cyfarfod hwn bydd yr Ymgynghorydd Myfyrwyr yn egluro i chi sut y cafodd y cais ei asesu a sut y daethpwyd i’r penderfyniad.
  • Gellir esbonio’r canllawiau ar gyfer asesu ceisiadau i chi ac os oes gennych dystiolaeth bellach gellir adolygu eich cais.
  • Os ydych chi’n parhau i fod yn anhapus â’r penderfyniad ar ôl yr adolygiad hwn yna bydd modd i chi wneud apêl ffurfiol.
  • Os hoffech apelio yn erbyn y dyfarniad ar ôl cyfarfod â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr, dim ond ar y seiliau canlynol y cewch wneud hynny:
    • Tystiolaeth, nad oedd ar gael ar adeg eich cais.
    • Tystiolaeth o afreoleidd-dra gweithdrefnol.
  • Dylid apelio'n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Ein nod yw rhoi gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod gwaith. Os cyflwynir apêl, bydd yr holl bartïon yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl.
  • Bydd y panel apeliadau yn annibynnol o'r broses wreiddiol ac yn cynnwys yr aelodau panel canlynol:
    • Uwch Reolwr o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
    • Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Adran Gyllid
    • Cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.