Pam mynd i brifysgol?

Dau fyfyriwr yn ymchwilio mewn labordy gwyddoniaeth

Rydych chi ar eich blwyddyn olaf yn yr ysgol neu goleg. Y cwestiwn nawr yw: beth nesaf?

O ran penderfyniadau, mae’r penderfyniad ynghylch prifysgol yn un mawr. Yn newid bywyd ac yn gyffrous.

Mae manteision byrdymor a hirdymor addysg uwch yn parhau i fod yn niferus – nid yn academaidd yn unig ar gyfer mynd i gyflogaeth yn y dyfodol, ond hefyd y tu hwnt i’r byd academaidd o ran datblygiad personol.

Manteision Prifysgol:

  • Dysgwch ragor am rywbeth sy’n mynd â’ch bryd
    Cewch ehangu eich gwybodaeth mewn pwnc rydych yn frwdfrydig drosto – boed yn y Celfyddydau, y Gwyddorau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol – a hynny o dan hyfforddiant arbenigwyr yn eu maes.
  • Bywyd myfyriwr
    Cymdeithasu, sefyll ar eich traed eich hun, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, teithio a gwneud ffrindiau o bob cwr o’r byd – ffrindiau am oes!
  • Cyfleoedd ar gyfleoedd
    Mae ystod ehangach o yrfaoedd a chyfleoedd ar gael i raddedigion, o ymchwil bellach i gynlluniau hyfforddi graddedigion unigryw a mwy, yn y wlad hon a thramor.
  • Mantais gystadleuol ar gyfer y dyfodol
    Mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol brysuro, mae gwerth mawr i radd a allai fod yn fanteisiol i chi yn erbyn ymgeiswyr eraill. Bydd yr amser y byddwch wedi’i dreulio yn astudio at eich gradd yn dangos i’ch darpar gyflogwr y sgiliau sydd gennych chi, y wybodaeth a enilloch a’r ymroddiad a ddangoswyd gennych trwy astudio 3 i 4 blynedd ar eich gradd.
  • Y potensial i ennill cyflog uwch
    Yn 2022, roedd graddedigion o oedran gweithio (16-64 oed) ar gyfartaledd yn ennill £11,500 yn fwy na’r rhai nad oeddynt wedi graddio (Yr Adran Addysg, Mehefin 2023).
  • Mireinio sgiliau bywyd gwerthfawr
    Pethau fel dysgu annibynnol, hunanhyder, gweithio mewn tîm, cyfathrebu, trefnu, arwain a mwy – a’r rhain oll yn hanfodol ar gyfer y gweithle.
  • Rydym yn ymfalchïo yng nghyflogadwyedd ein graddedigion
    Mae 92% o fyfyrwyr Aberystwyth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion Prifysgol Aberystwyth, Mehefin 2023, HESA).

Rhwystr i’r brifysgol y sonnir dipyn amdano yw’r goblygiadau cost. Fodd bynnag, yma yn Aberystwyth, rydym yn cynnig rhai o’r Ysgoloriaethau mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i helpu i’ch cefnogi’n ariannol trwy gydol eich astudiaethau.