Blwyddyn Sylfaen
Mae dewis ein cwrs sylfaen yn rhoi rhagarweiniad rhagorol ar gyfer astudio mewn prifysgol; o'r diwrnod cyntaf byddwch ar eich ffordd i sicrhau gradd anrhydedd gyflawn o Brifysgol Aberystwyth.
Mae cwrs gradd sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen yn eich rhoi mewn sefyllfa i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth astudio am radd. Ar ben hyn, mae nifer o'n cynlluniau blwyddyn sylfaen yn rhoi elfen o hyblygrwydd yn y maes, ac felly'n rhoi amser i chi penderfynu ar yr union bwnc.
Mae nifer o resymau pam y gallai gradd blwyddyn sylfaen fod yn iawn i chi:
- Methu cynnig y gofynion mynediad nodweddiadol i brifysgol;
- Heb fod yn sicr o'r union bwnc i'w astudio;
- Neu, efallai eich bod wedi bod allan o fyd addysg ers tro ac yr hoffech newid cyfeiriad eich gyrfa?
Yn ystod blwyddyn sylfaen eich cwrs gradd, byddwch yn archwilio nifer o bynciau, yn datblygu galluoedd hanfodol, er enghraifft ymchwil, dadansoddi beirniadol, a hunanwerthuso.
Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio cwrs blwyddyn sylfaen hawl i ddefnyddio holl adnoddau'r campws, i ymuno â'r cymdeithasau a manteisio ar y cwbl sydd gan gymuned y myfyrwyr i'w gynnig. Cewch gefnogaeth a chymorth gan Diwtor Personol, ac os oes angen gallwch droi at y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd.
Wrth ystyried cyllid a benthyciadau mae eich sefyllfa'r un fath ag israddedigion eraill, a gallwch wneud cais am le trwy UCAS yr un peth â gweddill ein cynlluniau gradd.
Gosodir rhai gofynion mynediad sefydlog, ond caiff pob ymgeisydd ei asesu'n unigol i wneud yn sicr eu bod yn iawn i'r cwrs a bod y cwrs yn iawn iddyn nhw.
*Yn amodol ar geil ei gymeradwyo
BA Addysg *
BA Astudiaethau Ffilm a Theledu*
BSc Bioleg
BSc Business a Rheolaeth
BSc Cyfrifeg a Chyllid*
BSc Cyfrifiadureg
BSc Cyllid Busnes*
BA Cymdeithaseg*
BSc Daearyddiaeth*
BA Daearyddiaeth Ddynol*
BSc Daearyddiaeth Ffisegol*
BSc Economeg Busnes
BSc Ffiseg*
BSc Gwyddoniaeth Amgylcheddol*
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
BSc Gwyddor Daear Amgylcheddol*
BSc Gwyddorau Bywyd
BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol*
BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol*
BA Hanes*
BSc Mathemateg
BSc Marchnata
BSc Rheoli Twristiaeth
BSc Rheoli Twristiaeth Antur
BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol*
BSc Seicoleg*
BSc Technoleg a Gwybodaeth Busnes
BA Y Gyfraith a Throseddeg* (hefyd yn cysylltu â LLB Law a BSc Criminology)