Paratoi at Ddiwrnod Agored

Braslun o'r diwrnod... fel rheol bydd gweithgareddau’r Diwrnod Agored yn dechrau am 9 y bore a bydd y rhan fwyaf o’r adrannau yn cau tua 4 y prynhawn.

Bydd yr union amserlen i’w gweld yn rhaglen y Diwrnod Agored.

Yn dibynnu ar ba bwnc rydych wedi’i ddewis, bydd eich amserlen yn cynnwys cyflwyniadau am eich pwnc, teithiau o gwmpas yr adnoddau ar y campws a gweithdai a gweithgareddau rhagflas.

Dyma wybodaeth ymarferol am beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod a gwybodaeth am drefniadau eich ymweliad.

Rhaglen Diwrnod Agored (Tachwedd 2019)

 

Llety
Mae digon o lety gwely a brecwast a gwestai ar gael yn y dref a’r cyffiniau. Cysylltwch â Chanolfan Croeso Aberystwyth: 01970 612125 / aberystwythTIC@ceredigion.gov.uk

Teithio
Mae’n hawdd dod o hyd i ni, waeth sut byddwch yn teithio. Mae gennym gyfleusterau Parcio am ddim os dewch yn y car; ac os penderfynwch ddod ar y trên mae gennym fysiau a fydd yn dod â chi’n syth i’r campws. Bydd gwasanaeth bws am ddim i fynd â chi i wahanol fannau o gwmpas y Brifysgol a’r dref. Mae gwybodaeth fanwl ar ein tudalen Mapiau a Theithio yn dangos sut i gyrraedd Aberystwyth. 

Cyrraedd y Campws
Wrth y Desgiau Gwybodaeth (yng Nghanolfan y Celfyddydau), byddwch yn gallu cael Rhaglenni, Mapiau, Amserlenni Bysiau, ac fe gewch siarad â staff am y Diwrnod Agored. Bydd yr adrannau yn gofyn i chi gofrestru pan fyddwch yn ymweld â nhw; cewch ymweld â’ch adran academaidd ar unrhyw adeg yn ystod y dydd.

Bwyta
Mae gennym lawer o leoedd ar y campws lle y cewch fwynhau cinio neu baned a chacen. Cewch fanylion am y bwytai ar y campws yn Rhaglen y Diwrnod Agored. Mae hefyd nifer o fwytai, caffis a barrau yn y dref sy’n cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau; dewis gwych os hoffech gael tro i weld mwy ar y dref.

Y Rhaglen
Mae Rhaglen Diwrnod Agored (Tachwedd 2019) yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd angen arnoch i gynllunio’ch ymweliad.



Byddwn yn ebostio copi electronig o raglen y Diwrnod Agored atoch cyn y digwyddiad, yn ogystal ag anfon copi drwy’r post (cyhyd â’ch bod wedi cofrestru o leiaf un wythnos gyfan cyn y dyddiad). Darllenwch rhaglen y Diwrnod Agored i chi gael syniad o’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod.

Prif Gyngor
1. Darllenwch eich Rhaglen Diwrnod Agored a meddyliwch am gwestiynau posib

2. Tynnwch luniau – i’ch atgoffa am y diwrnod

3. Ewch am dro i’r dref a’r ardal leol