Llety i Ymwelwyr
Croeso i'r Byncws, mae gan ein llety 90 o ystafelloedd gwely unigol, sy'n cynnwys naill ai gwelyau dwbl neu sengl. Rhennir cegin ac ystafell ymolchi (2 doiled a 2 gawod) ac mae 8 ystafell wely ym mhob fflat. Mae teledu yn y gegin a wifi anghyfyngedig i ffrydio ar eich dyfais. Ni chaniateir anifeiliaid anwes. Rydym yn gweithredu polisi dim ysmygu o fewn 10 metr i holl adeiladau'r Brifysgol. Mae biniau sigaréts dynodedig ar gael.
Oherwydd y cyfleusterau a rennir, ni chaniateir i blant o dan 18 oed aros yma, oni bai bod fflat cyfan yn cael ei rentu.
1 Noson (Cynnwys TAW) | Isafswm o 2 Noson (Cynnwys TAW) | |
---|---|---|
Sengl | £48.00 | £40.00 |
Dwbl | £70.00 |
£54.00 |
- Basn golchi preifat yn eich ystafell wely
- WIFI cyflym anghyfyngedig am ddim
- Cewch barcio am ddim ar y campws
- Cyfleusterau golchi dillad ar y campws
Ddim yn teimlo fel coginio?
Mae gan Brifysgol Aberystwyth sawl lleoliad sy'n cynnig bwyd a diod. O frecwast i bryd gyda'r nos, mae’r cyfan ar gael yma.
Ewch i Gwasanaethau Croeso : Prifysgol Aberystwyth neu Home - Aber Arts i weld yr amseroedd agor a chael rhagor o wybodaeth.