Boddhad Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth ymhlith y gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu perfformiad gwych arall yn Arolwg Cenedlaethol blynyddol y Myfyrwyr (ACF) 2020.
Aberystwyth yw un o’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020. Mae Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru, ac o’r holl brifysgolion sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion y Times / Sunday Times 2020, yn un o’r 5 prifysgol uchaf yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.
Gyda bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 90%, mae Aberystwyth 7 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%. Golyga canlyniad eleni fod Prifysgol Aberystwyth yn parhau ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae canlyniadau rhagorol yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Myfyrwyr eleni yn adlewyrchu gwaith eithriadol cydweithwyr ledled y Brifysgol, a’u hymroddiad i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl i’n myfyrwyr. Ar unrhyw gyfrif, bu hon yn flwyddyn eithriadol, un sydd wedi cyflwyno sawl her. Rydym yn canolbwyntio nawr ar sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn sector addysg uwch y DU ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, wrth sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.”
-
Prifysgol Aberystwyth ymhlith y gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020.
Darganfod mwy -
90% bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, 7 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020.
Darganfod mwy -
Mae Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru (am y bumed flwyddyn yn olynol).
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020.
Darganfod mwy
Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020:
Ysgol Addysg |
---|
92% boddhad cyffredinol â’r Adnoddau Addysgu ym maes Addysg; 85% yw’r cyfartaledd i’r sector (ACF 2020). |
98% o fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Cinemateg a Ffotograffiaeth; 77% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020.
Negeseuon lefel cwrs 92% boddhad cyffredinol myfyrwyr i W400 Drama ac Astudiaethau Theatr (ACF 2020). |
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Ysgol Gelf (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc 93% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Celf; 75% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020). |
91% boddhad cyffredinol i Adran y Gyfraith a Throseddeg (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs 97% boddhad cyffredinol myfyrwyr i M100 y Gyfraith (ACF 2020) |
1af yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Peirianneg Meddalwedd (ACF 2020). Negeseuon lefel cwrs |
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
|
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Ffiseg; 86% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020). |
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc 91% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Negeseuon lefel cwrs |
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru (ACF 2020)
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs 90% boddhad cyffredinol myfyrwyr ar V100 Hanes (ACF 2020). |
93% o fyfyrwyr yr Adran Ieithoedd Modern yn fodlon â’r Addysgu ar y cwrs (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
|
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs |
91% boddhad cyffredinol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth (ACF 2020).
96% boddhad cyffredinol ym maes Cyfrifeg; 87% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Negeseuon lefel cwrs |
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs |
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs |
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc
Negeseuon lefel cwrs |
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Seicoleg (ACF 2020).
Negeseuon maes pwnc 92% boddhad cyffredinol ym maes Seicoleg; 84% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Negeseuon lefel cwrs 98% o’r myfyrwyr ar gwrs C800 Seicoleg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020). |