Cefnogaeth sgiliau iaith
Cymraeg
Mae gwybodaeth am ddysgu Cymraeg neu wella eich Cymraeg ar gael isod:
- Gwybodaeth i fyfyrwyr am ddysgu Cymraeg a gloywi iaith
- Dysgu, gloywi a mentora i staff
- Dysgu Cymraeg yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr
- Tystysgrif Sgiliau Iaith
- Dysgu Cymraeg
Gwybodaeth ac adnoddau pellach:
Cysgliad - Cysill a Cysgeir
- Pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd sillafu gramadeg Cysill a chasgliad geiriaduron Cysgeir yw Cysgliad.
- I lawrlwytho Cysgliad ar eich cyfrifiadur ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=696
Cymorth Ysgrifennu Academaidd Cyfrwng Cymraeg
Ydych chi'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae cymorth academaidd un-i-un ar gael i fyfyrwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu hastudiaethau. Gall ein Tiwtor Sgiliau Academaidd Cyfrwng Cymraeg, Dr. Tamsin Davies eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd yn Gymraeg, boed hynny ar gyfer traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, traethodau hir neu draethodau ymchwil.
Mae'r cymorth yn cael ei deilwra i'ch anghenion unigol ac wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu hyder a llwyddo drwy gydol eich taith academaidd.
Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gwbl gyfrinachol, ac ar gael i bob myfyriwr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Tamsin: ted@aber.ac.uk
Saesneg
Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth:
- Prifysgol Aberystwyth: Canolfan Saesneg Rhyngwladol - International Language Centre
- Adnoddau iaith Saesneg
- Cyrsiau
- Target English
Gwybodaeth allanol
Mae'r Rhestr Geiriau Academaidd yn gasgliad o eiriau sydd wedi'u nodi'n gyffredin iawn mewn ysgrifennu academaidd. Mae wedi'i nodi o gorpws o fwy na 3,500,000 o eiriau o destun academaidd. Mae diffiniad manwl - a mynediad i'r rhestr - ar gael yn English Vocabulary Exercises. Mae'r rhestrau'n cynnwys ystod eang o ymarferion rhyngweithiol i ymarfer eich Saesneg.
Cyrsiau Ieithoedd Dysgu Gydol Oes
Mae’r Adran Dysgu Gydol Oes yn cynnig cyrsiau Ieithoedd Modern. Gallwch astudio'r rhain ar wahân i'ch gradd.
- Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim.
Edrychwch drwy eu cyrsiau ieithoedd cyfredol:
Yn ogystal â’r cyrsiau hyn gallwch gymryd rhan yn y:
Cwestiynau a Holir yn Aml: Ieithoedd Dysgu Gydol Oes
Darllenwch gwestiynau cyffredin Dysgu Gydol Oes - os nad yw'r rhain yn ateb eich cwestiwn, e-bostiwch yr Adran: dysgu@aber.ac.uk
- Cwestiynau a Holir yn Aml
- Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim.
