Apwyntiadau 1:1 a sesiynau galw heibio

1:1 Cymorth Ysgrifennu Academaidd-Cymrawd Ysgrifennu a Thiwtor Cyfrwng Cymraeg

Cymorth Ysgrifennu Academaidd

Eisiau gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd a magu mwy o hyder yn eich aseiniadau?

Cymrawd Ysgrifennu dan nawdd y Gronfa Lenyddol Frenhinol

Trefnwch sesiwn â’n Cymrawd Ysgrifennu dan nawdd y Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne Rhydderch. P'un a ydych yn ysgrifennu eich traethawd cyntaf, yn paratoi traethawd hir, neu'n gweithio ar ymchwil ôl-raddedig, gallwch drefnu sesiwn un-i-un i gael arweiniad a chymorth wedi'u teilwra i'ch anghenion. Mae Samantha yn awdur proffesiynol, cyhoeddedig a'i swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. 

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim yw hwn i'ch cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth, ar unrhyw lefel astudio (o’r flwyddyn gyntaf i ôl-raddedigion), neu staff drefnu sesiwn.

Darganfyddwch fwy am y Cymrawd Ysgrifennu

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Samantha: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk

Cymorth Ysgrifennu Academaidd Cyfrwng Cymraeg

Ydych chi'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae cymorth academaidd un-i-un ar gael i fyfyrwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu hastudiaethau. Gall ein Tiwtor Sgiliau Academaidd Cyfrwng Cymraeg, Dr. Tamsin Davies, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd yn Gymraeg, boed hynny ar gyfer traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, traethodau hir neu draethodau ymchwil.

Mae'r cymorth yn cael ei deilwra i'ch anghenion unigol ac wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu hyder a llwyddo drwy gydol eich taith academaidd.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gwbl gyfrinachol, ac ar gael i bob myfyriwr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Darganfyddwch fwy am Tamsin.

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Tamsin: ted@aber.ac.uk 

1:1 Ymgynghorydd gyrfaoedd

Sesiynau galw-heibio gyrfaoedd

Dydd Llun - Gwener, 10:00-16:00

  • Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen
  • wrth ymyl y prif risiau i gasgliadau'r llyfrgell

Ar gyfer cwestiynau manwl, archebwch apwyntiad cyfarwyddyd trwy gyrfaoeddABER. Am fanylion ar sut i archebu, cliciwch yma

Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gallwch barhau i ddefnyddio'r porth hwn am dair mlynedd ar ôl i chi raddio. Ewch i'n tudalen Graddedigion am fanylion ar sut i gofrestru i gael mynediad.

1:1 Ymgynghoriadau i fyfyrwyr rhyngwladol ar sgiliau llythrennedd academaidd

Ymgynghoriadau i fyfyrwyr rhyngwladol ar sgiliau llythrennedd academaidd

Mae'r Ganolfan Saesneg Ryngwladol (International English Centre/IEC) yn cynnig sesiynau ymgynghori un-i-un i fyfyrwyr rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar sgiliau iaith Saesneg yn y cyd-destun academaidd.

Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy'n agored i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gall myfyrwyr gwrdd â thiwtor iaith Saesneg IEC i gael cyngor ac arweiniad ar eu defnydd o Saesneg ar gyfer tasgau academaidd fel aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.

Mae'r sesiynau hyd at 50 munud o hyd ac mae gan fyfyrwyr hawl i uchafswm o 3 sesiwn y semester.

Bydd y sesiynau’n fwyaf defnyddiol ar gyfer:

a)    Myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf;

b)    Myfyrwyr sy'n gymharol ddibrofiad wrth astudio trwy gyfrwng y Saesneg

Sut i archebu ymgynghoriad:

I drefnu ymgynghoriad, e-bostiwch tesol@aber.ac.uk  gyda phennawd pwnc: “ymgynghoriad un-i-un”. Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Sylwch:  nid yw’r ymgynghoriadau yn sesiynau galw heibio a chânt eu darparu drwy apwyntiad yn unig.

1:1 Tiwtor mathemateg ac ystadegau

Datblygwch eich sgiliau mewn mathemateg, ystadegau neu rifedd gyda chefnogaeth un-i-un

Mae tiwtoriaid profiadol ar gael i helpu myfyrwyr gyda chwestiynau am fathemateg neu ystadegau fel rhan o'u cwrs.

E-bostiwch maths-help@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfarfod.

Sesiynau galw heibio: 

  • Dydd Iau yn ystod tymor
  • 10:00-13:00 
  • Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen 

1:1 Arbenigwr Iechyd Meddwl

I drefnu apwyntiad gydag un o'n timau ewch i https://support.aber.ac.uk

1:1 Llyfrgellydd Pwnc

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a chynnig cymorth cynhwysfawr i fyfyrwyr a staff.

Llyfrgellydd Pwnc Academaidd Adran Academaidd Bwcio apwyntiad 1:1 Galw-heibio

Anita Saycell

 

aiv@aber.ac.uk 

01970 62 1867

 

Trefnwch amser gydag Anita Saycell [aiv] (Staff)   

Dydd Mawrth:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen 

(tymor yn unig)

 

Dydd Iau:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau, Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

(tymor yn unig)

Joy Cadwallader

 

llyfrgellwyr@aber.ac.uk

01970 62 1986

 

Trefnwch amser gyda Joy Cadwallader [jrc] (Staff)  

Dydd Mawrth:

13:00-15:00, Desg Ymholiadau Llawr F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

Non Jones

 

nrb@aber.ac.uk

01970 62 2397

 

Trefnwch amser gyda Non Jones [nrb] (Staff)

Dydd Llun:

13:00-15:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)

 

Sarah Gwenlan

 

ssg@aber.ac.uk 

01970 62 1870

 

Trefnwch amser gyda Sarah Gwenlan [ssg] (Staff)

Dydd Mawrth:

13.30-15.30, Desg Ymholiadau, Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol (tymor yn unig)

 

Dydd Mercher:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)

 

Dydd Iau:

13:30-15:00, Ystafell 0.01, P5

(tymor yn unig)

Simon French

 

sif4@aber.ac.uk 

01970 62 2080

 

Trefnwch amser gyda Simon French [sif4] (Staff)

 

 

 

Dydd Iau:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)

Simone Anthony

 

sia1@aber.ac.uk 

01970 62 2402

Trefnwch amser gyda Simone Anthony [sia1] (Staff)

Dydd Llun:

09:00-09:50, Ystafell 1.31, Adeilad Gwendolen Rees

(tymor yn unig)

 

Dydd Llun:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)

 

Sesiynau galw-heibio

Dim angen bwcio o flaen llaw, galwch draw!

Cymryd lle Manylion 
Desg Gymorth Mathemateg ac Ystadegau
Yn ystod tymor

Dydd Iau, 10:00-13:00:

Hwb SgiliauAber (Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen)*

Llyfrgellwyr Pwnc
Yn ystod tymor

Gwiriwch y golofn Galw-heibio ar y dudalen Llyfrgellwyr Pwnc

Gwasanaeth Gyrfaoedd  
Yn ystod tymor

Dydd Llun - Gwener, 10:00-16:00:

  • Ar gyfer cwestiynau manwl, archebwch apwyntiad cyfarwyddyd trwy gyrfaoeddABER. Am fanylion ar sut i archebu, cliciwch yma.

Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen (Wrth ymyl y prif risiau i gasgliadau'r llyfrgell)

Cymorth Academaidd a Sgiliau Gwyddorau Bywyd
Yn ystod tymor

Dydd Llun, 13:00-14:00:

Hwb SgiliauAber (Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen)*

Dydd Mawrth, 13:00-14:00:

Cyntedd CaffiBach, Adeilad Gwendolen Rees

*Mae'r Hwb SgiliauAber wedi'i leoli ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Gallwch weld union leoliad yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren felyn) ar y ddelwedd isod.