Arholiadau
Mae’r dudalen hon yn cynnwys nifer o adnoddau a dolenni ar gyfer datblygu sgiliau adolygu ac arholiad.
Adolygu a chynllunio
Gall arholiadau ymddangos yn frawychus a gwneir pethau’n waeth wrth i bobl sôn am eu profiadau pan maen nhw’n meddwl iddynt wneud yn wael mewn arholiad. Nid diffyg gallu’r myfyriwr sydd yn achosi profiadau negyddol mewn arholiadau, ond diffyg adolygu digonol a strategaethau cynllunio ar gyfer beth i’w ddisgwyl a sut i ateb cwestiynau gyda phum neu ddeg munud yn unig ar gyfer cynllunio heb gymorth nodiadau.
Y man cychwyn hanfodol:
- Hen bapurau: https://www.aber.ac.uk/cy/past-papers/
- Adolygu cwestiynau arholiad Grid cynllunio yw hwn i’w lenwi wrth edrych drwy’r hen bapurau. Mae’n rhoi syniad o’r mathau o gwestiynau a sut maen nhw’n berthnasol i ganlyniadau dysgu a chynnwys modiwlau. Dylech nodi, er hynny, fod cwestiynau yn newid bob blwyddyn ac na ddylech gymryd yn ganiataol y bydd yr un themâu yn cael eu hailadrodd oherwydd bod cwestiynau tebyg wedi ymddangos mewn blynyddoedd blaenorol. Yr hyn sy’n bwysig i’w wybod, fodd bynnag, yw bod pob cwestiwn arholiad yn cael ei adlewyrchu drwy ganlyniadau dysgu ac amcanion pob modiwl.
- Er mwyn adnabod canlyniadau dysgu ac amcanion pob modiwl yr ydych yn ei astudio, trowch at eich llawlyfr modiwlau, a ddylai fod ar gael yn Blackboard, neu eu hadolygu drwy dudalennau gwe Cynlluniau Astudio. http://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/
Agwedd hanfodol ar strategaeth lwyddiannus mewn arholiad yw gallu creu cynllun traethawd cyflym iawn yn ystod munudau cyntaf yr arholiad. Bydd gennych lyfryn ateb a fydd yn caniatáu lle ar gyfer cynllunio o’r dechrau. Mae arfer da mewn arholiadau yn awgrymu y dylech dynnu llinell drwy’r cynllun cyn diwedd yr arholiad er mwyn dangos nad yw’n perthyn i’ch ateb.
Ysgrifennu mewn arholiadau
Nid yw ysgrifennu mewn arholiadau yr un peth ag ysgrifennu traethodau ar gyfer aseiniadau cwrs. Ar gyfer aseiniadau, rhaid ystyried holl fanylion ysgrifennu llyfryddiaeth a materion cyfeirio cysylltiedig. Mewn arholiad ni fyddwch yn gallu gwneud hyn oni bai mai arholiad llyfr agored neu arholiad a welwyd ymlaen llaw ydyw, lle cewch weld y cwestiynau cyn yr arholiad. Gyda’r rhain, efallai bydd angen cynnwys deunydd ychwanegol, ond bydd hynny’n dibynnu’n fawr ar reolau’r arholiad ei hun.
- Rhaid i chi ystyried arddull wedi’i haddasu ar gyfer ysgrifennu traethodau mewn arholiadau
- Ni chewch amser i ystyried holl fanylion traethawd wedi’i eirbrosesu
- Rhaid i chi ysgrifennu’n glir, yn uniongyrchol a chreu argraff
- Dechreuwch gynllunio gyda’r prif gorff
- Ewch yn ôl i gynllunio datganiad rhagarweiniol cryno
- Peidiwch â chynllunio’r casgliad, ond cofiwch:
- cwblhewch eich paragraff olaf pan fydd gennych ddeg munud ar ôl
- ysgrifennwch ddatganiad cloi pan fydd gennych bum munud ar ôl
Pethau eraill i’w nodi:
- Ysgrifennwch yn glir ac yn ddarllenadwy.
- Ysgrifennwch ar bob yn ail linell o’r llyfryn ateb er mwyn osgoi gorlwytho’r tudalen â geiriau sy’n gorgyffwrdd.
- Ysgrifennwch o fewn i derfynau’r hyn rydych yn ei wybod.
- Lluniwch gynllun ysgerbwd cryno ar gyfer y cwestiwn ar y cychwyn. Ni ddylech dreulio mwy na thair i bum munud yn gwneud hyn. Bydd yn eich galluogi i weithio yn ôl cynllun a chanolbwyntio ar y cwestiwn.
- O ran y prif bwyntiau damcaniaethol yr ydych wedi’u nodi drwy gynnwys y modiwl a’r canlyniadau dysgu, meddyliwch am ambell bwynt neu sefyllfa y gellid eu defnyddio fel enghreifftiau ymarferol.
Bydd ateb da mewn arholiad yn dangos dealltwriaeth gyffredinol o’r pynciau a sut maen nhw’n gweithio yn ymarferol
Pethau i’w cynnwys mewn cynllun ateb arholiad: defnyddiwch nodiadau yn unig ac nid brawddegau llawn:
Cyflwyniad
Prif ddehongliad o’r cwestiwn
Canolbwynt penodol
Prif gorff
1) *pwnc (gwnewch yn siŵr ei fod yn perthyn yn glir i’r cwestiwn)
3) *brawddegau byr, clir i ddiffinio a thrafod y pwyntiau allweddol
4) *enghreifftiau, os oes angen
* Dylid ailadrodd y broses hon ar gyfer pob paragraff
Peidiwch â chynllunio casgliad, ond pan fydd gennych bum munud yn unig ar ôl, gorffennwch y paragraff rydych yn ei ysgrifennu ac ysgrifennwch ddatganiad crynhoi byr i gloi. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych draethawd cyflawn.
Her ugain munud a chyfrif yn ôl
- Ewch yn ôl at y ddogfen adolygu cwestiynau arholiad (Adolygu cwestiynau arholiad).
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi adnabod ystod o gwestiynau, yn cynnwys rhai yr ydych yn gyfarwydd ac yn gyfforddus â nhw – a rhai nad ydych yn gyfarwydd nac yn gyfforddus â nhw.
- Dechreuwch â chwestiwn cyfarwydd a lluniwch gynllun ar ffurf nodiadau o fewn rhyw 20 munud.
- Symudwch ymlaen i gwestiynau gwahanol a llunio cynlluniau mewn 15, 10 a 5 munud yn olynol.
- Parhewch i ymarfer tan eich bod yn gyfforddus wrth greu cynlluniau traethawd ar ystod o brif gwestiynau ar gyfer modiwl penodol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar gyfer cwestiynau mwy anodd yn ogystal, er mwyn eich paratoi ar gyfer pob posibilrwydd.
- Gwiriwch gynnwys y modiwl ar gyfer y flwyddyn gyfredol, o ran amcanion, canlyniadau dysgu a’r cynnwys ei hun.
Adnoddau ar gyfer arholiadau ac adolygu
Canllaw’r Brifysgol Agored ar gyfer Adolygu ac Arholiadau, yn trafod adolygu, technegau adolygu, arholiadau a rheoli straen.
Canllaw cyffredinol da iawn ynghylch sut i fod yn fwy llwyddiannus mewn arholiadau gan Brifysgol Efrog.
Erthygl dda sy’n egluro sut i baratoi amserlen yn effeithiol.
Cyngor ar dechnegau’r cof gan Mind Tools.
Cyngor gan adrannau
Ffiseg a Mathemateg: llyfryn arholiad fformiwlâu a chysonion