Defnyddio technoleg yn Aber

Deallusrwydd Artiffisial

Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y Llyfrgell: canllaw myfyrwyr

Bydd y Canllaw Llyfrgell hwn yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Byddwn yn edrych ar sut y gall myfyrwyr ei ddefnyddio'n effeithiol er mwyn sicrhau’r profiad gorau wrth ddefnyddio’r llyfrgell. Bydd y canllaw hefyd yn mynd i'r afael â'r cyfyngiadau yn ogystal â'r ystyriaethau moesegol cysylltiedig â'i ddefnyddio.

Aspire - rhestrau darllen

Mae rhestr ddarllen modiwlau fel arfer yn rhestr o lyfrau ac adnoddau gwybodaeth eraill a luniwyd gan gydlynydd y modiwl i gefnogi eich astudiaeth o fodiwl. Gallwch ddod o hyd i'ch rhestr ddarllen ar Aspire.

Blackboard - amgylchedd dysgu ar-lein

Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth.

Cysgliad - meddalwedd gramadeg a sillafu Cymraeg

Pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd sillafu gramadeg Cysill a chasgliad geiriaduron Cysgeir yw Cysgliad.

I lawrlwytho Cysgliad ar eich cyfrifiadur ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=696

Meddalwedd dadansoddi data ac ystadegau

Gallwch gael mynediad i sawl rhaglen dadansoddi data ac ystategau. Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho'r meddalwedd i'w cyfrifiaduron personol drwy fynd i'r safle Meddalwedd sydd ar gael oddi wrth PA (Mewngofnodi gofynnol)

Ar gyfer myfyrwyr a staff sydd eisiau gosod R ar gyfrifiaduron personol, mae angen i chi lawrlwytho a gosod R yn gyntaf ac yna lawrlwytho a gosod RStudio sydd ill dau ar gael am ddim:

  1. https://cran.r-project.org/
  2. https://posit.co/downloads/

Esiamplau o gyrsiau LinkedIn Learning (Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA):

LinkedIn Learning

Mae gan bob myfyriwr fynediad am ddim i LinkedIn Learning, platfform dysgu ar-lein sy'n cynnwys dros 16,000 o gyrsiau ar-lein dan arweiniad arbenigwyr (sut mae cychwyn arni?). Gall y cyrsiau hyn eich cefnogi i ddatblygu ystod o sgiliau, o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, i ddysgu meddalwedd newydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau digidol, rydym yn awgrymu eich bod yn dechrau trwy edrych ar y Casgliadau Sgiliau Digidol yn LinkedIn Learning - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA. 

Mae Pencampwyr Digidol Myfyrwyr hefyd wedi creu nifer o gasgliadau LinkedIn Learning i helpu myfyrwyr i ddechrau (cyrsiau Saesneg yn unig) - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA:

Microsoft Excel

Mae Excel yn gymhwysiad taenlen sy'n eich galluogi i greu a dadansoddi tablau data. Mae'n cynnwys y modd i wneud cyfrifiadau cymhleth a chreu graffiau trawiadol i ddelweddu'ch data.

Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:

Microsoft Powerpoint

Mae PowerPoint yn gymhwysiad sy'n caniatáu ichi greu sioeau sleidiau i gefnogi'ch cyflwyniadau. Mae'n caniatáu ichi gyfuno testun, delweddau, animeiddiadau a chyfryngau eraill.

Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:

Microsoft Teams

System ar gyfer gweithio'n gydweithredol mewn timau yw Microsoft Teams, sy'n rhan o gyfres rhaglenni Office 365. Mae'n ddefnyddiol iawn er mwyn cyfathrebu, cydweithio, cynllunio a datblygu prosiectau gyda chydweithwyr dros y brifysgol.

Microsoft Word

Mae Word yn gymhwysiad prosesu geiriau y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ysgrifennu traethodau, adroddiadau, ac ystod o fathau eraill o ddogfennau.

Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:

Office 365 - e-bost, calendr ac OneDrive

Panopto - cipio darlithoedd

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd cipio darlithoedd o'r enw Panopto i recordio darlithoedd.  Gall myfyrwyr weld y recordiadau hyn drwy Blackboard.

Primo - catalog y Llyfrgell

Primo (primo.aber.ac.uk) yw catalog y llyfrgell ac offeryn darganfod Prifysgol Aberystwyth sy'n rhoi mynediad i chi at adnoddau printiedig, e-lyfrau, cylchgronau a chylchgronau electronig, cronfeydd data ar-lein, papurau newydd a llawer mwy mewn un lle.

Gallwch chwilio am bopeth sydd gan y llyfrgell i'w gynnig o un blwch chwilio.

Meddalwedd cyfeirnodi

Weithiau gelwir meddalwedd ar gyfer cyfeirnodi yn feddalwedd rheoli llyfryddol neu yn feddalwedd rheoli cyfeiriadau. Mae'n eich galluogi i gadw cronfa ddata o'r ffynonellau a ddefnyddiwch (llyfrau, erthyglau cyfnodolion, gwefannau ac ati) wrth ymchwilio i'ch aseiniadau.

Endnote

Mendeley

    • Mae dogfennau cymorth i'w cael ar-lein. Mae Mendeley yn caniatáu ichi fewnforio cyfeiriadau i'ch aseiniadau trwy ddefnyddio ychwanegyn cyfeirnodi ar gyfer Word.

TurnItin - e-gyflwyno

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Turnitin a Blackboard Assignment ar gyfer cyflwyno'n Electronig. Yn unol â pholisi E-gyflwyno’r Brifysgol, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno pob gwaith testunol a gwaith ar brosesydd geiriau'n electronig. 

Vevox - offer pleidleisio

Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.

Datblygu eich sgiliau digidol

Mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau niferus i'w cefnogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau digidol.

  • Archwiliwch adnoddau o Ŵyl Sgiliau Digidol 2023, gan gynnwys sesiynau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er da, datblygu proffil LinkedIn, a gweithdai Excel.
  • Mae'r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau i helpu myfyrwyr i wneud y gorau o dechnoleg; o feistroli meddalwedd cyfarwydd fel Excel, i ddefnyddio offer digidol ar gyfer lles personol.
  • Mae gan bob myfyriwr hefyd fynediad am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein gyda dros 16,000 o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr, gan eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA.
  • Bydd y Casgliadau Sgiliau Digidol LinkedIn Learning yn werthfawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb arbennig mewn datblygu eu sgiliau digidol - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA.

Mwy o wybodaeth am sgiliau digidol