Canllawiau ac Adnoddau Ieithyddol

Rhestrir isod adnoddau defnyddiol i'ch cefnogi i weithredu'n ddwyieithog.

TermCymru

Cronfa ddata terminoleg yw TermCymru a grëwyd ac a gynhelir gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.

Cysgliad

Pecyn cyfrifiadurol ar gyfer eich PC yw Cysgliad ac mae’n eich helpu i gywiro camgymeriadau ieithyddol yn Gymraeg ac yn cynnwys geiriadur. I lawr lwytho Cysgliad ar eich cyfrifiadur ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=696

To Bach

Mae To Bach yn rhaglen sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’r Ganolfan feddalwedd er mwyn hwyluso defnyddio tô bach. Drwy wasgu Alt Gr a llythyren, mae’n gosod to bach ar y llafariad e.e. â ê î ô û ŵ ŷ

Gwasgwch

Symbol

Alt Gr + a

â

Alt Gr + e

ê

Alt Gr + o

ô

Alt Gr + i

î

Alt Gr + y

ŷ

Alt Gr + w

ŵ

Alt Gr + û

û

Y Porth

Llwyfan e-ddysgu ar gyfer y Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yw Y Porth  sy’n cynnwys adnoddau dysgu ac addysgu a gwybodaeth am fodiwlau cydweithredol a ddysgir drwy’r Gymraeg.

Gwerddon

Cyfnodolyn academaidd ar-lein sy’n cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau yw Gwerddon.

Sgiliau astudio ar gyfer myfyrwyr

Isod ceir cyfres o daflenni cymorth yn seiliedig ar weithdai a gyflwynwyd gan yr awdur Elin ap Hywel.