Yn unol â'r Siarter a'r Ystatudau, mae Prifysgol Aberystwyth yn penodi nifer o Swyddogion Anrhydeddus.
Swyddogion Anrhydeddus presennol y Brifysgol yw:
| Manylion |
Llun |
|
Canghellor Y Gwir Anrhydeddus Arglwyddess Ustus Nicola Davies DBE (hyd at 31 Rhagfyr 2029)
- Ganed y Fonesig Nicola Davies yn Llanelli. Symudodd ei theulu i Ben-y-bont ar Ogwr lle mynychodd Ysgol Oldcastle a “Bridgend Girls Grammar”.
- Darllenodd y gyfraith ym Mhrifysgol Birmingham. Galwyd y Fonesig Nicola i’r Bar yn Gray’s Inn ym 1976. Ei siambrau oedd Serjeants’ Inn Chambers yn Llundain, a’i maes arbenigol hi oedd y gyfraith feddygol. Ym 1992 penodwyd y Fonesig Nicola yn Gwnsler y Frenhines, yn 2010 yn Ynad yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines.
- Rhwng 2014 a 2017 roedd y Fonesig Nicola yn Farnwr Llywyddol y Gylchdaith yng Nghymru. Yn 2018 penodwyd y Fonesig Nicola i’r Llys Apêl. Hi yw'r fenyw gyntaf o Gymru i ddal pob un o'r penodiadau uchod. Roedd y Fonesig Nicola yn un o bedwar cyd-gynullydd y “Inns of Court Alliance for Women” a sefydlwyd yn 2022.
- Y Fonesig Nicola oedd Trysorydd Gray’s Inn am 2023. Hi yw’r fenyw gyntaf o Gymru i fod yn Drysorydd Tafarn y Llys yn Lloegr a Chymru.
|
.jpg) |
|
Dirprwy Ganghellor Aled Rhys Jones (hyd at 1 Ionawr 2029)
-
Mae Aled yn enw adnabyddus yn y byd amaeth yng Nghymru a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr y Sioe Fawr yn 2022 wedi pedair mlynedd fel ei dirprwy.
-
Yn hanu o Gwrt-y-Cadno yn Sir Gaerfyrddin, graddiodd o Brifysgol Reading mewn Rheolaeth Tir ac aeth ymlaen i fod yn Syrfëwr Siartredig cymwysedig a Phrisiwr Amaethyddol. Yn ysgolhaig Ffermio Nuffield, bu’n gwasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol yn ogystal.
|
 |
|
Dirprwy Ganghellor Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd LLB (hyd at 31 Mawrth 2028)
- Wedi ei eni ym Metws y Coed yn 1951, magwyd Elfyn Llwyd AS yn Llanrwst ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. Cyn ei ethol yn Aelod Seneddol, gweithiodd fel cyfreithiwr a dod yn fargyfreithiwr yn 1997.
- Mae Elfyn Llwyd yn Aelod Seneddol ers 1992, yn cynrychioli Meirionnydd Nant Conwy yn Nhŷ’r Cyffredin o 1992 tan 2010 a Dwyfor Meirionnydd ers 2010. Elfyn Llwyd yw arweinydd grŵp seneddol Plaid Cymru yn San Steffan. Ei ddiddordebau gwleidyddol pennaf yw materion cartref, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth. Fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 9 Chwefror 2011.
- Mae’n rhugl ei Gymraeg a’i Saesneg, ac yn briod â’r gantores werin Gymraeg Eleri Llwyd. Mae ganddynt ddau o blant. Ymhlith ei ddiddordebau mae bridio colomennod, darllen, teithio a rygbi.
- Aelod o’r Cyngor rhwng 2015 a 2021.
|
 |