Y Cyngor

Y Cyngor yw “corff llywodraethol goruchaf y Brifysgol” ac mae’n “gyfrifol am benderfynu ar gyfeiriad strategol y Brifysgol ac am y modd y gweithredir materion ariannol a gweinyddol, a materion eraill y Brifysgol, yn unol â’i hamcanion”. Y Cyngor sy’n gwarchod sêl gyffredin y Brifysgol ac yn rheoleiddio ei defnydd.

Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Cyngor.

Aelodaeth

Aelodaeth y Cyngor

Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 – 2025 bydd aelodaeth Cyngor Prifysgol Aberystwyth fel a ganlyn:

Aelodau ex officio

Manylion Llun

Cadeirydd y Cyngor
Meri Huws (hyd at 30 Ebrill 2026)

  • Tan Ebrill 2019, Meri oedd Comisynydd y Gymraeg, rôl a oedd ganddi o fis Ebrill 2012. Bu'n Gadeirydd Bwrdd yr iaith Gymraeg o 2004 hyd nes i'r Bwrdd gael ei ddiddymu ym mis Mawrth 2012.
  • Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac yn flaenorol roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Bangor.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant
Taliadau
Enwebiadau (Cadeirydd)
Adnoddau a Pherfformiad
Buddsoddiadau


 

Dirprwy Cadeirydd y Cyngor

Rhuanedd Richards (hyd at 31 Gorffennaf 2028)

  • Yn wreiddiol o Gwm Cynon, astudiodd Rhuanedd Richards ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd ysgoloriaeth y BBC iddi i astudio yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Ar ôl gorffen ei gradd yng Nghaerdydd, dechreuodd ei gyrfa gyda BBC Cymru fel newyddiadurwr cyn cyflwyno rhai o'i raglenni newyddion a gwleidyddol blaenllaw.
  • Gadawodd y BBC yn 2007 a gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac o'i gwmpas fel cynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru, prif weithredwr Plaid Cymru ac yn ddiweddarach fel cynghorydd polisi ar gyfer Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
  • Dechreuodd Ms Richards ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru yn 2021 a chyn hynny roedd yn olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Archwilio, Risg a Sicrwydd
Pwyllgor Diswyddo (Cadeirydd)
Pwyllgor Taliadau (Cadeirydd)

Is-Ganghellor
Yr Athro Jon Timmis

  •  

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant
Adnoddau a Pherfformiad
Buddsoddiadau
Enwebiadau

Dirprwy Is-Ganghellor

Yr Athro Angela Hatton

 

Aelodau Annibynnol

Manylion Llun

Paul Bevan (hyd at 31 Gorffennaf 2028)

Aelod o'r Pwyllgor/au Canlynol:
Buddsoddiadau (Cadeirydd)
Adnoddau a Pherfformiad

Kate Eden (hyd at 31 Gorffennaf 2024)

  • Mae Kate Eden yn gyfarwyddwr anweithredol sydd â dros bymtheng mlynedd o brofiad fel rheolwr gweithredol yn y DU ac yn rhyngwladol.
  • Cafodd Ms Eden ei geni a'i magu yng Ngogledd Cymru. Astudiodd y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg King’s, Caergrawnt.
  • Daeth yn arbenigwraig mewn materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol yn y sector fferyllol. Mae Ms Eden hefyd wedi gweithio ar bolisi ynni a gwyddoniaeth.

Aelod o'r Pwyllgor/au Canlynol:
Adnoddau a Pherfformiad (Cadeirydd)
Buddsoddiadau
Enwebiadau

 

Yr Athro Simon Green (hyd at 31 Gorffennaf 2025)

  • Mae Simon yn Athro Gwleidyddiaeth ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter) ym Mhrifysgol Salford.
  • Cyn hynny, bu'n gwasanaethu fel Deon Gweithredol Ieithoedd a Gwyddorau Cymdeithasol (2013-18) ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) (2018-23) ym Mhrifysgol Aston, Birmingham.
  • Mae ei ddiddordebau academaidd mewn Gwleidyddiaeth Almaeneg ac Ewropeaidd.  Addysgwyd ef ym mhrifysgolion Manceinion, Heidelberg a Birmingham.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Adnoddau a Pherffromiad
Pwyllgor Diswyddo

Yusuf Ibrahim (hyd at 31 Gorffennaf 2028)

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant
Enwebiadau

Daniel Richards (hyd at 31 Gorffennaf 2028)

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Archwilio, Risg a Sicrwydd
Buddsoddiadau

 

Arwel Thomas (hyd at 31 Gorffennaf 2026)

  • Mae Arwel Thomas yn gyfrifydd cymwysedig ac ymddeolodd yn 2013.
  • Treuliodd Arwel ei yrfa gynnar yn gweithio i Glo Prydain. Gadawodd ychydig cyn iddo gael ei breifateiddio ym 1994. Yna ymunodd â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru fel archwilydd ac wedi hynny fel Uwch Reolwr Archwilio.
  • Yn 2008, ymunodd Arwel â Llywodraeth Cymru fel Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Risg. Yn dilyn ei ymddeoliad gymerodd Arwel nifer o rolau anweithredol: Gyfarwyddwr Anweithredol yn Estyn ac yn aelod Annibynnol o Bwyllgorau Archwilio, Risg a Sicrwydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Archwilio, Risg a Sicrwydd
Adnoddau a Pherfformiad

Mark Tweed (hyd at 31 Rhagfyr 2026)

  • Ar hyn o bryd Mark yw Prif Swyddog Ariannol, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyfreithiol ‘Propel Finance’. Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Nrif Swyddog Ariannol a Phennaeth Cyfreithiol dros dro i Opel Vauxhall Finance (OVF).
  • Graddiodd mewn cemeg ddiwydiannol o Brifysgol Caerdydd, ac mae Mark hefyd yn aelod annibynnol o Fwrdd Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
  • Cyn dod yn aelod o Gyngor y Brifysgol, gwasanaethodd fel aelod annibynnol ar y pwyllgorau Adnoddau a Pherfformiad, a Buddsoddiadau.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Archwilio, Risg a Sicrwydd (Cadeirydd)

 

Jane Usherwood (hyd at 31 Mawrth 2028)

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant
Pwyllgor Diswyddo

Claire Vaughan (hyd at 31 Gorffennaf 2026)

  • Ar hyn o bryd mae Claire yn Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant gyda'r elusen cymorth cyntaf cenedlaethol adnabyddus, Ambiwlans Sant Ioan, ymunodd ym mis Ebrill 2022 yn dilyn saith mlynedd fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn arwain a chyflawni newid cynaliadwy mewn diwyliant a gwasanaethau yn y sectorau gwirfoddol, iechyd, addysg a sectorau eraill ac mewn rolau cenedlaethol, ac mae wedi arwain llawer o'i thimau i lwyddiant arobryn.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant (Cadeirydd)
Taliadau

Aelodau o'r Myfyrwyr

Manylion Llun

Bayanda Vundamina, Llywydd yr Undeb (hyd at 30 Mehefin 2025)

  • Bayanda yw Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yn gweithredu fel llais i fyfyrwyr ac yn gweithio ar bolisiau sydd o bwys i'r corff myfyrwyr a'r gymuned.
  • Cyn hyn, astudiodd Bayanda eu gradd Israddedig mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Taliadau
Adnoddau a Pherfformiad
Enwebiadau


 

Elain Gwynedd, Llywydd UMCA (hyd at 30 Mehefin 2025)

  • Elain yw llais myfyrwyr diwylliant Cymraeg a'r Gymraeg yn Aberystwyth.  Mae ei rôl yn canolbwyntio ar hybu diwylliant Cymreig gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.
  • Cyn hynny, astudiodd Elain eu gradd Israddedig yn Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:
Llywodraethu a Diwylliant


 

Aelodau o'r Senedd

Manylion Llun

Lle Gwag


 

Lle Gwag

Aelod/au o Staff

Manylion Llun

Lle Gwag


 

 

Aelodau Is-Bwyllgorau

Details Photo

Mathew Norman (hyd at 30 Mehefin 2025)

Aelod o'r Pwyllgor/au canlynol:

Archwilio, Risg a Sicrwydd


 

Charu Maini (hyd at 30 Mehefin 2025)

Aelod o'r Pwyllgor canlynol:

Taliadau


 

Nicola Wood, MBE (hyd at 30 June 2025)

Aelod o'r Pwyllgor canlynol:

Llywodraethiant a Diwylliant

 

Aelodaeth Cyfarfodydd 2024-25

Agenda a Chofnodion y Cyngor

Cyhoeddir cofnodion pob cyfarfod o’r Cyngor yma unwaith ag y byddant wedi cael eu cymeradwyo, fel arfer yn y cyfarfod nesaf o’r Cyngor.

Cyfarfodydd 2023/2024

08 Gorffennaf 2024 Agenda Cofnodion
16 Mai 2024 Agenda Cofnodion
26 Ebrill 2024 (Cyfarfod arbennig) Agenda Cofnodion
12 Mawrth 2024 Agenda Cofnodion
19 Ionawr 2024 (Cyfarfod arbennig) Agenda Cofnodion
27 Tachwedd 2023 Agenda Cofnodion
06 Hydref 2023 Agenda Cofnodion

Cyfarfodydd 2022/2023

7 Gorffennaf 2023 Agenda Cofnodion
11 Mai 2023 Agenda Cofnodion
10 Chwefror 2023 Agenda Cofnodion
28 Tachwedd 2022 Agenda Cofnodion
23 Medi 2022 Agenda Cofnodion

Cyfarfodydd 2021/2022

08 Gorffennaf 2022 Agenda Cofnodion
12 Mai 2022 Agenda Cofnodion
04 Chwefror 2022 Agenda Cofnodion
26 Tachwedd 2021 Agenda Cofnodion
21 Medi 2021 Agenda Cofnodion

Cyfarfodydd 2020/2021

9 Gorffennaf 2021 Agenda Cofnodion
14 Mai 2021 Agenda Cofnodion
19 Mawrth 2021 Agenda Cofnodion
12 Ionawr 2021 (cyfarfod arbennig) Agenda Cofnodion
26 Tachwedd 2020 Agenda Cofnodion
22 Medi 2020 Agenda Cofnodion

 

Dolenni Perthnasol

I gynorthwyo aelodau gyda’u gwaith ar Gyngor Prifysgol Aberystwyth, mae Ysgrifennydd y Brifysgol wedi cynhyrchu llawlyfr sy’n crynhoi gwybodaeth bwysig o nifer o ffynonellau. Caiff y ddogfen hon ei diweddaru yn ôl yr angen, gyda’r fersiwn diweddaraf ar gael ar y wefan hon.

Llawlyfr ar gyfer Aelodau'r Cyngor


Rheolau Seflylog

Rheolau Sefydlog - Cyngor

Cofrestr Buddiannau

Mae Ysgrifennydd y Brifysgol, fel Clerc y Cyngor, yn cadw cofrestr o fuddiannau sy’n cael eu datgan gan aelodau’r Cyngor a’i bwyllgorau. Mae’r gofrestr yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir gan bob aelod ac fe gyhoeddir crynodeb. Er bod y gofrestr yn cael ei diweddaru’n flynyddol, anogir aelodau’r Cyngor i hysbysu’r Clerc ar y cyfle cynharaf posibl os bydd newid sylweddol yn eu buddiannau yn ystod y flwyddyn.

Cofrestr Buddiannau - Crynodeb

 

Swyddi Gweigion

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau bod amrywiaeth eang o sgiliau, arbenigedd a safbwyntiau yn cael eu cynrychioli gan yr aelodaeth lleyg y Cyngor a'i bwyllgorau.

Fel isafswm, bydd unrhyw swyddi gwag ar gyfer Aelodau Annibynnol ar y Cyngor neu ei is-bwyllgorau yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon. Mae unrhyw unigolion a chymwys addas yn cael eu hannog i anfon datganiadau o ddiddordeb i .

Swyddi Gweigion Presennol

Nid ydym yn chwilio am unigolion i wasanaethau ar y Cyngor neu un o’r is-bwyllgorau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae croeso i unigolion gysylltu ag i drefnu cael hysbysiad unigol pan fydd swyddi gweigion i’w llenwi.