Llys y Brifysgol

Swyddogaeth y Llys

Diffinnir swyddogaeth y Llys fel a ganlyn yng nghymal XIV y Siarter:

Bydd Llys i’r Brifysgol. Rôl y Llys fydd darparu fforwm cyhoeddus ar gyfer cyfathrebu ac ar gyfer trafod gweithgareddau’r Brifysgol. Bydd aelodaeth a swyddogaethau’r Llys fel y’u darperir drwy Ordinhad.

Bydd Cyfarfod Blynyddol y Llys yn cynnwys:

  1. Croeso gan y Canghellor;
  2. Adroddiad ar waith y Brifysgol gan Gadeirydd y Cyngor; ac
  3. Anerchiad gan yr Is-Ganghellor.
  4. Bydd rhaglen cyfarfod y Llys yn cael ei dosbarthu yn Gymraeg a Saesneg.

Mae Ordinhad 19 - Y Llys yn amlinellu cyfansoddiad y Llys.

Aelodaeth y Llys