Adnoddau Dysgu
![Myfyrwyr yn eistedd wrth fwrdd yn Llyfrgell Hugh Owen](/cy/about-us/teaching-learning/learning-facilities/59277.jpg)
Yn rhan o’n buddsoddiad ym mhrofiad ein myfyrwyr, rydym wedi ailwampio pob un o’n prif fannau dysgu.
Mae yma nawr dechnoleg cofnodi darlithoedd sy’n recordio eich dosbarthiadau er mwyn i chi gael eu gwylio eto wrth adolygu. Ar gyfer eich astudiaethau personol, rydym yn argymell prif lawr Llyfrgell Hugh Owen, a ailagorwyd ym mis Ionawr 2018 ar ôl gwaith ailwampio gwerth £1m. Mae’n drysorfa o adnoddau print ac electronig (ac mae yno olygfeydd godidog dros y dref). Mae’r campws hefyd dafliad carreg o’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cadw copi o bob llyfr sy’n cael ei gyhoeddi yn y DU. Mae hefyd yn un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.