Doeddwn i erioed wedi astudio cyfrifeg na busnes o’r blaen, felly roeddwn i’n mynd i Aberystwyth heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc. Fodd bynnag, roedd y cwrs gradd yn cael ei addysgu’n dda iawn. Roedd fy nhiwtoriaid yn barod eu cymwynas ac roeddwn i’n teimlo y gallwn i siarad â nhw am unrhyw bryderon oedd gen i. Yn y cyfnod cyn yr arholiadau, roedden ni’n edrych ar lawer o hen bapurau, a oedd yn help mawr wrth adolygu.

Yn ystod yr haf rhwng fy ail a’m trydedd flwyddyn, fe wnes i dreulio saith wythnos gyda chwmni o’r enw Vax, yn gweithio yn eu hadran gyllid. Gyda chymaint o fyfyrwyr yn chwilio am waith, fe wnes i sylweddoli fy mod i angen rhywbeth i’m helpu i sefyll allan. Roedd hefyd yn ddefnyddiol iawn gan nad oedd gen i syniad a oeddwn i am fynd i fyd cyllid ar ôl y brifysgol, felly fe ges i syniad go lew sut fath o brofiad fyddai hynny.

Fues i’n chwarae i dîm pêl-droed dynion y brifysgol am dair blynedd tra yn Aberystwyth gan fwynhau pob eiliad. Rwy’n argymell yn gryf eich bod yn ymuno â chlwb neu gymdeithas tra yn y brifysgol. Fe wnes i gyfarfod â chymaint o bobl drwy’r clwb pêl-droed a phobl rwy’n bwriadu cadw mewn cysylltiad â nhw am amser hir. Fi hefyd oedd y Trysorydd yn ystod fy mlwyddyn olaf; mae bod yn aelod o bwyllgor yn edrych yn wych ar eich CV.

Roeddwn i wrth fy modd â’r dref o’r eiliad gyntaf. Gan fy mod i’n dod o ganolbarth Lloegr, lle mae’r traeth agosaf tua 90 munud i ffwrdd, roedd cael y môr ar garreg y drws yn brofiad arbennig! Mae’n dref fach iawn ond roeddwn i’n hoffi hynny – roeddech chi’n siŵr o daro i mewn i bobl o gwmpas y dref ac ar nosweithiau allan. Mae’r dref yn cynnig bywyd cymdeithasol gwych hefyd. Dydy’r clybiau ddim yn fawr iawn, ond fe allwch chi fynd allan unrhyw noson o’r wythnos gan wybod y bydd hi’n brysur. O ran gwneud ffrindiau, y ffordd orau yw bod yn ei chanol hi a chymryd rhan. Fe fyddwn i’n mynd i ddigwyddiadau ac yn siarad â phawb yn ystod wythnos y Glas. Unwaith eto, mae ymuno â chlwb yn help mawr i wneud ffrindiau.

Fe wnes i fwynhau’r cwrs, ond yn bersonol doeddwn i ddim eisiau mynd i faes cyfrifyddiaeth neu gyllid. Os ydych chi’n hapus i gymhwyso a gwneud mwy o arholiadau, yna mae’n broffesiwn gwych. Rydw i bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd Recriwtio i gwmni bach yn Birmingham.