Dad-ddofi Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn trawsnewid rhannau o'i champws yn gynefinoedd bioamrywiol trwy blannu gwrychoedd brodorol, dolydd blodau gwyllt, a phlannu coed i gefnogi bywyd gwyllt, cysylltedd ecolegol, a lles amlrywogaethau.
Bu dros 50 o wirfoddolwyr wrthi yn helpu plannu a sefydlu’r safle, gyda chefnogaeth ariannol gan Bartneriaeth Natur Ceredigion, a chyflenwyd planhigion mewn cydweithrediad â phrosiect Planhigion Prin Cymru Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.