Dad-ddofi Prifysgol Aberystwyth
Pam Mae Dad-ddofi Campysau Prifysgol yn Bwysig
Rydym yn byw mewn cyfnod sydd wedi'i ffurfio gan argyfyngau cysylltiedig hinsawdd, ecolegol a bioamrywiaeth. Ni ellir mynd i'r afael â'r heriau hyn ar wahân: mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu’r broses o golli bioamrywiaeth, tra bod ecosystemau sydd wedi dirywio yn lleihau gallu cymdeithas i addasu i newid amgylcheddol.
Nid cyfrifoldeb sefydliadau cadwraeth mawr neu’r prif dirfeddianwyr yn unig yw ymateb i'r heriau hyn. Mae gan brifysgolion, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, ac unigolion rôl bwysig i'w chwarae wrth gynorthwyo’r gwaith o adfer natur a chryfhau gwytnwch ecolegol ar draws tirweddau trefol a gwledig.
Mae prifysgolion mewn sefyllfa arbennig o dda i gyfrannu: nid yn unig trwy ymchwil a dysgu, ond hefyd trwy weithredu yn ymarferol ar draws eu campysau. Yn hanesyddol, mae tirweddau sefydliadol a threfol wedi'u cynllunio'n bennaf o amgylch anghenion dynol. Ond mae campysau, fel dinasoedd, hefyd yn gynefinoedd i blanhigion, anifeiliaid, ffyngau, peillwyr, a llawer o fathau eraill o fywyd. Mae prifysgolion yn cydnabod fwyfwy pwysigrwydd creu mannau sy'n cefnogi bioamrywiaeth a lles dynol.
Dad-ddofi Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn trawsnewid rhannau o'i champws yn gynefinoedd bioamrywiol trwy blannu gwrychoedd brodorol, dolydd blodau gwyllt, a phlannu coed i gefnogi bywyd gwyllt, cysylltedd ecolegol, a lles amlrywogaethau.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, nod y mentrau bioamrywiaeth yw nid yn unig sicrhau bod byd natur o fewn cyrraedd pobl yn fwy hwylus, ond hefyd cefnogi bywyd gwyllt am ei werth cynhenid ei hun. Mae creu lle i natur yn cydnabod bod ecosystemau iachach yn hanfodol i gynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor a bod pobl yn rhannu'r amgylcheddau hyn gyda llawer o rywogaethau eraill.
Mae un ardal ar y campws sydd wedi’i dad-ddofi yn dangos y dull hwn yn ymarferol. Wedi'i chynllunio i gefnogi bywyd gwyllt lleol wrth barhau i fod yn hygyrch i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, mae'r safle yn rhan o lwybr cerdded allweddol ar draws ystad y Brifysgol. Mae gwrychoedd brodorol, coed llydanddail a dolydd blodau gwyllt yn darparu bwyd, cysgod a chynefinoedd nythu i adar, mamaliaid, gwenyn, gloÿnnod byw, a pheillwyr pwysig eraill.
Bu dros 50 o wirfoddolwyr wrthi yn helpu plannu a sefydlu'r safle, gyda chefnogaeth ariannol gan Bartneriaeth Natur Ceredigion. Cyflenwyd planhigion hefyd mewn cydweithrediad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru drwy ei phrosiect Planhigion Prin Cymru, sy'n cyfrannu at gadwraeth y fflora hynny yng Nghymru sy'n wahanol yn fotanegol ochr yn ochr ag ymdrechion ehangach i adfer cynefinoedd.
Cyfiawnder Amlrywogaethau a'r Prosiect MUST
Mae'r fenter yn rhan o'r Prosiect MUST (Galluogi trawsnewidiadau aml-rywogaethol), sy'n ystyried sut y gall prifysgolion gefnogi bioamrywiaeth, gweithredu ar yr hinsawdd, a dyfodol mwy cynaliadwy.
Cefnogir y prosiect gan ymchwilwyr o Ysgol Fusnes Aberystwyth, gan gynnwys yr ymchwilydd PhD Saman Sobhani a'r Athro Mike Christie, y mae ei waith yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth, gwerthoedd ecosystemau, a chyfiawnder amlrywogaethau.
Tuag at Ddyfodol Amlrywogaethol a Rennir
Wrth i bwysau hinsawdd a bioamrywiaeth ddwysáu, mae prosiectau fel Safle Dad-ddofi Campws Prifysgol Aberystwyth yn dangos sut y gall prifysgolion a sefydliadau eraill gyfrannu'n uniongyrchol at adfer ecolegol wrth greu amgylcheddau iachach a mwy cysylltiedig i bobl a bywyd gwyllt.
Trwy greu cynefinoedd, partneriaethau cadwraeth, rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr, a rheoli’r campws ar sail ymchwil, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at fudiad sy’n tyfu ac sy'n ail-ddychmygu campysau fel amgylcheddau a rennir lle gellir hyrwyddo’r gwaith o adfer bioamrywiaeth, gweithredu ar yr hinsawdd, addysgu a lles cymunedol i gyd gyda'i gilydd.