Cam 1: Cymeradwyaeth Strategol

Ar y dudalen hon
Cael Cymeradwyaeth y Gyfadran
Diwydrwydd Dyladwy Cychwynnol
Cymeradwyaeth i symud y cais ymlaen / terfynu'r cais
Cais am Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth a drafft o'r Memorandwm

Mae'r cam cyntaf, sef datblygu a chymeradwyo, yn mynd â'r cynigion am Bartneriaeth o'r cyfnod cysyniadol drwodd i ennill Cymeradwyaeth Strategol. Wrth roi Cymeradwyaeth Strategol, gall Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol fynnu bod Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi a'i gyfnewid os nad oes un yn bod eisoes, ac fe fydd yn rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i'r prosiect i symud ymlaen i'r cam nesaf. I gael Cymeradwyaeth Strategol, rhaid i brosiectau fynd trwy'r camau canlynol:

1. Cael Cymeradwyaeth y Gyfadran:

Cyn mynd â'r syniad at y Swyddfa Partneriaethau Academaidd, dylai pob cynnig gael ei drafod, a lle bo angen, ei gymeradwyo (yn amodol ar lefel risg y Bartneriaeth arfaethedig), ar lefel y Gyfadran, trwy Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran. Felly, rhaid i adrannau sy'n dymuno cyflwyno prosiect cydweithrediadol gyflwyno cynnig amlinellol i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran. Rhaid i'r adrannau gael cymeradwyaeth y Pwyllgor i fynd ymlaen i ddatblygu eu cynnig a chael Cymeradwyaeth Strategol gan Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol.

2. Diwydrwydd Dyladwy Cychwynnol:

Ar ôl cael Cymeradwyaeth y Gyfadran, rhaid cysylltu â'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd i gael cyfarwyddyd ynglŷn â datblygu eu cynnig. Yn y lle cyntaf, gwahoddir cydweithwyr i gyfarfod ag aelod o staff y Swyddfa Partneriaethau Academaidd er mwyn egluro manylion eu cynnig a'r math o gydweithrediad dan sylw. Os yw'r math o gydweithrediad yn cael ei ddatblygu trwy adran arall o'r Brifysgol (e.e. Ymchwil, Busnes ac Arloesi, y Swyddfa Ryngwladol, yr Uwch Weithrediaeth) caiff cydweithwyr eu cyfeirio ymlaen fel sy'n briodol. Os yw'r cydweithrediad arfaethedig yn dod o fewn i gylch gorchwyl y Swyddfa Partneriaethau Academaidd, bydd yn cael ei roi dan ofal y Rheolwr Partneriaethau Academaidd a fydd yn cynorthwyo'r adran i gynnal y diwydrwydd dyladwy cychwynnol ac a fydd yn gwneud gwiriadau ar y darpar bartner sefydliad cyn cyflwyno cais am Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol i'w ystyried a'i gymeradwyo. Bydd hynny fel arfer yn golygu:

  • Adolygu'r Amcanion Sefydliadol
  • Adolygu'r adroddiadau Sicrwydd Ansawdd a gyhoeddwyd a/neu'r Adroddiadau Risg Busnes Tramor (fel sy'n briodol)
  • Cynnal Asesiad Risg Cychwynnol

Mae'n hanfodol bod risgiau unrhyw ddarpar gydweithrediad yn cael eu hasesu'n gywir a bod archwiliad diwydrwydd dyladwy yn cael ei gynnal. Bydd lefel hyn yn gymesur â math y gweithgaredd cydweithrediadol a gynigir.

Ni fydd angen i drefniadau isel eu risg, megis DPP heb gredydau a lleoliadau seiliedig ar waith, cael eu cymeradwyo, eu rheoli na'u hadolygu'n ganolog gan y Pwyllgor; gellir eu trefnu a'u rheoli ar lefel y Gyfadran. Rhaid i bob Cyfadran gadw cofrestr gynhwysfawr o bob gweithgaredd o'r fath a hysbysu'r Pwyllgor am unrhyw weithgareddau newydd, er gwybodaeth yn unig.

Yn achos mathau eraill o weithgareddau, cyn y gellir datblygu partneriaeth gydweithrediadol, rhaid i'r Brifysgol ystyried y materion canlynol;

  • statws y partner
  • swyddogaeth y partner yn y trefniant cydweithrediadol
  • arbenigedd y partner
  • y gweithgareddau sydd eisoes gan y partner gyda Sefydliadau Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Gyfunol
  • arbenigedd staff yn y partner sefydliad
  • adnoddau'r partner
  • cyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol y partner
  • statws ariannol y partner

I sefydlu'r uchod, dylid edrych ar wefan NARIC. Dylai adrannau/Cyfadrannau ddefnyddio'r Templed Asesu Risg Darpariaeth Gydweithrediadol yn gynnar yn natblygiad unrhyw ddarpariaeth gydweithrediadol ar gyfer unrhyw ddarpariaeth strategol ar lefel y partner. Mae Rhestr Wirio Diwydrwydd Dyladwy i'w chael ar gyfer cynigion yn gysylltiedig â darpariaeth rhyddfraint a darpariaeth ddilysu. Mae Pwyllgor y Ddarpariaeth Gydweithrediadol yn cadw'r hawl i ofyn am gyfarwyddyd a chyngor allanol yn ôl yr angen.

3. Cymeradwyaeth i symud y cais ymlaen / terfynu'r cais:

[Yn ol i'r brig]

Ar yr adeg hon, bydd y cais yn cael ei raddio am risg (RAG) ar sail yr ymholiadau cychwynnol. Ar hyn o bryd, gall cynnig gael:

Ei gymeradwyo (ar ôl derbyn ac archwilio'r gwaith papur) yn achos prosiectau risg isel a chytundebau cychwynnol Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth;

Rhaid cyflwyno'r dogfennau canlynol ynghyd â chais am Gymeradwyaeth Strategol:

  • Cais am Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth a drafft o'r Memorandwm

Ar ôl cael Cymeradwyaeth Strategol, gellir cwblhau, llofnodi a chyfnewid Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (os oes ei angen) â'r darpar bartner. Ar ôl derbyn y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi gan y darpar bartner, gall y prosiect symud ymlaen i Gam 2. Os nad oes angen Memorandwm, gall y cynnig symud ymlaen i'r cam nesaf ar ôl cael ei gymeradwyo. Ni ellir datblygu'r bartneriaeth gydweithrediadol ymhellach tan iddo gael cymeradwyaeth Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol.

Mae cytuno ar Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth a'i lofnodi yn nodi diwedd cam cyntaf y drefn o ddatblygu a chymeradwyo ar gyfer y mathau canlynol o weithgareddau cydweithrediadol:

  • Cyd-arolygu / Cyd-warchod PhD
  • Cytundebau Cydweddu (yn cynnwys cytundebau 2+2 / 3+1 ac amrywiadau ar y model hwn)
  • Graddau Cydweithrediadol
  • Trefniadau Rhyddfraint
  • Dilysu

Yn ei hanfod mae'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yn ddatganiad nad yw'n rhwymo rhwng y Brifysgol a'r darpar bartner yn datgan bwriad i gydweithredu yn y dyfodol. Mae Memorandwm yn ddilys am 3 blynedd fel arfer.

Bydd ceisiadau am weithgaredd cydweithrediadol yn cael eu cyflwyno gan yr Arweinydd Rhaglen Academaidd sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cynnig. Disgwylir i'r Arweinydd Rhaglen Academaidd drafod y cynnig â'r Rheolwr Partneriaeth Academaidd perthnasol a fydd yn cyd-gysylltu â staff eraill yn y Brifysgol yn ôl yr angen (er enghraifft, Swyddog Rhyngwladol yr ardal berthnasol, y Deon Cysylltiol Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr / Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, staff y Gofrestrfa Academaidd, ac yn y blaen, fel sy'n briodol). Os oes mwy nag un Gyfadran yn ymwneud â'r cais neu os yw'n gais gan y Brifysgol yn gyffredinol, rhaid rhoi ar y ffurflen enw'r prif gyswllt sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynllun.

Rhaid i ffurflen gais y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gynnwys targedau SMART ar gyfer datblygiad y cynnig am y flwyddyn i ddod. Yr Arweinydd Rhaglen Academaidd sy'n atebol am gyflenwi targedau'r Memorandwm.

Rhaid i unrhyw bartner o'r Deyrnas Gyfunol fod yn sefydliad noddi Haen 4 yr UKVI yn ei hun, fel y gall y Brifysgol fod yn sicr bod y partner mewn sefyllfa i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y System Bwyntiau Fisa. Rhaid cysylltu â'r Rheolwr Cydymffurfio (compliance@aber.ac.uk) i gael cyngor cyn dod i gytundeb ffurfiol sydd, neu a allai, ymwneud â myfyrwyr fisa Haen 4, yn dilyn newidiadau i reolau UKVI ynglŷn â phartneriaethau.

Rhaid i ffurflenni cais Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth ar gyfer darpar bartneriaid rhyngwladol a chynigion am gydweithrediadau yn y Deyrnas Gyfunol sy'n ganolig i uchel eu risg gael eu llofnodi a'u cyflwyno i'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd i gael ystyriaeth gychwynnol trwy collaboration@aber.ac.uk. Mae pob cais am weithgareddau partneriaeth gydweithrediadol yn cael eu rhoi ar gronfa-ddata yn y Swyddfa Partneriaethau Academaidd ac ar safle SharePoint Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol fel y gall aelodau'r Bwrdd eu gweld.

Os yw sefydliad dyfarnu yn ymrwymo gyda chorff dyfarnu awdurdodedig arall i ddarparu rhaglen astudio sy'n arwain ar ddyfarniad academaidd deuol neu ar y cyd, rhaid iddo allu ei fodloni ei hun bod ganddo'r cymhwyster cyfreithiol i wneud hynny, a bod safon academaidd y dyfarniad, gan gyfeirio at y Fframweithiau Cymwysterau Addysg Uwch [FHEQ], yn cyflawni ei ddisgwyliadau ei hun, waeth beth yw disgwyliadau'r corff dyfarnu partner.

Gall Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol naill ai gymeradwyo'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth, gofyn am ragor o wybodaeth, neu wrthod y cynnig. Ar ôl ei gymeradwyo, gall y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi rhwng y Brifysgol a'r darpar bartner. Llofnodir y Memorandwm ar ran y Brifysgol gan y Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr.

Os yw'r partner yn dymuno defnyddio ei dempled Memorandwm ei hun, rhaid i hwn gael ei adolygu gan staff y Swyddfa Partneriaethau Academaidd a rhaid anfon y drafft i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol cyn llofnodi, er mwyn sicrhau nad oes iddo oblygiadau arwyddocaol nac oblygiadau cyfreithiol o unrhyw fath na fyddai'r Brifysgol yn dymuno ymrwymo iddynt. Pe byddai'r Gyfadran/Adran Academaidd yn dymuno adeiladu ar ei Femorandwm, rhaid i gytundebau ychwanegol gael eu datblygu, eu cymeradwyo a'u llofnodi gan y ddwy ochr, gogyfer â phob trefniant cydweithrediadol.

  • Ei gyflwyno i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol (yn dilyn derbyn gwaith papur) yn achos prosiectau risg canolig-uchel;

Os yw'r cynnig yn symud ymlaen i'r Bwrdd, rhaid cyflwyno'r dogfennau canlynol ynghyd â'r cais am Gymeradwyaeth Strategol:

  • Adroddiad Archwiliol Cychwynnol
  • Ei anfon yn ôl i'r adran/Gyfadran i'w ystyried ymhellach;
  • Ei derfynu gan y Dirprwy Is-Ganghellor neu un a enwebir ganddo/ganddi.
  • Canlyniadau'r Asesiad Risg Cychwynnol