Adran 8.5 - Addasrwydd Strategol
Mae darpariaeth partneriaeth gydweithredol lwyddiannus yn cynnig ystod eang o fanteision sy'n cefnogi'r Brifysgol i gyflawni ei Chynllun Strategol a'i Chenhadaeth graidd.
Meithrin gwybodaeth: Rydym yn meithrin ac yn rhannu'r syniadau a'r arbenigedd sy'n creu datblygiadau er gwell i bobl, ein planed a’n bywyd diwylliannol.
Adeiladu cymunedau: Rydym yn dod â phobl at ei gilydd yn y Brifysgol a’r tu hwnt i ni gael dysgu, y naill gan y llall, a datblygu dulliau o gefnogi ein gilydd.
Atgyfnerthu Cymru: Rydym yn meithrin Cymru sy’n ffyniannus ac yn estyn allan i’r byd, yn Aberystwyth a’r tu hwnt, ac yn gweithio i hyrwyddo egni’r Gymraeg.