Mrs Judith Shepherd

BA [Anrhydedd] Prifysgol Strathclyde; MLitt Prifysgol Aberdeen

Mrs Judith Shepherd

Dirprwy Gofrestrydd - Partneriaethau Academaidd

Cofrestrfa Academaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Judith Shepherd yn Ddirprwy Gofrestrydd – Partneriaethau Academaidd o fewn y Gofrestrfa Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dechreuodd Judith yn ei swydd bresennol fel Dirprwy Gofrestrydd – Partneriaethau Academaidd ym mis Hydref 2018. Cyn hynny, roedd ar secondiad fel Pennaeth Darpariaeth Gydweithredol yn y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ers mis Rhagfyr 2017.

Ymunodd Judith â’r Brifysgol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Gorffennaf 2003 fel Swyddog Gweinyddol Academaidd a chafodd ei secondio i rôl Swyddog Gweinyddol Adrannol cyn dod yn Rheolwr Portffolio a oedd yn gyfrifol am Ddysgu ac Addysgu, ym mis Gorffennaf 2014.

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, gweithiodd Judith fel Swyddog Datblygu (Rhoddion Mawr) ym Mhrifysgol Aberdeen.

Cyfrifoldebau

Arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau Darpariaeth Gydweithredol a Phartneriaeth Academaidd y Brifysgol.