Kerry Bertenshaw

 Kerry Bertenshaw

Cofrestrydd Cynorthwyol - Sicrhau a Gwella Ansawdd

Cofrestrfa Academaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Ymunodd Kerry â’r Brifysgol yn 2004 fel Swyddog Ysgrifenyddol yr Arholiadau yn Adran y Gyfraith a Throseddeg cyn symud i’r Gofrestrfa Academaidd yn 2014. Cyn ymuno â’r Brifysgol graddiodd Kerry o UCLAN gyda gradd BA (Anrhydedd) mewn Economeg a gweithiodd i nifer o gwmnïau TG mawr megis Intel ac ntl: cyn dod yn Rheolwr Cyfrif Corfforaethol yn y sector TG yn Llundain.

Fel Cofrestrydd Cynorthwyol mae Kerry yn gyfrifol am reoli’r Tîm Sicrwydd Ansawdd o ddydd i ddydd yn ogystal â goruchwylio polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol, gan gynnwys adolygu portffolio a datblygu cynlluniau, monitro cynnydd myfyrwyr, a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd ac Adolygiad Terfynol. Mae Kerry hefyd yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

Yn ogystal â hyn mae Kerry’n rhoi cymorth arbennig o ran Sicrwydd Ansawdd i Gyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.