Llythyr Cyflwyniad i Cyfleusterau Bancio DU
Os yr ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol ac eisiau agor cyfrif banc yn Aberystwyth, mae’n bosib bydd angen i chi ofyn am Lythyr Cyflwyniad I Gyfleusterau Bancio DU.
Unwaith yr ydych wedi cofrestru yn ffurfiol fel myfyriwr yn y Brifysgol fedrwch ofyn am lythyr i gefnogi eich cais i agor cyfrif banc yn Aberystwyth.
Cyn i chi ofyn am y llythyr mae’n rhaid i chi ddewis y banc yr ydych yn bwriadu agor cyfrif hefo. Y banciau sydd ar gael yn Aberystwyth yw:
HSBC, Nationwide Building Society, NatWest, Principality, Santander, TSB
Os llythyr ar gyfer Nationwide Building Society neu Barclays Bank plc sydd angen arnoch, bydd angen i chi ebostio aocstaff@aber.ac.uk
Mae’n RHAID sicrhau bod eich enw ar eich cofnod myfyriwr yn dangos fel y ma ear eich Pasbort. Os yr ydych yn bwriadu gwneud cais i newid eich enw fedrwch wneud hyn o dan y label Personol ar eich cofnod myfyriwr.
Mae’n rhaid bod cyfeiriad tymor a chartref ar eich cofnod myfyriwr neu ni fydd eich cais yn cael ei brosesu.
Before you request your letter, ensure your name on the Student Record appears as it does on your passport. If you wish to request a change to your name, you can do so on My Personal Information.
I wneud cais am y llythyr, dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol.
- Mewn cofnodwch yma https://studentrecord.aber.ac.uk/
- Dewisiwch Fy Ngwybodaeth Bersonol
- Dewisiwch Lawrlwytho Llythyr Swyddogol
- Ewch i Dewisiwch Eich Rhaglen a gwiriwch bod y cwrs sydd yn cael ei ddangos yw'r cwrs yr ydych eisiau lawrlwytho llythyr ar gyfer.
- Ewch i Dewiswch y math o lythyr sydd ei angen, a dewis Lythyr Cyflwyno Banc y DG.
- Bydd ganddo’ch dewis o lawrlwytho y llythyr fel dogfen PDF, neu medrwch ei argraffu yn Llyfrgell Hugh Owen neu fannau argraffu eraill. Rhaid argraffu'r llythyr mewn lliw. .
Os yw eich enw neu gyfeiriad yn anghywir ac yr ydych angen ei newid medrwch wneud hyn drwy ddewis ‘anghywir’ a bydd hwn yn eich cyfeirio at newid eich manylion. Os nad oes cyfeiriad cartref na thymor ar eich cyfrif ni fyddwch yn gallu symud ymlaen gydag eich cais.
Yna, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cwrs a dewis y banc yr ydych am greu cyfrif ynddo.
Bydd y llythyr yn cael ei greu yn syth os yr ydych yn penderfynu ei argraffu eich hunain.
Fedrwch argraffu'r llythyr o Lyfrgell Hugh Owen neu o unrhyw fan ble mae argraffydd lliw ond mae’n RHAID argraffu mewn lliw.
Bydd y llythyr ar gael i’w ail-argraffu o eich Cofnod Myfyriwr am gyfnod o 7 diwrnod.
Os yr ydych yn fyfyriwr o’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol bydd angen i chi wneud cais am y llythyr yn uniongyrchol o’r ganolfan (tesol@aber.ac.uk) .