Oes modd imi newid fy nghwrs?

Cyn i chi wneud cais i'ch adran academaidd, mae angen i chi gysylltu â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (ISA) fydd yn gallu rhoi gwybod a yw’r newid rydych chi'n dymuno ei wneud yn un a ganiateir o safbwynt fisa. Mae ystyriaethau ychwanegol i'w hystyried gan fod posibilrwydd na fydd eich fisa yn caniatáu ichi newid cwrs. Mae hyn oherwydd bod eich CAS/Fisa yn un ar gyfer astudio ar lefel benodol o fewn maes penodol. Fodd bynnag, gellir caniatáu rhai newidiadau, er enghraifft, os ydych yn rhoi'r gorau i elfen fechan o'ch cwrs ond yn dal i astudio'r prif bwnc. Mae'n bosib y caniateir mân newid o fewn adran hefyd, er enghraifft BA Celf i BA Hanes Celf. Bydd yr ISA hefyd yn ystyried pa ofynion ychwanegol y gallai fod eu hangen ar gyfer eich cwrs newydd, er enghraifft a oes angen cliriad ATAS ar gyfer eich cwrs newydd.

Mewn rhai achosion, gall newid eich cwrs olygu gorfod gwneud cais am fisa newydd. Bydd hyn yn golygu costau ychwanegol. Rydym yn eich annog i gael y trafodaethau hyn yn gynnar yn y broses ac i gysylltu â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ffurfiol.

Os caniateir y newid gan eich fisa a bod eich adran neu adrannau wedi cymeradwyo'r newid, bydd eich cofnod myfyriwr yn cael ei ddiweddaru.

Rhoddir gwybod i UKVI am y newid wrth gwrs er mwyn i'r wybodaeth gywir gael ei chadw ar eich cofnod UKVI.