Gofyn am Absenoldeb Awdurdodedig fel deiliad Fisa Myfyriwr
Mae'r prosesau a amlinellir yma yn ymwneud â deiliaid fisa myfyrwyr yn unig.
Mae'r prosesau hyn yn eich diogelu chi a'ch fisa gan y byddwch yn gallu profi i swyddogion y ffin bod gennych ganiatâd i fod i ffwrdd o'r Brifysgol. Mae'r broses hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw gamau yn cael eu cymryd o dan y polisi ymroddiad a phresenoldeb gan fod eich absenoldeb o Aberystwyth wedi'i gymeradwyo.
Sicrhewch fod ceisiadau am absenoldeb awdurdodedig wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo cyn cwblhau eich trefniadau teithio.
Ni all pob cais gael ei gymeradwyo gan eich adran/goruchwyliwr ac ni ddylai myfyrwyr gymryd yn ganiataol y bydd unrhyw gais yn cael ei gymeradwyo'n awtomatig.
Bydd absenoldebau anawdurdodedig yn cyfrif fel pwyntiau cyswllt a gollwyd a gallent arwain at eich gwahardd o'r Brifysgol a chwtogi eich fisa. Ni roddir caniatâd ôl-weithredol fel arfer.
Mae'r broses ar gyfer gwneud cais am absenoldeb awdurdodedig yn wahanol yn dibynnu ar eich math o gwrs:
