Eich Cyfrifoldebau Fisa Myfyriwr
Drwy gofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth, cytunasoch i gydymffurfio â'r cyfrifoldebau isod:
- Ymgysylltu’n llawn â'ch cwrs a chadw at y gofynion a nodir yn y Polisi Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb Deiliaid Fisa Myfyriwr (mae hwn ar gael ar eich cofnod myfyriwr a gwefan Cydymffurfio â UKVI).
- Cadw manylion cyswllt cywir a chyfredol ar eich cofnod myfyriwr.
- Gwneud yn siŵr nad ydych chi'n gweithio mwy o oriau nag y mae'ch fisa yn caniatáu.
- Glynu wrth y polisïau sydd ar waith i helpu i ddiogelu eich fisa Myfyriwr.
- Hysbysu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth am unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau (fel yr amlinellir yn y llawlyfr cyfrifoldebau Fisa Myfyriwr).
- Ymateb yn brydlon i e-byst gan y Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI a gofyn am gymorth gan y Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk) os y cewch chi unrhyw anawsterau wrth gael gafael ar eich e-byst.
- Cysylltu â'r Swyddfa Cydymffurfio â’r UKVI i gael cymorth os nad ydych yn deall rhywbeth.
- Anfon unrhyw ddogfennau y mae’r Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI yn gofyn amdanynt. Dylech flaenoriaethu ceisiadau o'r fath gan y bydd hyn yn diogelu eich fisa.
Gall methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r cyfrifoldebau hyn arwain at Brifysgol Aberystwyth yn rhoi gwybod i Fisâu a Mewnfudo y DU a allai effeithio ar eich statws fisa a'ch hawl i astudio yn y DU.
