Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb

Mae'n rhaid i'r Brifysgol fonitro ymroddiad a phresenoldeb yr holl fyfyrwyr sy’n ddeiliaid fisa yn ystod Dyddiadau'r Tymor.

Disgwylir i bob myfyriwr ymroi’n llawn i’w cwrs astudio drwy fod yn bresennol ymhob gweithgaredd addysgu a amserlennwyd a thrwy ymroi'n rheolaidd i addysgu ar-lein ac adnoddau dysgu.

Mae gan y Brifysgol ddyletswydd i sicrhau bod myfyrwyr sy'n meddu ar fisa Myfyriwr yn ymroi i’w hastudiaethau er mwyn cynnal eu fisa a chadw at reolau’r fisa Myfyriwr.

Gellir gweld y Polisi Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb Deiliaid Fisa Myfyriwr 2026-27  yn llawn hefyd trwy eich cofnod myfyriwr.

Fe'ch cynghorir i ddarllen y polisi llawn ac i ddeall y camau y gellir eu cymryd os nad ydych yn cydymffurfio â'r polisi.