Sut mae monitro ymgysylltiad yn gweithio os ydw i ar Flwyddyn Dramor/Blwyddyn mewn Diwydiant/Semester Allan?

Cyn mynd ar Semester/Blwyddyn Dramor neu cyn dechrau ar eich Blwyddyn mewn Diwydiant, bydd tîm Cydymffurfiaeth UKVI yn cysylltu â chi i egluro sut bydd dyletswyddau monitro ymgysylltu yn digwydd tra byddwch i ffwrdd o Aberystwyth.

Bydd y tîm Astudio Dramor neu eich adran yn rhoi gwybod i ni am y canlynol:

 

  • Enw’r sefydliad
  • Enw a chyfeiriad e-bost eich rheolwr llinell/prif gyswllt yn y sefydliad
  • Enw’r sefydliad
  • Dyddiad dechrau a gorffen symud i'r sefydliad

Byddwn yn rhoi gwybod i UKVI am y manylion hyn fel newid dros dro yn lleoliad yr astudiaeth.

Am bob mis rydych chi i ffwrdd o Aberystwyth bydd angen i chi gyflwyno taflen bresenoldeb wedi'i llofnodi i sicrhau bod eich cyfrifoldebau fisa yn cael eu cyflawni.